Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol UKRI
Rydyn ni’n croesawu datganiadau o ddiddordeb gan ymgeiswyr sy'n dymuno gwneud cais am Gymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol (FLF) Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI), a Phrifysgol Caerdydd fydd eu sefydliad lletyol.
Bellach, cyhoeddwyd Cylch 10 cynllun Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol UKRI, a disgrifir y broses fewnol isod. Gwahoddwyd Prifysgol Caerdydd i gyflwyno hyd at 8 cais yn y cylch hwn.
Mae cynllun FLF UKRI, sy'n derbyn ceisiadau gan ymgeiswyr o'r DU ac ymgeiswyr rhyngwladol, yn cynnig pecyn cymorth cynhwysfawr a hyblyg ar unrhyw faes y mae UKRI yn ei gefnogi, gan gynnwys cyflogau'r Cymrawd a'r holl gostau ymchwil, staff a hyfforddiant rhesymol eraill.
Mae’r cymrodoriaethau hyn yn gyfleoedd gwych i academyddion ac arloeswyr ar ddechrau eu gyrfa sydd yn y broses o bontio neu sefydlu eu hannibyniaeth. Dylai unigolion ddefnyddio'r canllawiau diweddaraf ar gymhwystra a manyleb yr unigolyn yn nogfen yr alwad i bennu eu haddasrwydd ar gyfer y cynllun, gan gyfeirio at amcanion y rhaglen.
Mae’r cymrodoriaethau yn cefnogi ymgeiswyr o nifer o lwybrau gyrfaol, gan gynnwys y rheini sy’n dychwelyd ar ôl cael seibiant gyrfaol neu sydd wedi bod yn treulio amser mewn swyddi eraill. Ar ben hynny, mae UKRI yn annog ceisiadau gan y rheiny sydd am weithio’n rhan-amser neu rannu swyddi er mwyn cyfuno’r gymrodoriaeth â chyfrifoldebau personol.
Cynllun unigol ar draws cylch gorchwyl UKRI ar ei hyd yw hwn, ac nid oes cyllidebau wedi’u neilltuo ar gyfer meysydd penodol na chwaith rwystrau rhag ymchwil ryngddisgyblaethol neu ar draws sawl sector.
Mae manylion llawn yr alwad a'r cynllun ar wefan UKRI.
Mae cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol yn rhoi’r hyblygrwydd a’r amser y mae eu hangen ar ymchwilwyr o nifer o gefndiroedd a meysydd i wneud cynnydd wrth fynd i’r afael â rhai o broblemau mwyaf dybryd cymdeithas. Mae manylion pellach am gymrodorion newydd Arweinwyr y Dyfodol i’w gweld ar dudalennau Newyddion Prifysgol Caerdydd.
Pam dewis Caerdydd?
Cewch chi gefnogaeth wedi'i theilwra gan dîm yr Ysgol a’r Coleg wrth saernïo cynnig cystadleuol. Ar bob cam o’r broses adolygu, byddwch chi’n cael adborth adeiladol ar eich cynnig. Os cewch chi eich gwahodd i gyfweliad, byddwch chi’n cael hyfforddiant ffug panel dwys. Os byddwch chi’n llwyddiannus, bydd eich ysgol yn gallu cynnig contract penagored ichi.
Rydyn ni’n ymrwymedig i gefnogi a datblygu ymchwilwyr ar bob cam o’u gyrfa, sydd wedi’u cydnabod a’u hachredu gan Wobr Rhagoriaeth Adnoddau Dynol mewn Ymchwil y Comisiwn Ewropeaidd, sy’n dangos ein hymroddiad parhaus i roi’r Concordat Cefnogi Datblygiad Gyrfaol Ymchwilwyr ar waith.
A hwythau’n bartneriaid yn y gynghrair ymchwil a chreadigrwydd GW4, gall ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa gael mynediad at yr amrywiaeth lawn o arbenigedd ledled cymunedau’r GW4, a byddan nhw’n cael eu hannog i wneud cais am y rhaglenni datblygu arweinyddiaeth ‘Crwsibl Cymru’ a/neu ‘Crwsibl GW4’, sy'n anelu at helpu ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa i gyrraedd eu potensial llawn drwy hyfforddiant mewn arloesedd ymchwil a chyfnewid gwybodaeth.
Ni yw un ymhlith yr 20 prifysgol orau yn y DU am ansawdd gyffredinol ein hymchwil, ein heffaith a’n hamgylchedd (REF 2021). Rhagor o wybodaeth am ein gwaith ymchwil yma:
Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd
Os hoffech chi wneud eich cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol ym Mhrifysgol Caerdydd, mynnwch ragor o wybodaeth am yr hyn y gallwn ni ei gynnig ichi yma
Ffurflen gais fewnol
Mae ffurflen gais fewnol Prifysgol Caerdydd ar gyfer rownd 10 o gynllun UKRI FLF ar gael nawr. Anfonwch e-bost at risresearchdevelopment@caerdydd.ac.uk gan roi’r manylion canlynol cyn gynted â phosibl a chyn 04 Chwefror 2025:
- eich enw llawn
- eich disgyblaeth (mewn dim mwy na 150 o eiriau)
- Yr Ysgol letyol ddisgwyliedig (gan gynnwys CV a chrynodeb o’r cynnig 500 gair)
Mae UKRI wedi cyfyngu nifer y ceisiadau y gall Prifysgol Caerdydd eu cyflwyno i 8. O'r herwydd, mae proses fewnol ar waith i ddewis yr 8 cais hyn mewn ffordd deg. Mae gan Brifysgol Caerdydd broses er mwyn asesu’r cynllun hwn. Mae'r cam cyntaf yn cynnwys eich Ysgol letyol arfaethedig yn datblygu ac yn adolygu’r ceisiadau mewnol. Unwaith y bydd yr wybodaeth y gofynnwyd amdani uchod yn dod i law, byddwn ni’n creu cysylltiad rhyngoch chi a'r Ysgol ac yn rhoi'r wybodaeth y bydd ei hangen arnoch chi i gyflwyno cais mewnol i'r cynllun.
Sesiwn Wybodaeth Prifysgol Caerdydd
Cofrestrwch i ddod i sesiwn wybodaeth ar-lein i gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, proses ddethol Prifysgol Caerdydd, a chlywed gan unigolion sydd wedi cael cyllid Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol UKRI neu wedi eistedd ar baneli Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol. Bydd sesiwn cwestiwn ac ateb agored hefyd i chi gael y cyfle i ofyn cwestiynau i'r tîm.
Sesiwn wybodaeth Cylch 10: Dydd Iau 16 Ionawr 2025 dros Teams
Cofrestrwch ar gyfer y sesiwn wybodaeth drwy e-bostio RIS Datblygu Ymchwil RISResearchDevelopment@caerdydd.ac.uk.
Paneli asesu'r Colegau a'r Brifysgol
Bydd pob un o’r ffurflenni a gymeradwyir gan yr Ysgolion yn cael eu hasesu mewn panel adolygu ar lefel y colegau ar ddechrau mis Mai 2024, a Deoniaid Ymchwil ac Arloesedd y Colegau fydd yn cadeirio’r paneli hyn. Bydd y panel yn cynnwys academyddion gwadd eraill ar draws disgyblaethau a chyfnodau gyrfaol. Bydd pob Coleg yn dewis 5 ffurflen gais fewnol i fynd ymlaen i banel y Brifysgol.
Y Rhag Is-Ganghellor dros Ymchwil, Arloesedd a Menter fydd yn cadeirio panel y Brifysgol a bydd yn cynnwys Deoniaid Ymchwil ac Arloesedd pob Coleg.
Yn dilyn adolygiad o'r ffurflenni cais mewnol, bydd panel y Brifysgol yn dewis yr 8 cynnig mwyaf cystadleuol i'w cyflwyno i UKRI.
Yna bydd yn rhaid i’r ymgeiswyr a ddewiswyd lunio eu cynigion yn llawn. Gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno drafft o'u cynnig llawn i'w Coleg ddiwedd mis Mai 2024 at ddibenion adolygiad cynnydd cyn eu cyflwyno i UKRI.
Mae’n rhaid cyflwyno cynigion llawn i UKRI, drwy'r Gwasanaeth Ariannu (TFS) erbyn 09:00, 11 Mehefin 2025 (i ganiatáu ar gyfer cymeradwyaeth derfynol y sefydliad). Bydd UKRI yn trefnu bod cymheiriaid arbenigol yn adolygu’r cynigion hyn, ac yna caiff rhestr fer ei llunio gan banel amlddisgyblaethol o uwch-benderfynwyr sydd â hanes o weithredu ar draws meysydd a disgyblaethau. Wedyn, caiff yr ymgeiswyr ar y rhestr fer eu gwahodd i gyfweliad.
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi, datblygu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhob un o’n harferion a’n gweithgareddau, gan feithrin diwylliant cynhwysol heb wahaniaethu sy'n seiliedig ar werthoedd urddas, cwrteisi a pharch. Rydyn ni’n falch o gydnabod bod amrywiaeth a gwahaniaeth yn rhan annatod o les a datblygiad y Brifysgol yn y dyfodol. Ym myd addysg uwch, mae nifer o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn y gymuned academaidd ac felly rydyn ni’n croesawu’n fawr y ceisiadau hynny gan ymgeiswyr sy’n nodi eu bod yn rhan o grŵp sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
Cysylltu:
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, dylai unigolion gysylltu â: