Ewch i’r prif gynnwys

Ymgeiswyr rhyngwladol

Rydyn ni’n falch o ddal trwydded noddwr gradd A i neilltuo tystysgrifau nawdd lle penderfynir bod swydd yn addas o dan y system bwyntiau.

Pan fyddwch yn gwneud cais drwy ein system ar-lein, byddwn yn gofyn i chi a ydych yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU. Os ydych chi’n destun rheoliadau mewnfudo, bydd cyfres o gwestiynau ychwanegol yn ymddangos mewn perthynas â’ch cymhwysedd i weithio yn y DU.

Ceir rhagor o wybodaeth ar dystysgrifau nawdd, cyfrifoldebau deiliaid trwydded ac addasrwydd swydd ar wefan Fisâu a Mewnfudo’r DU.

Fisâu

Os nad ydych chi’n ddinesydd o’r Deyrnas Unedig neu Iwerddon, efallai y bydd angen i chi wneud cais i gael fisa cyn y byddwch yn cael dechrau gwaith yn gyfreithiol yn y DU.

Os ydych chi’n ansicr p’un a oes angen fisa arnoch ai peidio, ewch i wefan Fisâu a Mewnfudo y DU.

Gall gwneud cais am fisa gymryd amser, felly mae’n bwysig gwneud cais mewn da bryd cyn rydych chi’n bwriadu teithio. Rhagor o wybodaeth am amseroedd prosesu fisa yn eich gwlad.

Profi eich hawl i weithio

Unwaith y bydd gennych fisa i ddod i mewn i'r DU, rhaid trefnu gwiriad o’ch hawl i weithio cyn i chi ddechrau gweithio. Bydd angen gwneud hyn o leiaf 1 diwrnod cyn eich dyddiad cychwyn swyddogol. Os na fydd hyn yn cael ei gynnal cyn eich diwrnod cyntaf, ni fyddwch yn gallu dechrau gweithio ar y dyddiad a nodwyd yn eich cytundeb cyflogaeth.

Cyn neu ar eich diwrnod cyntaf, bydd angen i chi roi gwybod i ni:

  • beth yw eich cyfeiriad preswyl cyfredol yn y DU
  • beth yw eich rhif ffôn (ffôn y cartref neu ffôn symudol).

Os ydych chi’n cael eich noddi gan y Brifysgol yn unol â’r system seiliedig ar bwyntiau, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni bob tro y bydd eich cyfeiriad neu rif ffôn yn newid.

Cynllun Cymeradwyaeth Technoleg Academaidd (ATAS)

Efallai y bydd angen i chi gael tystysgrif Cynllun Cymeradwyaeth Technoleg Academaidd (ATAS) gan Ganolfan Gwrth-Amlhau a Rheoli Arfau y Swyddfa Dramor, Gymanwlad a Datblygu (FCDO) cyn i chi wneud eich cais am fisa.

Gallwch gael tystysgrif ATAS yn rhad ac am ddim.

Os oes rhaid i chi gael tystysgrif ATAS, bydd eich llythyr contract a chynnig (ar gyfer staff newydd) neu'ch llythyr ymestyn contract (ar gyfer staff presennol) yn rhoi gwybod ac yn cynnwys manylion am sut i wneud cais am dystysgrif.

Rhaid i chi gael tystysgrif ATAS cyn i chi wneud eich cais am fisa, neu bydd y cais am fisa yn cael ei wrthod. Rydyn ni’n argymell eich bod yn gwneud cais am eich tystysgrif ATAS cyn gynted ag y bo modd er mwyn osgoi unrhyw oedi o ran eich dyddiad cychwyn gyda ni.

Gall FCDO gymryd o leiaf 6 wythnos i brosesu cais ATAS, a hyd yn oed yn hirach rhwng mis Ebrill a mis Medi. Cofiwch hyn wrth drefnu eich dyddiad dechrau gyda'ch rheolwr llinell.

Cael estyniad i aros yn y DU

Os ydych chi eisoes wedi'ch cyflogi gennyn ni ac wedi cael estyniad i aros yn y DU, bydd angen i ni wirio eich hawl i weithio eto ar ôl i'r estyniad gael ei ganiatáu.

Gwybodaeth ddefnyddiol ychwanegol

Efallai y byddwch am drefnu llety tymor byr cyn i chi gyrraedd yn y DU. Bydd hyn yn rhoi amser i chi chwilio am lety ar gyfer y tymor hwy. Gallwch chwilio am lety ar wefan Visit Cardiff.

Rydyn ni’n cynnig system cymorth gynhwysfawr ar gyfer unrhyw un sy’n symud i’r DU i ddechrau swydd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rydyn ni hefyd yn cynnig cymorth ariannol i helpu i dalu costau adleoli.

Os nad yw aelodau eich teulu’n ddinasyddion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir, efallai y byddwch yn gallu dod â nhw i’r DU. Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, mae amodau llym y bydd rhaid i chi a’ch teulu eu bodloni. Bydd yn rhaid i chi brofi nad oes angen i aelodau'ch teulu hawlio budd-daliadau lles.

Gellir cael rhagor o wybodaeth ar gyfer y rhai hynny sy’n cael ei noddi gan y Brifysgol drwy fisa Gweithiwr Medrus neu fisa Cyfnewid a Awdurdodwyd gan y Llywodraeth (Gwaith Dros Dro) drwy wefan Llywodraeth y DU.

Mae cyfraith mewnfudo'r Deyrnas Unedig yn gymhleth. Mae gwneud camgymeriadau yn arwain at ganlyniadau difrifol. Er y byddwn bob amser yn ceisio eich cefnogi, dylech chi bob amser ceisio cyngor gan arbenigwr. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar gymorth Cyngor ar Bopeth ar gyfer problemau mewnfudo.

Mae gan y DU nifer o sefydliadau banc a bydd eu gofynion yn amrywio. Fel arfer, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o bwy ydych chi a phrawf cyfredol o’ch cyfeiriad yn y DU. Fel arfer, bydd banciau yn derbyn eich pasbort fel prawf o bwy ydych chi os ydych chi’n agor y cyfrif wyneb yn wyneb.

Mae rhoi tystiolaeth o’ch cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig gallu fod yn fwy anodd. Gallai'r dogfennau canlynol fod yn dderbyniol:

  • cytundeb tenantiaeth
  • lythyr gan y Brifysgol yn cadarnhau eich bod wedi eich cyflogi ym Mhrifysgol Caerdydd a chadarnhau eich cyfeiriad yn y DU (gall y Ganolfan Gwasanaethau AD roi hwn i chi ar gais)

Efallai y bydd y banc am weld tystiolaeth o’ch cyfeiriad blaenorol neu gyfeiriad parhaol yn y wlad rydych chi wedi dod ohoni. Gallai eich cerdyn hunaniaeth cenedlaethol neu eich trwydded yrru fod yn dderbyniol at y diben hwn.

Efallai y bydd y banc yn gofyn am ganiatâd ysgrifenedig gennych chi i gael geirda amdanoch chi gan fanc neu sefydliad ariannol os oes gennych chi gyfrif yn y wlad rydych chi’n dod ohoni.

Gan fod gofynion banciau yn amrywio, gall y dogfennau y gellir eu derbyn fod yn wahanol o fanc i fanc. Dylech gysylltu â’r banc i ddechrau i wirio beth sydd angen arnyn nhw. Cofiwch mynd â gymaint o wybodaeth ag sydd gennych ar gael gyda chi. Sylwer eu bod fel arfer yn derbyn dogfennau gwreiddiol yn unig, nid copïau.

Bydd eich cyflog yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc ar ddiwrnod bancio olaf y mis. Er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd, mae’n bwysig eich bod yn rhoi manylion eich cyfrif banc i ni cyn gynted â phosibl.

Ym mis Awst 2013, fe wnaeth y llywodraeth gyflwyno rheolau newydd sy’n golygu fod rhaid i’r holl weithwyr gael eu cofrestru’n awtomatig mewn cynllun pensiwn yn y gweithle.

Yswiriant Gwladol

Didyniad gorfodol o'ch cyflog sy'n ariannu pensiynau a budd-daliadau yn y DU yw Yswiriant Gwladol (NI).

A chithau’n weithiwr, bydd angen i chi gael rhif Yswiriant Gwladol (YG) fel y gall awdurdod treth y DU gofnodi eich taliadau treth incwm a’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Dylech wneud cais am rif Yswiriant Gwladol cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd y DU.

Unwaith y byddwch chi’n gwybod eich rhif YG, dylech roi gwybod i’r Adran Cyflogau er mwyn iddyn nhw ddiweddaru eich cofnodion.

Treth incwm

Treth sy’n cael ei dalu gan weithwyr y DU yw treth incwm. Caiff hefyd ei alw’n cynllun Talu wrth Ennill (PAYE) ac mae’n cael ei gymhwyso ar sail canran o’ch ‘incwm trethadwy’. Mae cyfraddau gwahanol yn berthnasol i wahanol lefelau o incwm trethadwy. Po uchaf yw eich incwm, yr uchaf yw canran y dreth.

Bydd y swm rydych chi’n ei dalu’n cael ei ddangos ar eich slip cyflog. Bydd eich slip cyflog yn cynnwys côd treth sy’n ymwneud yn uniongyrchol â faint o dreth rydych chi’n ei dalu. Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (HMRC) sy’n penderfynu ar godau treth. Am ragor o wybodaeth am eich côd treth a didyniadau YG, dylech gysylltu â’r Adran Cyflogau.

Gallwch chi hefyd cael rhagor o wybodaeth ar Yswiriant Gwladol, treth a Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi ar wefan Llywodraeth y DU.

Mae ysgolion gwladol y DU yn cael eu cynnal gan awdurdodau addysg lleol ac maen nhw’n rhad ac am ddim hyd at 16 mlwydd oed.

Os yw eich plentyn o dan 16 mlwydd oed ac y bydd ef/hi gyda chi yng Nghaerdydd ac yn ddibynnu arnoch chi am fwy na 6 mis, dylen nhw allu mynd i ysgol wladol yn rhad ac am ddim.

Mae’r system wladol yng Nghaerdydd wedi’i rhannu yn 3 math o ysgol:

  • Darpariaeth cyn-ysgol neu ysgol feithrin (3-5 mlwydd oed)
  • Ysgol Gynradd (5-11 mlwydd oed)
  • Ysgol Uwchradd (11-16 mlwydd oed)

Dod o hyd i ysgol

Ewch i wefan Cyngor Dinas Caerdydd i gael rhagor o wybodaeth a rhestr o ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth yng Nghaerdydd a’r cyffiniau, e

Plant y mae Saesneg yn ail iaith iddyn nhw

Os ydych chi’n credu y bydd eich plentyn angen cymorth gyda’u hiaith Saesneg, yna mae hwn ar gael drwy Wasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig Cyngor Caerdydd. Bydd plant yn cael eu cefnogi yn eu hysgolion eu hunain. Dylai athro ysgol eich plentyn allu gael gafael ar y cymorth iaith Saesneg ychwanegol hwn ar gyfer eich plentyn.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch edrych ar nodyn Gwybodaeth Addysg y Cyngor Prydeinig ar ddewis ysgol a ariennir gan y wladwriaeth i gael rhagor o wybodaeth am ysgolion yn y DU.

Gofal plant i blant cyn-ysgol

Cyfleusterau’r brifysgol

Mae Meithrinfa Ysgolheigion Bach y brifysgol yn gofalu am blant rhwng 10 wythnos a 5 oed.

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Diben Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Cyngor Caerdydd yw galluogi rhieni i ddod o hyd i’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw am amrywiaeth eang o wasanaethau i blant gan gynnwys cronfa ddata y gellir ei ddefnyddio i chwilio am ofal plant. Mae’r Tîm Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd wrth law i roi gwybodaeth ychwanegol, cyngor, arweiniad a chefnogaeth os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano ar eu gwefan neu os ydych am gael gwybodaeth fwy manwl.

Meithrinfeydd preifat

Ewch i wefan Meithrinfeydd Caerdydd i weld rhestr o feithrinfeydd preifat yn ardal Caerdydd e

Gofalwyr Plant

Mae gofalwyr plant yn darparu gofal plant yn y cartref i blant o bob oed. Mae’n rhaid i ofalwyr plant fod wedi cofrestru a byddan nhw’n cael eu harolygu’n rheolaidd. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am warchodwyr plant ar wefanCyngor Caerdydd

Mae gan y Llywodraeth wybodaeth am ddod ag anifail anwes i’r DU.

Rhwydwaith Staff Rhyngwladol

Mae ein grŵp Rhwydwaith Staff Rhyngwladol ar Yammer yn rhoi cefnogaeth a chyngor pragmatig i'r rhai sy'n newydd i'r wlad drwy:

Aelodau'r tîm

Dyma aelodau’r tîm.

  • Dr Raya Ahmed (Meddygaeth)
  • Dr Monika Hennemann (Ieithoedd Modern)
  • Dr Stephen Man (Meddygaeth)
  • Karolina Rucinska (Peirianneg)
  • Vicky Ucele (Ieithoedd Modern)
  • Dr Carlos E. Ugalde-Loo (Peirianneg)

Manylion cyswllt

Pan gyrhaeddwch gallwch cysylltu â’r tîm trwy'r grŵp Yammer Rhwydwaith Staff Rhyngwladol neu drwy e-bost:

Rhwydwaith Staff Rhyngwladol