Ewch i’r prif gynnwys

Deon Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig y Brifysgol

Prif Adeilad Prifysgol Caerdydd
Prif Adeilad Prifysgol Caerdydd

Ymgeiswyr mewnol yn unig

Mae'r rôl hon yn agored i staff presennol Prifysgol Caerdydd yn unig.

Mae cyfle wedi codi i gyfrannu at arwain a chyflwyno gweithgarwch Ymchwil Ôl-raddedig, gan weithio gyda'r Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter, a'r Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda thîm o gydweithwyr academaidd a phroffesiynol ledled y Brifysgol i arwain ar y gwaith o ddatblygu elfen Ymchwil Ôl-raddedig yr Ysgol Raddedigion yn unol ag agenda trawsnewid a strategaeth newydd y Brifysgol.

Dylai fod gan ymgeiswyr brofiad o brosesau Ymchwil Ôl-raddedig, profiad myfyrwyr a diwylliant ymchwil, yn ogystal ag ymrwymiad i ddatblygu diwylliant ymchwil cadarnhaol a chynhwysol lle gall pob aelod o'n cymuned ymchwil amrywiol ffynnu. Mae'r rôl yn gofyn am fod yn rhagweithiol a gwaith tîm da gyda'r Gwasanaeth Ymchwil a chydweithwyr o’r timau Addysg a Phrofiad Myfyrwyr. Bydd ymgysylltu â rhanddeiliaid academaidd yn hanfodol. Bydd gwaith y Deon hefyd yn cynnwys cydweithio ar fentrau traws-sefydliadol, cysylltu â thimau yn y Swyddfa Ryngwladol a thimau eraill y Gwasanaethau Proffesiynol yn ôl yr angen.

Rôl

Gall unrhyw aelod o’r staff academaidd sydd â’r profiad a’r sgiliau priodol, ac sy’n gallu darparu arweinyddiaeth academaidd bwrpasol ar gyfer datblygu a chyflawni darpariaeth Ymchwil Ôl-raddedig y Brifysgol. Gan weithio o fewn fframwaith strategaeth, polisïau a gweithdrefnau cyffredinol y Brifysgol, bydd y rôl yn cynnwys meithrin cyfraniadau unigol ac ar y cyd er mwyn hyrwyddo a datblygu ymchwil ac arloesedd. Bydd y rôl hon yn un 0.8 cyfwerth ag amser llawn am dair blynedd. Bydd deiliad y swydd yn cael lwfans blynyddol di-bensiwn o £6000. Bydd y dyddiad cychwyn cyn gynted ag sy'n ymarferol.

Darllenwch y disgrifiad swydd llawn/manyleb yr unigolyn:

Deon Myfrwyr Ymchwil Ôl-raddedig y Brifysgol

Deon Myfrwyr Ymchwil Ôl-raddedig y Brifysgol

Sut i wneud cais

I wneud cais, amgaewch CV byr (dim mwy na phum ochr A4) a llythyr eglurhaol (dim mwy na dwy ochr) yn rhoi sylw i’r canlynol o dan benawdau clir:

  • sut mae eich sgiliau, eich profiad a'ch nodweddion personol yn eich galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i'r rôl; priorities/objectives (and their institutional and sectoral contexts) and plans for achieving them;
  • eich dealltwriaeth o ehangder y gweithgareddau yn y maes hwn a sut byddwch yn helpu i ddatblygu'r rhain ymhellach;
  • sut y byddwch yn meithrin perthnasoedd gwaith effeithiol yn y Brifysgol, yn ogystal ag yn genedlaethol ac yn rhyngwladol;
  • sut y byddech yn dangos arweinyddiaeth yn y rôl.

Dylid cyflwyno ceisiadau ysgrifenedig erbyn 5pm dydd Llun 25 Tachwedd 2024 i Sally-ann Efstathiou, Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant trwy e-bost at noblec2@caerdydd.ac.uk.

Cynhelir cyfweliadau panel (gan gynnwys cyflwyniad byr) ddydd Llun 9 Rhagfyr, yr union amserlen i'w gadarnhau.