Ewch i’r prif gynnwys

Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesedd

Mae’r adran Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesedd yn cefnogi’r Brifysgol i gynhyrchu incwm o ffynonellau allanol ar gyfer ymchwil, arloesi, ymgysylltu, masnacheiddio a gweithgareddau rhyngwladol.

Ein prif ddefnyddwyr yw ymchwilwyr, Ysgolion Academaidd a’u Colegau sydd yn weithredol o ran ymgeisio am grantiau a chontractau ymchwil allanol. Gyda’i gilydd, maen nhw’n darparu gweithgareddau gwyddoniaeth, effaith ac arloesedd a gefnogir gan arian allanol.

Mae’r Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesedd hefyd yn ymgysylltu gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys cyllidwyr llywodraeth, y sector elusennol a diwydiant.

Swyddi gwag

No vacancies currently available.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein swyddi gwag, cysylltwch â ni:

Gwasanaethau Ymchwil ac arloesedd

Am yr adran

Er mwyn bodloni ein hamcanion mae’r adran yn cynnwys bron i 100 o staff medrus ategol sydd wedi’u rhannu yn bum tîm:

Mae’r Tîm Datblygu Masnachol yn gweithio tuag at amddiffyn a masnacheiddio canlyniadau ymchwil a datblygu partneriaethau ffrwythlon gyda sefydliadau allanol.

Mae Tîm y System Arloesedd ac Ymgysylltu yn hwyluso cysylltiadau mewnol ac allanol i gefnogi’r Brifysgol fel ysgogwr allweddol ar gyfer newid economaidd a chymdeithasol yn y ddinas, dinas-ranbarth a thu hwnt.

Mae’r Tîm Datblygu Ymchwil yn cefnogi cyflwyno ceisiadau cystadleuol ar gyfer cyllid ymchwil a rheoli gweithgareddau ymchwil mewnol yn effeithiol.

Mae’r Tîm Llywodraethu a Chytundebau Ymchwil yn cefnogi gweithrediadau gonestrwydd gwaith ymchwil a’i lywodraethu ar gyfer cymuned ymchwil y Brifysgol. Mae’n gyfrifol am drafod a chytuno ar delerau ac amodau cyfreithiol priodol ar gyfer gweithgareddau ymchwil.

Mae Tîm y Swyddfa Grantiau Ymchwil yn cynnig cefnogaeth ar gyfer prosesau ymgeisio am gyllid ymchwil a gweinyddu ar ôl derbyn cyllid.