Ewch i’r prif gynnwys

Symud tŷ

Gallwch hawlio treuliau os ydych yn defnyddio cwmni symud tŷ, yn llogi fan neu'n defnyddio eich cerbyd eich hun.

Defnyddio cwmni symud tŷ

Os ydych yn defnyddio cwmni symud tŷ, bydd angen i chi gael tri dyfynbris ysgrifenedig wrth y cwmnïau a dylech eu cynnwys fel rhan o'ch cais am dreuliau. Bydd angen i chi gyflwyno'r dyfynbrisoedd gwreiddiol -mae'r gofyniad hwn yn rhan o reoliadau ariannol y Brifysgol.

Os mae'n hanfodol eich bod yn cadw un neu'r holl dderbynebau am ryw reswm, yna mae'n bosibl y gall yr Adran Adnoddau Dynol, (AD), ffotocopïo eich gwaith papur a dychwelyd y copïau gwreiddiol. Ni fyddwn yn gallu prosesu'ch cais nes ein bod yn derbyn y ddogfennaeth hon. Efallai gall y cwmnïau wnaeth ddarparu'r dyfnbrisoedd roi copïau gwreiddiol ychwanegol i chi.

Rydym yn eich annog i ddefnyddio'r cwmni mwyaf rhesymol, ond os nad ydych yn hapus gyda'r dyfynbris rhataf, dylech ddefnyddio'r cwmni sy'n cynrychioli'r gwerth gorau am yr arian ac sy'n cyflawni eich anghenion.

Mewn rhai amgylchiadau, efallai bydd modd i chi hawlio costau symud o fwy na un lleoliad. Bydd ceisiadau o'r fath yn cael eu hystyried fesul achos. Cyn i chi wneud unrhyw drefniadau, cysylltwch ag Adnoddau Dynol am gyngor pellach.

Os bydd y cwmni symud tŷ yn gofyn am dâl rhag blaen, nid yw'r Brifysgol fel arfer yn gallu eu talu yn uniongyrchol. Cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol os oes angen cymorth pellach arnoch chi.

Llogi fan

Os ydych yn llogi fan, gallwch hawlio costau llogi a thanwydd. Rydym yn talu costau milltiredd o 45c y filltir am y 100 milltir gyntaf ac yna 13c y filltir wedi hyn. Gallwch hawlio costau deunydd pacio hefyd. Bydd yr holl gostau symud yn cael eu didynnu o'r cyfanswm sydd ar gael ar gyfer adleoliad.

Defnyddio eich cerbyd eich hun

Os ydych yn bwriadu defnyddio eich cerbyd eich hun ar gyfer symud, ni fydd y Brifysgol yn talu lwfans milltiredd uwch i chi.

Cysylltwch

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn dymuno trafod symud ymhellach ag AD, cysylltwch:

Pobl Caerdydd