Ewch i’r prif gynnwys

Gwasanaeth Cwnsela i Fyfyrwyr

Lleoliadau Profiad Gwaith Cyswllt Gwirfoddol i gwnselwyr dan hyfforddiant.

Bob blwyddyn, rydyn ni’n cynnig nifer o leoliadau profiad gwaith o safon ym maes cwnsela i ddarpar gwnselwyr dan hyfforddiant, ac fe’u cynlluniwyd i roi cyfle i chi ymgymryd â gwaith di-dâl gyda gwasanaeth cwnsela’r brifysgol.

Yr hyn rydyn ni’n ei gynnig

Caiff lleoliadau gwaith eu cynnig i ymgeiswyr llwyddiannus a all bara am hyd at ddwy flynedd, ond nid am gyfnod hirach na hynny, yn amodol ar gael eich adolygu’n rheolaidd. Byddwch chi’n dilyn rhaglen strwythuredig fydd yn eich cefnogi i ennill amryw o sgiliau a phrofiad o ran cwnsela a chyflogaeth. Fel arfer, bydd gennych chi dri chleient i’w gweld bob wythnos.

Yn ein lleoliadau gwaith, y prif bwyslais yw cynnig profiad dysgu sy'n adlewyrchu’r ystod eang o weithgareddau a dyletswyddau a wneir mewn gweithleoedd go iawn, ac yn eu plith y mae’r canlynol:

  • Y cyfle i gyfrannu at wasanaeth cwnsela, iechyd a lles proffesiynol
  • Gweithio mewn gweithle modern ac arloesol
  • Profiad amrywiol i wella eich sgiliau cyflogaeth
  • Cefnogaeth broffesiynol helaeth drwy gydol y lleoliad
  • Goruchwyliaeth reolaidd yn unol â'ch sefydliad proffesiynol (BACP, BABCP, UKCP, NCPS, ac ati)
  • ymrwymiad i gefnogi eich datblygiad yn gwnselydd medrus, lle y cynigir cyfleoedd DPP rheolaidd

Y Rhaglen Lleoliad Gwaith

Ffocws Gwasanaeth Cwnsela a Lles Myfyrwyr yw’r 'Model Caerdydd', sy’n cynnig sesiynau therapi byr yn canolbwyntio ar ddatrysiadau i fyfyrwyr sydd ag ystod amrywiol o broblemau, er enghraifft, perthnasoedd, iselder, gorbryder, colled, cam-driniaeth, a hunan-niwedio.

Y Flwyddyn Gyntaf

Byddwch chi’n cael eich cynorthwyo wrth ddatblygu eich sgiliau cwnsela craidd, yn unol â dull eich cwrs, gan weithio gyda chleientiaid am hyd at ddeg sesiwn. Cynhelir y sesiynau hyn wyneb yn wyneb naill ai yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr ar Blas y Parc, neu ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.

Yr Ail Flwyddyn

Wrth i'r lleoliad profiad gwaith fynd yn ei flaen, byddwch chi’n cael hyfforddiant a chyfle i weithio o fewn Model Caerdydd, gan weithio gyda chleientiaid am hyd at bedair sesiwn a chynnal apwyntiadau ymgynghoriad therapiwtig sy'n para awr a hanner. Ar hyn o bryd, ein bwriad yw gofyn i weithwyr cyswllt yn eu hail flwyddyn i weithio o bell, er mwyn iddyn nhw allu cynnig profiad ar-lein, ond hefyd i addasu i’r garfan newydd o weithwyr cyswllt sy’n cychwyn ar eu blwyddyn gyntaf.

Cymhwysedd

Fel arfer, caiff lleoliadau profiad gwaith cysylltiol eu cynnal yn y flwyddyn ddiploma, neu'r ail flwyddyn o hyfforddiant cwnsela israddedig.

Rydyn ni ond yn derbyn ceisiadau gan fyfyrwyr ar gyrsiau sydd wedi’u hachredu gan Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP), Cymdeithas Seicotherapïau Ymddygiadol a Gwybyddol Prydain (BABCP), neu’r cyfwerth.

Os nad ydych chi’n hollol sicr a yw’ch cwrs yn un sydd wedi'i achredu, ewch ati i gadarnhau hyn â’r sefydliad hyfforddi neu gymerwch olwg ar y gwefannau a ganlyn: Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP) neu Gymdeithas Seicotherapïau Ymddygiadol a Gwybyddol Prydain (BABCP).

Os ydych chi'n fyfyriwr presennol neu'n aelod o staff cyfredol ym Mhrifysgol Caerdydd, mae hawl i chi wneud cais, ond er hynny, ac yn unol â Fframwaith Moesegol BACP, byddai angen ystyried yn ofalus unrhyw faterion ffiniol posibl a allai eich atal rhag gallu ymuno â ni. Mae myfyrwyr sy'n cwblhau Tystysgrif Ôl-raddedig Prifysgol Caerdydd ym maes Therapïau Ymddygiadol Gwybyddol yn gymwys i wneud cais.

Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus fod ar gael i fynd i sesiwn ymsefydlu a gynhelir dros ddeuddydd rhwng 5 a 7 Tachwedd 2024 (i'w gadarnhau).

Cynigir lleoliadau gwaith dan amodau, yn ddibynnol ar wiriad DBS llwyddiannus a derbyn geirdaon. Bydd gofyn i ymgeiswyr fod wedi’u sefydlu eisoes ar wasanaeth diweddaru'r DBS, gan y bydd hynny’n atal unrhyw oedi diangen wrth geisio rhoi cychwyn ar y lleoliadau gwaith a gweithio â chleientiaid.

Gwerthoedd ac Ymddygiad

Rydyn ni’n chwilio am unigolion sydd:

  • yn agored i ddysgu; yn ddysgwyr hunanfyfyriol, ac sy'n barod i dderbyn adborth a datblygu drwy brofiad
  • yn gallu addasu’n rhwydd
  • yn gallu dangos empathi
  • yn frwdfrydig ac yn broffesiynol, ac yn gallu gweithio mewn tîm
  • yn barod i herio eu hunain a chael eu herio i ddatblygu'n bersonol ac yn broffesiynol

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydyn ni o’r farn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned, ni waeth beth fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu rhywedd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i lynu wrth y Ddeddf Cydraddoldeb (2010), Deddf Cymru (2017), cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth Cymru a'r Ddeddf Diogelu Data (2018). Mae'r Brifysgol wedi datblygu Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Mae gennym ni hefyd Bolisi Urddas yn y Gwaith ac Wrth Astudio er mwyn hyrwyddo awyrgylch a diwylliant lle y caiff gwahaniaethau eu croesawu.

Byddwch chi’n gweithio â myfyrwyr sydd wedi dod yma o Gaerdydd ac o ledled y byd, ac yn chwilio am gymorth gan wasanaethau sy'n deall y heriau diwylliannol, ymarferol ac emosiynol sydd ynghlwm ag astudio a byw dramor, ac sy’n ymdrechu i ddeall eu byd-olwg a'r heriau a'r gofynion unigryw a ddaw o astudio dramor. Gyda 7,530 myfyrwyr rhyngwladol sy’n hanu o fwy na 138 o wledydd, mae myfyrwyr rhyngwladol yn cynrychioli bron i 20% o boblogaeth y myfyrwyr.

Rydyn ni’n llwyr ymwybodol bod dynion yn dal i fod yn llai tebygol na menywod o geisio cwnsela, ac mae'r tîm cwnsela a lles yn cymryd rhan weithredol wrth fynd i'r afael â'r anghydbwysedd hwn. Rydyn ni hefyd yn cefnogi myfyrwyr sydd â phrofiadau o drawma a chyflyrau iechyd meddwl sydd wedi'u diagnosio ymlaen llaw, sy’n astudio yn y brifysgol ac, sy’n ceisio cymorth i wireddu eu nod o ennill gradd. Bydden ni’n croesawu ceisiadau gan y rheini sydd wedi profi problemau o’r fath.

Llenwch ein ffurflen gais ar-lein

Bydd ceisiadau’n cau am ganol nos ar ddydd Llun 12 Awst.

Cysylltwch â ni

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at Eleanor Brown, Cydlynydd Lleoliadau, ar browne15@caerdydd.ac.uk.