Ewch i’r prif gynnwys

Cyfarwyddwr Gweithgarwch Rhyngwladol

Prif Adeilad Prifysgol Caerdydd
Prif Adeilad Prifysgol Caerdydd

Mae Prifysgol Caerdydd yn chwilio am Gyfarwyddwr Gweithgarwch Rhyngwladol i wireddu uchelgais byd-eang y Brifysgol ac arwain tîm talentog a llawn cymhelliant o weithwyr proffesiynol rhyngwladol sy’n bodoli eisoes.

Mae ein strategaeth newydd, 'ein dyfodol, gyda'n gilydd', yn amlinellu ein hawydd i wneud gwahaniaeth yn fyd-eang, i fod yn fwy gweladwy drwy’r byd ac i gymryd rhan mewn partneriaethau rhyngwladol cydweithredol sy’n fuddiol i’r ddwy ochr. Rydyn ni am fod yn feiddgar ein huchelgais yn fyd-eang, yn hyderus wrth ddathlu'r effaith rydyn ni’n ei chael ledled y byd, a chydweithio â'r sefydliadau gorau drwy’r byd i fynd i'r afael â heriau mwyaf cymhleth cenedlaethau'r dyfodol.

Byddwch chi’n arwain rhaglen ryngwladoli’r Brifysgol, gan gychwyn, cydlynu a gweithredu mentrau ledled y Brifysgol y mae cyd-bartneriaethau ag ystod eang o bartneriaid presennol a newydd yn sylfaen iddyn nhw. Byddwch chi’n helpu i sicrhau ein bod yn ymgorffori meddwl byd-eang ym mhob agwedd ar ein gweithgarwch ym meysydd ymchwil, addysgu a’r genhadaeth ddinesig, a byddwch chi’n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o godi ein proffil yn rhyngwladol.

Byddwch chi’n arwain y Brifysgol mewn meysydd newydd lle ceir gweithgarwch strategol, yn bennaf addysg draws-genedlaethol. Bydd eich briff yn ymdrin â recriwtio’n rhyngwladol, partneriaethau, addysg draws-genedlaethol, profiad myfyrwyr rhyngwladol, ymchwil ryngwladol, symudedd y staff a’r myfyrwyr, astudio dramor ac ysgolion haf.

Byddwch chi’n adrodd i'r Cyfarwyddwr Marchnata, Cyfathrebu a Recriwtio Myfyrwyr ac yn gweithio'n agos gyda'r Rhag Is-Ganghellor Gweithgarwch Rhyngwladol. A chithau’n uwch-aelod o'r is-adran Cyfathrebu a Marchnata, byddwch chi’n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflwyno ein Model Gweithredu Targed newydd, a fydd yn gweld sawl swyddogaeth yn cael ei chyfuno i greu Swyddfa Ryngwladol wedi’i hehangu. Mae gennym ni gydweithwyr academaidd a chydweithwyr yn y gwasanaethau proffesiynol sy’n dalentog ac yn llawn syniadau ar gyfer gwella ein gweithgarwch yn rhyngwladol a’i gwneud hi’n haws ein gweld yn rhyngwladol – byddwch chi’n gweithio gyda nhw i harneisio'r brwdfrydedd hwnnw er mwyn rhoi Caerdydd ar y map.

Mae diddordeb angerddol mewn addysg uwch a'i photensial i drawsnewid bywydau’n allweddol, yn ogystal â phrofiad diweddar o arwain timau rhyngwladol ar lefel uwch, ym myd addysg uwch yn ddelfrydol. Bydd gofyn ichi fod yn barod ac ar gael i deithio’n rhyngwladol yn ôl yr angen.

Dyma swydd amser llawn a phenagored.

Cyflog:  Bydd y cyflog ar y raddfa ar gyfer staff athrawol ac yn cyd-fynd â phrofiad a chyflawniadau'r ymgeisydd llwyddiannus.

Dyddiad hysbysebu’r swydd: Dydd Mercher, 19 Mehefin 2024

Dyddiad cau: Dydd Sul, 21 Gorffennaf 2024

Os bydd digon o geisiadau wedi dod i law, nodwch fod gan Brifysgol Caerdydd yr hawl i roi’r gorau i hysbysebu’r swydd hon yn gynnar.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Rydyn ni o’r farn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol.  Felly, rydyn ni’n croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned, ni waeth beth fo rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd, cred, cyfrifoldebau gofalu neu oedran yr unigolion.  Er mwyn helpu ein gweithwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn ni hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.

Gellir cyflwyno cais yn Gymraeg, ac ni fydd yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais yn Saesneg..

Sut i wneud cais

Gwnewch gais am y swydd hon ar y Porth swyddi Prifysgol Caerdydd.

Rhif y Swydd: 18821BR

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw 23:59 GMT ddydd Sul, 21 Gorffennaf 2024.