Deon Rhanbarthol ar gyfer y Dwyrain Canol
Ymgeiswyr mewnol yn unig
Rydym yn ceisio creu tîm o Ddeoniaid rhanbarthol a fydd yn gweithio gyda’r Rhag Is-ganghellor Rhyngwladol, a’r Swyddfa Ryngwladol, i gyflawni uchelgeisiau rhyngwladol strategaeth newydd ein Prifysgol: Prifysgol Caerdydd: ein dyfodol, gyda'n gilydd.
I ddechrau, bydd pum Deon Rhanbarthol: ar gyfer Affrica, Cyfandiroedd America, Tsieina, India a'r Dwyrain Canol, ac mae’n debygol y bydd cyfleoedd ychwanegol yn dod i'r amlwg yn y dyfodol. Cewch eich cefnogi gan staff yn y Swyddfa Ryngwladol, a byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â nhw a chydag ystod eang o gydweithwyr academaidd ar draws y sefydliad.
Bydd ein Deoniaid yn gweithio ar draws y portffolio rhyngwladol, gan ddatblygu partneriaethau addysg ac ymchwil sydd o fudd i’r ddwy ochr, cyfleoedd symudedd i staff a myfyrwyr, gweithgareddau cenhadaeth ddinesig ac archwilio ffyrdd o wella ac ehangu ein henw da a’n cyrhaeddiad yn y rhanbarth. Byddwch yn gweithio gydag ystod eang o sefydliadau partner, gan ddatblygu perthnasoedd gwaith agos mewn gwledydd allweddol. Yng Nghaerdydd, byddwch yn hyrwyddwr ac yn llysgennad ar gyfer y rhanbarth a chysylltiadau a gweithgareddau'r Brifysgol ynddo. Byddwch yn cynnal dirprwyaethau mewnol ac ymweliadau o'r rhanbarth.
Bydd gennych y gallu i ddatblygu gwybodaeth ddofn o'r rhanbarth. Byddwch yn dangos sgiliau arwain a chymhelliant ar lefel uchel, gydag ethos deniadol a chynhwysol o ran gweithio fel tîm, a'r gallu i gyfathrebu'n gadarnhaol â grŵp amrywiol o randdeiliaid a dylanwadu arnynt. Bydd gennych brofiad o baratoi strategaethau a pholisïau a’u rhoi ar waith. Bydd gennych hefyd ddealltwriaeth a gwerthfawrogiad o faterion addysg uwch ac ymchwil ehangach y tu hwnt i'ch maes academaidd eich hun, a’r gallu i ddatblygu dealltwriaeth o ddulliau llywodraethu academaidd da. Bydd gennych y gallu i weithio gyda’r tri Choleg a Gwasanaethau Proffesiynol ar draws holl gylch gorchwyl y Brifysgol, gan gynnwys addysg, ymchwil a chenhadaeth ddinesig.
Rôl
Mae gan y swydd ymrwymiad cyllid digonol i brynu'r ymrwymiad amser sydd ei angen ar gyfer y rôl o Ysgol gartref deiliad y swydd. Bydd y rolau yn 0.5 CALl ac am gyfnod penodol o dair blynedd, gyda’r posibilrwydd o un tymor pellach o dair blynedd fel arfer. Bydd deiliad y swydd yn cael lwfans blynyddol di-bensiwn o £3,750. Mae'r swydd yn adrodd i'r Rhag Is-ganghellor Rhyngwladol. Y dyddiad cychwyn fydd dechrau mis Hydref 2024.
Darllenwch y disgrifiad swydd llawn/manyleb person ar gyfer Deon Rhanbarthol ar gyfer y Dwyrain Canol.
Deon Rhanbarthol ar gyfer y Dwyrain Canol
Deon Rhanbarthol ar gyfer y Dwyrain Canol
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Sut i wneud cais
I wneud cais, nodwch yn glir pa rôl yr ydych yn gwneud cais amdani ac amgaewch CV byr (dim mwy na phum ochr A4) a llythyr eglurhaol (dim mwy na dwy ochr) yn rhoi sylw i’r canlynol o dan benawdau clir:
- sut mae eich sgiliau, eich profiad a'ch nodweddion personol yn eich galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i'r rôl
- eich dealltwriaeth o ehangder y gweithgareddau yn y maes hwn a sut byddwch yn helpu i ddatblygu'r rhain ymhellach
- sut y byddwch yn meithrin perthnasoedd gwaith effeithiol yn y Brifysgol, yn ogystal ag yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
- sut y byddech yn dangos arweinyddiaeth yn y rôl
Dylid cyflwyno ceisiadau ysgrifenedig i Rhian Perridge, Rheolwr Adnoddau Dynol, drwy e-bostio PerridgeR@cardiff.ac.uk erbyn 17.00 ar ddydd Llun 2 Medi 2024.
Cynhelir cyfweliadau panel ar gyfer y pedwar Deon (gan gynnwys cyflwyniadau byr) ddydd Mercher 18 a dydd Iau 19 Medi 2024: yr union amserlen i'w gadarnhau.