Faint allwch chi ei hawlio?
Caiff gweithwyr sy'n bodloni'r cymhwysedd adleoli hawlio hyd at uchafswm o £4,460 o dreuliau adleoli cymwys.
I benodiadau ar lefel Uwch Athrawol ac Athrawol, uchafswm y lwfans yw £8,000. Bydd unrhyw lwfans adleoli ychwanegol yn gorfod derbyn cymeradwyaeth yr Is-ganghellor. Mae manylion pellach ynghylch y meini prawf cymhwysedd ar gael yn adran 5 ein dogfen polisi adleoli.
Os yw eich teulu'n derbyn unrhyw arian adleoli, mae angen i chi roi gwybod i ni am y bydd hynny'n effeithio ar faint o dreuliau adleoli y gallwch eu hawlio o'r Brifysgol. Bydd yn ofynnol i chi lofnodi datganiad i gadarnhau nad ydych yn cael costau adleoli o unrhyw ffynhonnell arall.
Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol
Yn gyffredinol, mae treuliau adleoli wedi'u heithrio o dreth incwm ac yswiriant gwladol ac eithrio costau fisa i'r rheini sy'n adleoli o fewn y DU yn ôl rheoliadau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM). Mae manylion pellach ynghylch costau fisa ar gael yn adran 6 ein dogfen polisi adleoli.
Os yw'r lwfans ychwanegol yn uwch na £8,000, mae'n agored i dreth incwm ac yswiriant gwladol.