Ewch i’r prif gynnwys

Cyfathrebu a Marchnata

Mae’r Adran Cyfathrebu a Marchnata’n gyfrifol am enw da a brandio’r Brifysgol yn ogystal â gweithgareddau recriwtio myfyrwyr yn y DU/UE.

Mae’n cwmpasu pum maes:

  • cyfathrebu
  • marchnata
  • recriwtio myfyrwyr
  • cyfathrebu digidol
  • materion cyhoeddus.

Swyddi gwag

No vacancies currently available.

Am yr adran

Mae'r tîm cyfathrebu’n rhan bwysig o ddatblygu a chynnal enw da’r Brifysgol drwy gyfathrebu’n effeithiol â’r cyhoedd ac â rhanddeiliaid mewnol ac allanol. Mae’n cyfleu cyflawniadau a dyheadau’r Brifysgol drwy amrywiaeth o gyfryngau, ac mae ganddi uned ffilm. Mae’r tîm yn cynrychioli’r Brifysgol ar lefel gorfforaethol.

Mae'r tîm marchnata’n gyfrifol am ddatblygu hunaniaeth brand gref i’r Brifysgol ar lefel gorfforaethol, gyda phwyslais ar frandio gweledol gwell ac ymchwil i’r farchnad.

Mae’r tîm Recriwtio Myfyrwyr yn gweithio mewn partneriaeth gyda cholegau ac ysgolion academaidd y Brifysgol i recriwtio myfyrwyr ansawdd uchel o bob cwr o’r DU a’r UE. Mae’r tîm hefyd yn rheoli rhaglenni ehangu cyfranogiad mawr y Brifysgol a’r Prosiect Partneriaeth Ysgol.

Mae’r Tîm Cyfathrebu Digidol yn gyfrifol am ddylunio, datblygu a chynnwys y wefan allanol a’r mewnrwyd. Maen nhw’n cynnig offer, arweiniad, hyfforddiant a chefnogaeth i alluogi’r Brifysgol i gyfathrebu’n effeithiol ar draws yr holl sianeli digidol.

Mae'r tîm Materion Cyhoeddus yn arwain y gwaith o reoli cysylltiadau â rhanddeiliaid yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.