Prifysgol Waikato - Te Whare Wãnanga o Waikato
Mae'r Bartneriaeth Strategol gyda Phrifysgol Waikato, sy'n adeiladu ar ein cytundeb cyfnewid myfyrwyr llwyddiannus, yn fanteisiol i staff a myfyrwyr fel ei gilydd yn y ddwy brifysgol, gan gynnwys cydweithio gwell ym maes ymchwil, gweithgareddau addysgu tymor byr a hirdymor a phlatfformau cydweithredol, yn ogystal â chyfleoedd i'n gwasanaethau proffesiynol gael gweithio gyda'i gilydd.
Mae’r Bartneriaeth Strategol eisoes wedi ysgogi gweithgareddau cydweithio cyffrous yn y meysydd canlynol sy’n ymwneud â dysgu ac addysgu:
- Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau
- Deallusrwydd Artiffisial a Gwyddor Data (Roboteg)
- Busnes a Rheoli
- Dŵr, yr Amgylchedd a Newid yn yr Hinsawdd
Oherwydd cysylltiadau diwylliannol a daearyddol cryf y ddwy brifysgol, mae partneriaeth strategol rhyngwladol yn parhau i sicrhau manteision dinesig ehangach i Gymru a Seland Newydd fel ei gilydd.
Rydyn ni’n croesawu cydweithio mewn partneriaeth ym mhob maes pwnc; darllenwch ragor i wybod sut gallwch chi gymryd rhan.
2021
Llofnodwyd Cytundeb Partneriaeth Strategol
c£135k
Dyfarnwyd mewn cronfeydd sbarduno partneriaeth CU-Waikato
30+
Mae myfyrwyr wedi ymweld â Waikato ar raglenni cyfnewid
Ynglŷn â Phrifysgol Waikato
Cafodd Prifysgol Waikato ei sefydlu ym 1964. Ers hynny, mae wedi dod yn brifysgol gynhwysfawr ac iddi hunaniaeth Maori gref a chymuned gref o fyfyrwyr. Mae’n cael ei harwain gan ymchwil ac yn canolbwyntio ar ddatblygu cynaliadwy. Mae'n brifysgol uchelgeisiol sydd â 13,000 o fyfyrwyr a 1,500 o staff. Mae gan Brifysgol Waikato ddau gampws ar Ynys Ogleddol Seland Newydd, sef Hamilton a Tauranga. Mae ganddi hefyd Sefydliad ar y Cyd yn Hangzhou, Tsieina.
Mae Prifysgol Waikato wedi'i rhannu'n bum grŵp o Ysgolion a Chyfadrannau:
- Is-adran y Celfyddydau, y Gyfraith, Seicoleg a'r Gwyddorau Cymdeithasol
- Is-adran Iechyd, Peirianneg, Cyfrifiadura a Gwyddoniaeth
- Is-adran Addysg
- Ysgol Reoli Waikato
- Te Pua Wānanga ki te Ao – Cyfadran Astudiaethau Brodorol a Māori
Yn debyg i Brifysgol Caerdydd, mae Prifysgol Waikato wedi sefydlu nifer o Sefydliadau Ymchwil rhyngddisgyblaethol. Mae gan nifer o'r rhain synergeddau â Sefydliadau Ymchwil Prifysgol Caerdydd a'n meysydd ymchwil strategol cryf, gan gynnwys:
Seremoni Arwyddo’r Bartneriaeth Strategol
Cafodd ein partneriaeth ei lansio’n ffurfiol mewn digwyddiad ar-lein ac wyneb-yn-wyneb ar 10 Tachwedd 2021.
Gallwch chi wylio’r. digwyddiad lansio ar YouTube
Nod y digwyddiad lansio oedd codi ymwybyddiaeth staff a myfyrwyr o’r bartneriaeth, cydnabod llwyddiannau hyd yma a chreu cysylltiadau pellach ar draws ein sefydliadau. Ymhlith y siaradwyr gwadd roedd:
- Yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd ar y pryd
- Yr Athro Neil Quigley, Is-Ganghellor, Prifysgol Waikato
- Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru
- Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
- Yr Anrhydeddus Aupito William Sio, Gweinidog Pobl Ynysoedd y Môr Tawel a Gweinidog y Llysoedd. Gweinidog Cyswllt dros Faterion Tramor, Gweinidog Cyswllt dros Addysg (Pobl Ynysoedd y Môr Tawel), Gweinidog Cyswllt dros Gyfiawnder, Gweinidog Cyswllt dros Iechyd (Pobl Ynysoedd y Môr Tawel)
- Ei Hardderchogrwydd Ms Laura Clarke, Uchel Gomisiynydd y Deyrnas Unedig i Seland Newydd
- Shannon Austin, Dirprwy Uchel Gomisiynydd Seland Newydd i’r Deyrnas Unedig
- Grant McPherson, Prif Weithredwr, Education New Zealand
- Harvey Griffiths a Katie Drennan, cyn-fyfyrwyr cyfnewid
Cytundeb Cyfnewid Myfyrwyr
Mae gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Waikato gytundeb gweithredol yn ei le o ran cyfnewid myfyrwyr.
Yn sgil Cytundebau Cyfnewid Myfyrwyr caiff myfyrwyr yn y ddwy brifysgol ymgymryd â chyfnewid am semester neu flwyddyn i astudio neu ymchwilio dramor yn y sefydliad sy’n bartner.
I gael rhagor o wybodaeth am y cytundeb cyfnewid myfyrwyr gyda Waikato, cysylltwch â:
Cyfleoedd Byd-eang
- studentconnect@caerdydd.ac.uk
- +44 (0) 2922 518 888
Cronfa Sbarduno Caerdydd-Waikato
Cafodd y gronfa ei sefydlu i gefnogi datblygiad y Bartneriaeth Strategol rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Waikato. Bydd y gronfa’n helpu staff i wneud ymchwil ar y cyd. Bydd hefyd yn galluogi staff yn y gwasanaethau addysgu a/neu broffesiynol i ddatblygu prosiectau sy’n sicrhau canlyniadau clir a llwybr i ddatblygu a chynnal y cydweithredu sy’n digwydd.
Prosiectau Cydweithio gyda Phrifysgol Waikato - Te Whare Wānanga o Waikato
Cymerwch olwg ar rai o'r prosiectau cyffrous sydd ar y gweill:
Cysylltu Staff
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cydweithio â'ch cymar ym Mhrifysgol Caerdydd neu Brifysgol Waikato?
Cysylltwch â ni
Os hoffech chi wybod rhagor am ein gweithgareddau rhyngwladol neu am greu partneriaeth â ni, cysylltwch â thîm y Partneriaethau Rhyngwladol.
Rhys Evans
- evansr9@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 9610
Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu perthynas gyda ni a fyddech yn hoffi bod yn bartner, ebostiwch ni gyda manylion o’ch cynnig.