Cymrodoriaethau Ymddiriedolaeth Leverhulme i Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa
Rydym yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb yng nghymrodoriaethau Ymddiriedolaeth Leverhulme i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, a fydd yn cael eu cynnal gan Brifysgol Caerdydd.
Mae’n rhaid i bawb sy’n datgan eu diddordeb fod â doethuriaeth neu brofiad cyfatebol o wneud ymchwil cyn derbyn cymrodoriaeth. Dim ond y rhai hynny nad ydynt eto wedi dal swydd academaidd amser llawn barhaol yn un o brifysgolion y DU neu sefydliad cyfatebol yn y DU fydd yn gymwys. Ewch i wefan Ymddiriedolaeth Leverhulme i gael rhagor o fanylion a gweld y meini prawf i gyd.
Datgan eich diddordeb
Ni ellir datgan diddordeb mwyach yn y cymrodoriaethau sydd ar gael yn 2022. Gellir datgan diddordeb nawr yn y cymrodoriaethau a fydd ar gael yn 2023.
I ddatgan eich diddordeb, anfonwch ebost at risresearchdevelopment@caerdydd.ac.uk sy’n cynnwys y manylion canlynol:
- eich enw llawn
- eich disgyblaeth a’r Ysgol rydych yn gofyn iddi eich derbyn
Byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad â’r Ysgol honno.
Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod yr Ysgol yn ymwybodol o’ch bwriad i ddatgan eich diddordeb ymhell cyn i chi wneud hynny. Fe’ch cynghorir yn gryf i ddatgan eich diddordeb yn y cymrodoriaethau cyn gynted â phosibl, a hynny cyn dyddiadau cau mewnol yr Ysgolion, a fydd ar ddiwedd 2022.
Nodwch fod gan y Brifysgol broses gadarn ar gyfer blaenoriaethu ac adolygu datganiadau o ddiddordeb er mwyn sicrhau bod y rhai o’r safon uchaf yn cael eu cyflwyno i Ymddiriedolaeth Leverhulme.
Arian cyfatebol
Bydd pob datganiad o ddiddordeb yn amodol ar yr Ysgol yn ymrwymo i roi arian cyfatebol.
Yn achos yr Ysgolion sy’n rhan o Goleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, bydd arian cyfatebol yn cael ei roi gan y Coleg, ond mae cyfyngiad ar nifer y datganiadau o ddiddordeb y gall pob Ysgol eu cefnogi. Rydym yn croesawu datganiadau o ddiddordeb eithriadol i’w hadolygu’n fewnol.
Bydd yr Ysgolion sy’n rhan o Goleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd a Choleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg yn ystyried datganiadau o ddiddordeb ac yn trafod eu haddasrwydd gyda’r unigolion. Bydd arian cyfatebol yn cael ei roi gan yr Ysgol sy’n rhan o’r Coleg os hoffai gefnogi datganiad o ddiddordeb. Bydd pob achos yn cael ei ystyried yn unigol.
Ymholiadau
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â:
Leverhulme Trust Early Career fellowship
Leverhulme Trust general enquiries