Cymrodoriaethau Ôl-ddoethuriaeth yr Academi Brydeinig
Rydyn ni’n gwahodd ymchwilwyr i fynegi diddordeb mewn Cymrodoriaethau Ôl-ddoethuriaeth yr Academi Brydeinig. Prifysgol Caerdydd yw’r sefydliad a fyddai’n eich derbyn.
Mae’r Academi Brydeinig yn cynnig Cymrodoriaethau tair blynedd o hyd ar gyfer ymchwilwyr ym meysydd y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol sydd ar ddechrau eu gyrfa, sy’n cynnig cyfleoedd datblygu gyrfa gwych. Mae hyd at 45 o gymrodoriaethau yn cael eu cynnig bob blwyddyn ar hyn o bryd.
Mae cymrodoriaethau ôl-ddoethuriaeth yr Academi Brydeinig yn cynnig cyfleoedd i ymchwilwyr rhagorol ar ddechrau eu gyrfa i wella eu profiad ymchwilio ac addysgu mewn amgylchedd prifysgol a fydd yn datblygu eu curriculum vitae a gwella eu rhagolygon o gael swydd ddarlithio parhaol erbyn diwedd y Gymrodoriaeth. Mae’r pwyslais sylfaenol ar gwblhau darn o waith ymchwil y gellir ei gyhoeddi gan fanteisio ar aelodaeth lawn o gymuned academaidd o ysgolheigion sefydledig sy’n gweithio mewn meysydd tebyg i gynnig cymorth.
Pwy sy’n gymwys
Rhaid i ymgeiswyr:
- fod yn ddinesydd Prydeinig neu’n wladolyn AEE; neu’n
- unrhyw un, o unrhyw genedl sydd â doethuriaeth yn y DU; neu’n
- rhywun sy’n gallu dangos ‘cysylltiad blaenorol â chymuned academaidd y DU’ drwy, er enghraifft, gael eich cyflogi dros dro (am o leiaf blwyddyn) gan brifysgol yn y DU.
Mae’n rhaid bod gan ymgeiswyr statws dechrau gyrfa - sy’n cael ei ddiffinio fel rhywun sydd o fewn tair blynedd ers ennill dyfarniad doethuriaeth. Ar gyfer 2024, rhaid i ymgeiswyr naill ai:
- eisoes wedi cwblhau eu harholiad viva voce, a hynny rhwng 1 Ebrill 2022 a 1 Ebrill 2025, neu
- â rheswm dilys dros eithriad o ddiweddarwch eu statws ôl-ddoethurol (e.e. gohirio eu gyrfa academaidd ar gyfer cyfnod mamolaeth, ymrwymiadau teuluol, salwch ac ati).
Ni ddylai ymgeiswyr fod, neu wedi bod mewn swydd academaidd barhaol.
Dim ond os bydd yr Academi Brydeinig wedi cynghori cyn-ymgeiswyr aflwyddiannus yn swyddogol y byddant yn gymwys i gyflwyno cais arall i’r cynllun hwn.
Ewch i wefan yr Academi Brydeinig am ragor o fanylion am y meini prawf o ran pwy sy’n gymwys.
Cyflwyno eich datganiad o ddiddordeb
Disgwylir i’r alwad nesaf am geisiadau gau ar 2 Hydref 2024, 17:00 BST.
I fynegi diddordeb yn y cynllun hwn, ac i ymuno â’n gweithdai i ymgeiswyr ym mis Mehefin a Gorffennaf 2024, neu eu gweld, anfonwch e-bost atrisresearchdevelopment@caerdydd.ac.uk gan nodi’r manylion canlynol:
- Eich enw llawn
- Eich disgyblaeth a’r ysgol a fyddai yn eich derbyn
Byddwn ni’n eich rhoi mewn cysylltiad â’r ysgol a fyddai’n eich derbyn os nad ydych chi mewn cysylltiad â nhw eisoes.
A chithau’n ymgeisydd, rhaid i chi wneud yn siŵr bod yr ysgol a fyddai yn eich derbyn wedi trafod eich bwriad i wneud cais ymhell cyn cyflwyno eich cais. Dyma argymell yn gryf eich bod yn mynegi eich diddordeb yn y cynllun hwn cyn gynted ag y bo modd, ac erbyn diwedd mis Awst 2024 fan bellaf, a hynny er mwyn cydymffurfio â dyddiadau cau mewnol yr ysgolion. Mae’r dyddiadau cau fel arfer ym mis Awst a mis Medi.
Sylwer bod Prifysgol Caerdydd yn gweithredu proses gadarn o flaenoriaethu ac adolygu gan gymheiriaid ar gyfer pob cais er mwyn sicrhau bod y rhai o’r safon uchaf yn cael eu cyflwyno i’r Academi Brydeinig.
Ymholiadau
Os oes gennych chi ymholiadau cyffredinol, ac er mwyn cofrestru ar gyfer y gweithdy i ymgeiswyr, cysylltwch â:
Tîm Datblygu Ymchwil, Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi
Ymholiadau cyffredinol Ymddiriedolaeth Leverhulme