Deoniaid Addysg a Phrofiad Myfyrwyr

Mae'r rôl hon ar gyfer ymgeiswyr mewnol Prifysgol Caerdydd yn unig
Wrth i ni gychwyn ar ein taith uchelgeisiol yng Ngorwel Un Strategaeth 2035 y Brifysgol, mae’n amserol ac yn briodol ystyried arweinyddiaeth yn y portffolio addysg a phrofiad myfyrwyr [ESE].
Wrth i ni gychwyn ar ein taith uchelgeisiol yng Ngorwel Un Strategaeth 2035 y Brifysgol “Ein dyfodol, gyda’n gilydd”, mae’n amserol ac yn briodol ystyried arweinyddiaeth yn y portffolio addysg a phrofiad myfyrwyr [ESE] i sicrhau bod gennym ni'r arweinwyr, y sgiliau a’r galluoedd priodol i gyflawni’r strategaeth newydd, a’n bod yn gallu cefnogi ysgolion academaidd a gwasanaethau proffesiynol i ddiwallu anghenion ein corff amrywiol o fyfyrwyr.
Felly byddwn yn ail-gyflunio strwythur y Deoniaid Addysg. Mae swyddi gwag mewn uwch rolau nawr yn cynnig cyfle i sefydlu a recriwtio i dair rôl Deon Addysg Thematig newydd: Deon Ansawdd Academaidd, Deon Llwyddiant Myfyrwyr, a Deon Portffolio, Cwricwlwm ac Arloesedd Dysgu. Ochr yn ochr â hyn, bydd newidiadau i rolau Deoniaid Addysg y Colegau'n caniatáu iddynt gydweddu, a gweithio mewn partneriaeth gyda’r rolau thematig newydd, ynghyd â chynnal ffocws ar eu Coleg a’u Hysgolion. Bydd pob Deon yn cyfrannu at drafodaethau ar arweinyddiaeth academaidd i adolygiad y Colegau ac Ysgolion, gan sicrhau bod y prif rolau addysg yn cydweddu ledled y Brifysgol.
Yn gyntaf rydym ni’n recriwtio ar gyfer rolau’r Deoniaid Addysg Thematig, sy’n atebol i’r Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad Myfyrwyr. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws pob rhan o'r Brifysgol i sicrhau y cyflawnir Mesurau Llwyddiant allweddol y Brifysgol ar gyfer metrigau megis boddhad myfyrwyr, dilyniant a dyfarniadau gradd, yn ogystal â chyflogadwyedd. Bydd y rolau'n hanfodol wrth arwain llawer o'r prosiectau ESE a nodir yn y Cynllun Trawsnewid.
Bydd deiliaid rolau Deon Thematig a Deon Addysg yn gweithio mewn partneriaeth â'r myfyrwyr, ac â thimau gwasanaethau proffesiynol allweddol ar lefel Ysgol, Coleg a Phrifysgol a bydd angen iddynt hefyd allu gweithio ar draws ffiniau disgyblaethol a thimau i lunio gweledigaeth gyffredin ar gyfer cyflawni Strategaeth y Brifysgol ar gyfer Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, i ddiwallu anghenion ein myfyrwyr. Byddant yn cyfrannu at wella eglurder ynghylch strwythurau gweithgarwch ac atebolrwydd ac ar yr un pryd yn llywio'r amgylchedd ariannol heriol presennol gyda ffocws ar ddeilliannau.
Rydym ni’n chwilio am ddeiliaid rôl sy'n unigolion ag ymroddiad i wella profiadau dysgu ac addysgu ledled y Brifysgol, sy'n canolbwyntio ar ddeilliannau ein holl fyfyrwyr ac sydd â phrofiad o weithio mewn partneriaeth. Fel rhan o Uwch Dîm Arwain ESE, bydd disgwyl i'r deiliaid rôl fod yn ddynamig, yn canolbwyntio ar ddatrysiadau, yn eu cynrychioli eu hunain ac eraill, yn hyrwyddwyr proffil uchel, ac yn hwyluso amlygrwydd eang i'r agenda rhagoriaeth Addysg a Phrofiad Myfyrwyr.
Mae i’r swydd ymrwymiad cyllidol digonol i brynu'r amser sydd ei angen ar gyfer y rôl gan Ysgol gartref deiliad y swydd. Bydd rolau’r Deon Llwyddiant Myfyrwyr a’r Deon Portffolio, Cwricwlwm ac Arloesedd Dysgu yn 0.8 CALl a bydd rôl y Deon Ansawdd Academaidd yn 0.6 CALl. Mae pob rôl am gyfnod penodol o dair blynedd, gyda’r posibilrwydd o un tymor pellach o dair blynedd fel arfer. Bydd deiliaid rôl y Deon Llwyddiant Myfyrwyr a’r Deon ar gyfer Portffolio, Cwricwlwm ac Arloesedd Dysgu yn derbyn lwfans blynyddol untro, di-bensiwn o £6,000, a bydd deiliad rôl y Deon Ansawdd Academaidd yn derbyn lwfans blynyddol untro, di-bensiwn o £4,500
Bydd y rolau'n atebol i'r Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr. Y dyddiad cychwyn fydd cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

Deon Ansawdd Academaidd
Deon Ansawdd Academaidd disgrifiad swydd
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.

Deon Portffolio, Cwricwlwm ac Arloesedd Dysgu
Deon Portffolio, Cwricwlwm ac Arloesedd Dysgu disgrifiad swydd
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.

Deon Llwyddiant Myfyrwyr
Deon Llwyddiant Myfyrwyr disgrifiad swydd
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Sut i wneud cais
I wneud cais, amgaewch CV byr (heb fod yn hwy na phum ochr A4) a llythyr eglurhaol (dim mwy na dwy ochr), sy'n cydweddu'n benodol â manyleb yr unigolyn ac sy'n amlinellu'r canlynol:
- Eich gweledigaeth ar gyfer y rôl dros y tair blynedd nesaf, gan gynnwys synnwyr clir o flaenoriaethau/amcanion a chynlluniau i’w cyflawni
- Sut byddech chi’n meithrin cysylltiadau gwaith effeithiol ym mhob rhan o’r Brifysgol, er mwyn cefnogi amcanion y rôl
- Sut mae eich sgiliau, eich arbenigedd a’ch profiad, yn ogystal â'ch nodweddion personol, yn eich paratoi i wneud cyfraniad cadarnhaol yn y rôl
Dylid cyflwyno ceisiadau ysgrifenedig erbyn 5pm, dydd Llun 10 Mawrth i Rhian Perridge, Rheolwr AD, drwy anfon e-bost at PerridgeR@caerdydd.ac.uk.
Os dymunwch wneud cais am fwy nag un rôl bydd angen i chi gyflwyno ceisiadau ar wahân o ystyried y meini prawf a'r dyletswyddau gwahanol ar gyfer pob rôl.
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol i PVCEducation-PA@caerdydd.ac.uk
Mae cyfweliadau yn debygol o gael eu cynnal yn ystod yr wythnosau sy'n dechrau 17 Mawrth 2025 a 24 Mawrth 2025.