Cymrodoriaethau
Ymunwch â ni a dod yn un o arweinwyr ymchwil Cymru yn y dyfodol.
Rydym yn credu mai Prifysgol Caerdydd yw un o’r lleoedd gorau yn y DU i fod yn ymchwilydd ar ddechrau eu gyrfa, ac rydym wastad yn chwilio am ddisgleirion y genhedlaeth nesaf i ymuno â ni. Os ydych am symud i Gaerdydd, yna byddem ni wrth ein bodd i fod eich sefydliad lletyol am un o’r llu o Gymrodoriaethau cystadleuol ac uchel eu bri sydd ar gael. Byddwn yn gweithio gyda chi i hybu capasiti ymchwil ryngwladol yng Nghymru. Gweler isod am rai o’r cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd.
Cymrodoriaethau presennol
Cyfleoedd eraill am gyllid
Os nad yw’r cynlluniau hyn yn addas i chi, mae nifer o gyfleoedd eraill am gyllid a fydd yn eich galluogi i ddal cymrodoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Rydym yn croesawu ymholiadau gan ddarpar ymgeiswyr am yr amrywiaeth o gynlluniau cyllid yn y DU, Ewrop a thu hwnt, sydd ar gael i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa. Rydym hefyd yn eich annog i gysylltu â darpar noddwr a/neu Bennaeth Ysgol ym Mhrifysgol Caerdydd i drafod eich diddordeb.
Cynlluniau cyllido
Mae gan Brifysgol Caerdydd brofiad rhagorol o gefnogi ceisiadau am gymrodoriaethau. Mae nifer mawr o gynlluniau cyllido cymrodoriaeth ar gael i chi, ac mae rhai o’r mwyaf wedi’u rhestru isod. Dilynwch y dolenni isod i ddysgu mwy am eich cymhwysedd am bob un o’r cynlluniau hyn a pha lefel o gyllid sydd ar gael.
UKRI - UK Research and Innovation
- MRC (Cyngor Ymchwil Feddygol)
- EPSRC (Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg)
- NERC (Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol)
- BBSRC (Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol)
- AHRC (Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau)
- ESRC (Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol)
- NC3R
- STFC (Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg)
Cyrff a gefnogir gan Lywodraeth y DU
Ewropeaidd a rhyngwladol
Elusennau meddygol
Cefnogir ymchwil yng Ngholeg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd gan nifer o elusennau meddygol mawr, y mae rhai ohonynt yn cefnogi ymchwil gyrfa gynnar drwy gymrodoriaethau. Dilynwch y dolenni isod i ddysgu mwy am y cyfleoedd hyn.
Cynlluniau cyllido gyda phroses fewnol y brifysgol
Mae gan y cynlluniau cymrodoriaethau canlynol broses frysbennu fewnol ar waith a dylech gysylltu â noddwr posibl a Phennaeth yr Ysgol i drafod eich ymchwil yn addas ac i dderbyn manylion ein proses asesu fewnol.
Cynlluniau cyllido ar gyfer gweithio hyblyg
Ar gyfer unigolion sydd angen gweithio hyblyg neu sy’n dychwelyd i ymchwil ar ôl egwyl yrfaol:
Gweithiwr Ymchwil Proffesiynol
Mae Prifysgol Caerdydd yn tanysgrifio i Research Professional sy’n dal gwybodaeth am filoedd o alwadau agored am bob disgyblaeth o dros 8,000 o gyllidwyr. Gweler gwefan Research Professional.