Ewch i’r prif gynnwys

Sut mae gwneud cais

Popeth y mae angen i chi ei wybod er mwyn cwblhau eich cais.

Bydd ein system ar-lein yn eich tywys drwy'r broses ymgeisio. Wrth i chi symud ymlaen o sgrin i sgrin, cewch y cyfle i arbed pob tudalen a gadael eich cais a dychwelyd eto ar unrhyw adeg cyn dyddiad cau’r swydd.

Edrychwch i lawr bob tudalen o’r cais er mwyn sicrhau eich bod yn cwblhau pob adran berthnasol. Bydd yr adran sydd wedi’i hamlygu ar frig y dudalen yn dangos lle’r ydych chi ar unrhyw adeg yn y broses ymgeisio, ac yn cadarnhau pan fydd pob adran wedi'i chwblhau.

Creu cyfrif

Os oes gennych gyfrif defnyddiwr eisoes, cliciwch ar 'Gwneud cais am swydd' a mynd i adran y cais.

Os nad oes gennych gyfrif, bydd angen i chi greu un:

  • Cliciwch ar 'Creu manylion mewngofnodi' yn y blwch naid.
  • Yna, bydd blwch Polisi Preifatrwydd yn ymddangos a bydd angen i chi dderbyn y datganiad hwn os ydych am fynd ymhellach i mewn i'r system ac ymgeisio am swydd. Bydd angen i chi ddarllen y Polisi Preifatrwydd a chytuno iddo cyn y gallwch greu cyfrif defnyddiwr yn y system. Mae’r Polisi a’r telerau ac amodau yn rhoi manylion pa wybodaeth bersonol a chyfrinachol y mae’r Brifysgol yn ei chasglu a sut y’i defnyddir unwaith y bydd wedi’i chasglu a’i storio. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â defnyddio eich data personol, cysylltwch â ni.
  • Bydd y sgrin 'Creu manylion mewngofnodi' yn ymddangos yn awr, a gofynnir i chi roi eich cyfeiriad e-bost, cyfrinair, cwestiwn diogelwch a’r ateb i'r cwestiwn diogelwch hwnnw. Mae awgrymiadau ar gyfer dewis cyfrinair ar gael ar y sgrin hon hefyd. Mae enwau defnyddiwr a chyfrineiriau yn adnabod priflythrennau a llythrennau bach.
  • Pan fyddwch wedi cyflwyno'r wybodaeth hon, eir â chi i’r dudalen groeso, lle y cewch barhau i chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prifysgol Caerdydd.

Ystyried ar gyfer swyddi yn y dyfodol

Ar sgrin gyntaf y cais, gofynnir i chi a hoffech gael eich ystyried ar gyfer swyddi yn y dyfodol. Os ydych yn cytuno â hyn, bydd eich manylion ar gael ar gyfer chwilio ac efallai y cewch eich gwahodd i wneud cais am swyddi agored yn y Brifysgol a allai fod yn berthnasol i’ch sgiliau a’ch profiad penodol.

Os nad ydych eisiau i’ch manylion gael eu chwilio nac i’r Brifysgol gysylltu â chi, ticiwch ‘na’ i'r cwestiwn hwn.

A ydych chi wedi gwneud cais o’r blaen?

Os ydych chi wedi ymgeisio am swyddi blaenorol, bydd unrhyw wybodaeth a roesoch bryd hynny’n cael ei chynnwys yn awtomatig yn adrannau perthnasol y cais newydd.

Bydd angen i chi adolygu unrhyw wybodaeth a gynhwyswyd yn awtomatig yn yr adran datganiad personol er mwyn sicrhau ei bod yn berthnasol i'r swydd rydych yn gwneud cais amdani.

Gofynnir i chi a ydych yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU. Os ydych chi'n destun rheolaeth fewnfudo, bydd cyfres o gwestiynau’n ymddangos mewn perthynas â’ch cymhwysedd i weithio yn y DU.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein tudalen we Ymgeiswyr rhyngwladol.

Ar y cam hwn, gofynnir i chi a ydych yn weithiwr Prifysgol Caerdydd er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn gwneud cais trwy’r Porth Talent cywir – naill ai 'Adleoli' neu 'Allanol'.

Os ydych chi'n ymgeisydd adleoli sy’n ceisio gwneud cais o fewn y porth talent allanol, gofynnir i chi adael y porwr ac agor y porth adleoli i wneud cais. Darperir dolenni i’r tudalennau gwe adleoli i chi drwy neges e-bost.

Ar y dudalen hon, gofynnir i chi hefyd a ydych wedi cael eich cyflogi gan y Brifysgol yn flaenorol, ac os felly, pa Ysgol neu Gyfarwyddiaeth y gweithioch ynddi, dyddiadau’r gyflogaeth a’ch rheswm dros adael.

Ar gyfer pob cais yr ydych yn ei wneud, gallwch lanlwytho hyd at bum fersiwn o’ch CV, yn ogystal ag unrhyw atodiadau ategol. Cewch lanlwytho unrhyw ddogfennau eraill y credwch eu bod yn berthnasol i'ch cais, ond ni chaiff unrhyw ddogfen fod yn fwy na maint ffeil 5MB.

Bydd y recriwtiwr yn asesu eich datganiad ategol a’ch CV yn erbyn manyleb yr unigolyn ar gyfer y rôl. Mae'n hanfodol eich bod yn defnyddio'r cyfle hwn i ddangos yn union sut yr ydych yn bodloni'r manylebau hyn.

Mae'r system yn cefnogi MS Word, y fformat testun cyfoethog (RTF) a fformatau dogfen PDF. Gallwch atodi dogfennau mewn fformatau eraill (ee enghreifftiau o waith a grëwyd mewn meddalwedd a ddefnyddir o fewn eich disgyblaeth benodol), ond ni allwn warantu y bydd gan yr adran sy’n recriwtio’r swydd wag y feddalwedd berthnasol i agor eich atodiad.

Llenwch gynifer o feysydd manylion personol â phosibl. Mae’r meysydd hynny sydd wedi'u marcio â seren yn orfodol a rhaid eu cwblhau os ydych am fwrw ymlaen â'ch cais.

Gallwch ddiwygio’r cofnodion ar gyfer eich manylion personol, hanes gyrfa ac addysg ar unrhyw adeg drwy glicio ar 'golygu' a 'diweddaru' wrth i chi gwblhau cais.

Gallwch hefyd wneud newidiadau trwy ddilyn y ddolen 'Golygu Proffil' yn yr hafan ymgeisydd a dewis y tab y mae angen ei ddiwygio.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw eich cyfeiriad e-bost yn gyfredol yn eich manylion proffil. Byddwn yn anfon pob gohebiaeth atoch drwy neges e-bost, ac ni ellir ein dal yn gyfrifol os nad ydych yn derbyn gwybodaeth bwysig oherwydd nid yw cyfeiriad e-bost wedi cael ei newid ar y system.

Gan ddechrau gyda'ch cyflogwr presennol neu fwyaf diweddar, rhowch fanylion eich hanes gwaith llawn dros y 10 mlynedd diwethaf (neu ers gadael yr ysgol, os yw hynny'n fwy priodol).

Os oes angen i chi gofnodi mwy nag un set o fanylion cyflogwr, cliciwch 'ychwanegu' a bydd llinell newydd yn ymddangos. Gallwch gofnodi uchafswm o bum cyflogwr blaenorol.

Cewch gynnwys cyflogaeth â thâl, gwaith gwirfoddol neu brofiad gwaith. Dylech hefyd gynnwys cofnodion ar gyfer unrhyw gyfnodau pryd nad oeddech yn gyflogedig (ee mewn addysg amser llawn, yn ddi-waith, absenoldeb mamolaeth, ac ati).

Gofynnir i chi hefyd ddarparu manylion unrhyw aelodaeth broffesiynol sydd gennych. Dylech roi manylion am unrhyw aelodaeth broffesiynol berthnasol a/neu fanylion cofrestru. Sylwer y gallem geisio tystiolaeth o aelodaeth cyn cyflogi.

Gan ddechrau gyda'r cymhwyster mwyaf diweddar a ddyfarnwyd, rhowch fanylion y brifysgol neu’r sefydliad addysgol a fynychwyd, y pwnc neu’r maes astudio, y cymhwyster a ddyfarnwyd a’r flwyddyn ddyfarnu. Rhowch fanylion unrhyw gymwysterau yr ydych yn astudio amdanynt ar hyn o bryd neu’n aros am eu canlyniadau, a’r dyddiad cwblhau disgwyliedig.

Os oes angen i chi gynnwys mwy nag un cofnod, cliciwch 'ychwanegu' a bydd llinell arall yn ymddangos. Cewch restru tri sefydliad ar y mwyaf yn yr adran hon.

Os cynigir cyflogaeth i chi yn y Brifysgol, gofynnwn i chi ddarparu tystiolaeth o'r cymwysterau yr ydych wedi’u cyflawni.

Rhaid i chi ddarparu manylion dau ganolwr yn yr adran hon. Ni ddylid enwi aelodau'r teulu na ffrindiau personol yn ganolwyr. Rhaid iddynt fod yn unigolion sy'n eich adnabod yn broffesiynol ac sy’n gallu gwneud sylwadau ar eich cyflogaeth flaenorol a’ch perfformiad gwaith diweddar mewn perthynas â’r meini prawf dethol.

Disgwylir, felly, i un canolwr o leiaf fod eich cyflogwr presennol neu ddiwethaf.

Os ydych newydd gwblhau addysg amser llawn, gallech ddewis tiwtor cwrs neu aelod o staff academaidd sy’n gyfarwydd â'ch gwaith.

Cysylltu â'ch canolwyr

Ar gyfer swyddi academaidd gwag, polisi’r Brifysgol yw cysylltu â chanolwyr i roi gwybod iddynt am y broses recriwtio cyn cyfweliad. Ar gyfer yr holl swyddi gwag eraill, gofynnir am eirda ar yr adeg penodi fel arfer. Cewch fynnu bod cyswllt â'ch canolwyr yn cael ei ohirio tan ar ôl y cyfweliad drwy ddewis hyn fel opsiwn o'r gwymplen.

Byddwn yn cysylltu â’ch canolwyr drwy neges e-bost, felly mae'n hanfodol eich bod yn rhoi cyfeiriad e-bost i ni ar gyfer pob canolwr.

Os nad oes gan eich canolwr gyfrif e-bost, rhowch symbol '@' yn y maes e-bost a chynnwys nodyn yn eich datganiad ategol i dynnu sylw’r recriwtiwr at hyn. Yna, bydd y recriwtiwr yn cysylltu â’ch canolwr dros y ffôn neu drwy lythyr.

Yn yr adran hon, gofynnir i chi a yw’ch cais ar gyfer swydd glinigol (maes gorfodol).

Os ydych yn ticio ‘ydyw’ i hyn, bydd ffenestr newydd yn ymddangos gyda chwestiynau sy'n ymwneud yn benodol â swyddi clinigol. Cwblhewch yr adran hon os ydych yn ymgeisio am swyddi sy'n gofyn i chi fod wedi’ch cofrestru â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol, y Cyngor Deintyddol Cyffredinol, y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a phob gweithiwr proffesiynol perthynol i iechyd.

Bydd angen i chi hefyd roi eich cyfnod rhybudd cyfredol yn yr adran hon, yn ogystal â nodi ble y gwelsoch y swydd yn cael ei hysbysebu.

Rydym yn ymrwymedig i bolisi cyfle cyfartal yn ein harferion cyflogaeth. Nod y polisi yw dileu gwahaniaethu anghyfreithlon ac annheg ar unrhyw sail, gan gynnwys rhyw, ethnigrwydd, oedran ac anabledd.

Bydd y dudalen hon yn casglu gwybodaeth cyfle cyfartal ac mae’n cynnwys cyfres o gwestiynau rhwydd eu dilyn. Mae pob maes yn orfodol, ond cewch ddewis ateb 'gwell gen i beidio â dweud' ar gyfer rhai cwestiynau.

Bydd y wybodaeth a roddwch yma yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol. Ni chaiff ei defnyddio yn y broses ddethol ac ni fydd ar gael i unrhyw un sy’n ymwneud â llunio rhestr fer.

Bydd pob swydd yn cau am hanner nos ar y dyddiad cau, ac ni dderbynnir unrhyw geisiadau anghyflawn na hwyr yn y broses ddethol. Cadwn yr hawl i gau swydd wag yn gynnar, felly argymhellwn eich bod yn cyflwyno’ch cais ymhell cyn y dyddiad cau a chyn gynted â phosibl yn ystod y broses recriwtio.

Awgrymwn eich bod yn adolygu neu argraffu eich cais cyn ei gyflwyno, gan na fydd ar gael i’w weld na’i newid pan fyddwch yn clicio’r botwm 'Cyflwyno'.

Pan fyddwch wedi cyflwyno’ch cais, byddwch yn derbyn y neges ganlynol drwy’r system: ‘Diolch. Mae eich cais wedi'i gyflwyno’n llwyddiannus. Cysylltir â chi drwy neges e-bost pan fydd eich cais wedi cael ei brosesu'.

Fel arall, gallwch wirio bod eich cais wedi cael ei dderbyn a'i brosesu drwy glicio ar y ddolen 'Statws Cyflwyno Cais' ar y dudalen hafan ymgeiswyr. Bydd statws y cais yn ymddangos fel 'Ymgeisydd Newydd'.

Cofiwch wirio statws eich cais ar y porth ymgeiswyr yn ystod yr wythnosau ar ôl gwneud cais.

Cael gafael ar geisiadau wedi'u cadw

Gallwch weld unrhyw geisiadau a gadwyd rydych wedi bod yn gweithio arnynt ar y dudalen hafan ymgeiswyr drwy’r ddolen 'Drafftiau wedi’u cadw'. Cliciwch ar y botwm 'Parhau' wrth ochr eich drafft i agor y cais yn y man lle y gwnaethoch ei adael.

Os sylweddolwch eich bod wedi gwneud camgymeriad ar ôl cyflwyno eich cais – un a allai gael effaith andwyol ar gyrraedd y rhestr fer – gallwch ei dynnu'n ôl.

Ewch i ‘Statws Cyflwyno Cais’ a chlicio’r botwm tynnu'n ôl ar gyfer y swydd honno. Os nad yw’r dyddiad cau wedi mynd heibio, cewch ailgyflwyno eich cais.

Os darganfyddwch wall yn y dogfennau a gyflwynwyd gyda'ch cais y dymunwch ei ddiwygio, cysylltwch â hrsystemkenexa@caerdydd.ac.ukgyda fersiwn newydd o'r ddogfen. Sylwer na allwch wneud newidiadau i’ch cais ar ôl dyddiad cau’r swydd wag

Cysylltu â ni

Os ydych yn cael problemau technegol wrth ddefnyddio'r system, neu anawsterau wrth gwblhau'r cais, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.

Desg Gymorth Canolfan Gwasanaethau Pobl (Ceisiadau Swyddi)