Beth allwch chi ei hawlio?
Gellir hawlio treuliau amrywiol yn unol â deddfwriaeth Cyllid a Thollau EM.
Cyfeiriwch at dudalen 2 o'r polisi adleoli am restr o dreuliau y gallwch eu hawlio (er enghraifft, teithio terfynol, symud a llety dros dro).
Ym mhob achos, dylai cyflogeion sy'n hawlio treuliau geisio'r gwerth gorau bosibl ac mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i dalu hyd at y gwerth hwn yn unig os yw'n uwch na hynny.
Caiff treuliau eu talu i'r cyflogai yn unig pan gyflwynir derbynebau dilys a'r dogfennau gofynnol ac ni ellir talu trydydd parti'n uniongyrchol. Ni chaniateir rhagdalu treuliau adleoli.
Caiff unrhyw dreuliau a delir mewn arian tramor eu talu yn ôl y gyfradd cyfnewid ar adeg prynu yn unol â gwefan troswr arian XE.
Hefyd, nid yw'r polisi adleoli yn cynnwys symud cyflenwadau swyddfa a/neu labordy Efallai y bydd eich Pennaeth Ysgol neu Adran yn gallu eich cynghori ymhellach ynghylch y mater hwn. Cyfeiriwch hefyd at dudalen 3 o'r polisi adleoli am restr o dreuliau nad ydynt wedi'u cynnwys o dan y cynllun adleoli megis y dreth gyngor, biliau cyfleustodau ac yswiriant
Fisâu
Yn unol â rheoliadau CThEM, gellir cynnwys costau fisa i'w had-dalu yn y lwfans adleoli. Fodd bynnag, i'r rheini sydd eisoes yn y DU ac yn symud i Gaerdydd, mae ad-dalu costau fisa'n agored i dreth incwm ac yswiriant gwladol. Gall unigolion nad ydynt yn hanu o'r DU ac sy'n dod i ymgymryd â chyflogaeth hawlio ad-daliad o fewn eu lwfans adleoli heb unrhyw atebolrwydd treth incwm ac yswiriant gwladol.
Nodwch fod y gefnogaeth hon yn gymwys i gost y fisa yn unig. Nid yw’r ffïoedd canlynol wedi’u cynnwys yn y polisi adleoli (ni fwriedir i'r rhestr hon fod yn gyflawn):
- teithio sy'n gysylltiedig â'ch fisa
- costau gweinyddu ar gyfer cwblhau ceisiadau am fisa
- archwiliadau cyrraedd/ymadael.
- cofrestru'r heddlu
- ffïoedd pasbort.
Os oes angen cymorth ariannol ychwanegol arnoch ar gostau fisa, gweler Cynllun Benthyciad Fisa y Brifysgol.
Dylai'r rheini nad ydynt yn gymwys ar gyfer adleoli a/neu sydd angen cymorth ariannol ychwanegol ar gostau fisa gyfeirio at Gynllun Benthyciad Fisa'r Brifysgol.
Gordal Iechyd Mewnfudo (IHS)
O 1 Awst 2023 gellir hawlio'r Gordal Iechyd Mewnfudo (IHS) o dan bolisi adleoli a lwfansau.
Yn debyg i gostau fisa;
- Os ydych yn adleoli o’r tu allan i'r Deyrnas Unedig, ni fydd y gost hon yn drethadwy.
- Os ydych yn adleoli yn y Deyrnas Unedig, yna bydd y gost yn drethadwy
Yn berthnasol i'r gordal cychwynnol untro, ddim yn berthnasol ar gyfer adnewyddiadau gordal IHS a rhaid ei hawlio ar yr un pryd â'r hawliad fisa.
Os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â rheolwr Adnoddau Dynol eich Coleg / Gwasanaethau Proffesiynol.