System Prifysgol Illinois
Ar 23 Mehefin 2023, llofnododd Prifysgol Caerdydd Gytundeb Partneriaeth Strategol newydd ar y cyd â System Prifysgol Illinois.
Mae'r ddau sefydliad wedi meithrin cysylltiadau agos drwy’r Sefydliad Partneriaid Darganfod (DPI) – sefydliad ymchwil ryngddisgyblaethol preifat-gyhoeddus System Prifysgol Illinois sydd wrth galon Rhwydwaith Arloesi Illinois yng nghanol dinas Chicago.
Nod y bartneriaeth strategol yw cryfhau ymchwil ar y cyd mewn meysydd allweddol:
- Systemau ynni ac allyriadau sero net
- Seiberddiogelwch
- Gwyddor data a deallusrwydd artiffisial
- Ymchwil canser
- Y geowyddorau
- Entrepreneuriaeth ac arloesedd
- Ymchwil dŵr a pheithiau
- Newyddiaduraeth
Mae gan System Prifysgol Illinois 94,000 o fyfyrwyr ar dri champws: Chicago, Springfield ac Urbana-Champaign. System Prifysgol Illinois yw system addysg uwch fwyaf y dalaith. Mae ganddi ei hysbyty, ei chlinigau, ei maes awyr, ei chyfleusterau ymchwil a’i swyddfeydd estyn ei hun.
Croesewir gweithio mewn partneriaeth ym mhob maes pwnc; darllenwch ymlaen i gael gwybod sut gallwch chi gymryd rhan.
2019
Prifysgol Caerdydd yn ymuno â’r DPI
2023
Llofnodi’r Cytundeb Partneriaeth Strategol
2024
Lansio Rhaglen Grantiau Sbarduno gyntaf Caerdydd-Illinois
Prifysgol Illinois Urbana-Champaign
Prifysgol Illinois Urbana-Champaign yw un o’r 37 sefydliad grant tir cyhoeddus gwreiddiol a grëwyd ar ôl i’r Arlywydd Abraham Lincoln lofnodi Deddf Morrill ym 1862.
Mae’r brifysgol yn y gefeillddinasoedd Champaign ac Urbana (poblogaeth o 207,000) yn nwyrain canol Illinois. Mae tua 140 milltir i’r de o Chicago, 125 milltir i’r gorllewin o Indianapolis a 180 milltir i’r gogledd-ddwyrain o St Louis.
Yn rhan o gymuned Prifysgol Illinois Urbana-Champaign mae 29 o enillwyr Gwobr Pulitzer. Y brifysgol hefyd a ddyfeisiodd y porwr gwe graffigol cyntaf.
Mae gan y brifysgol fwy na 56,000 o fyfyrwyr sy’n hanu o bob un o 50 talaith UDA a mwy na 100 o wledydd ledled y byd.
Mae gan Brifysgol Illinois Urbana-Champaign 15 o golegau ac unedau hyfforddi:
- Y Coleg Gwyddor Defnyddwyr a’r Gwyddorau Amaethyddol ac Amgylcheddol
- Y Coleg Gwyddorau Iechyd Cymhwysol
- Coleg Busnes Gies
- Y Coleg Addysg
- Coleg Peirianneg Grainger
- Coleg y Celfyddydau Cain a Chymhwysol
- Coleg y Graddedigion
- Yr Ysgol Llafur a Chysylltiadau Cyflogaeth
- Coleg y Gyfraith
- Coleg y Celfyddydau a'r Gwyddorau Rhyddfrydol
- Yr Ysgol Gwyddor Gwybodaeth
- Coleg y Cyfryngau
- Coleg Meddygaeth Carle Illinois
- Yr Ysgol Gwaith Cymdeithasol
- Y Coleg Milfeddygaeth
Prifysgol Illinois Chicago
Prifysgol Illinois Chicago yw prifysgol fwyaf ac unig sefydliad Carnegie Ymchwil 1 cyhoeddus y ddinas.
Mae ei 16 coleg blaenllaw (y mae saith coleg gwyddorau iechyd ac unig ysgol cyfraith gyhoeddus Chicago yn eu plith) yn gwasanaethu mwy na 33,500 o fyfyrwyr israddedig, ôl-raddedig a phroffesiynol.
Mae Prifysgol Illinois Chicago yn cael ei chydnabod yn un o’r prifysgolion cyhoeddus gorau ac un o’r campysau mwyaf ethnig a diwylliannol amrywiol yn y genedl.
A hithau wedi’i lleoli yng nghanol Chicago, mae’n rhan annatod o wead addysgol, technolegol a diwylliannol un o ddinasoedd mwyaf y byd.
Prifysgol Illinois Springfield
Cafodd ei sefydlu ym 1969 gan Gynulliad Cyffredinol Illinois, a hynny o dan yr enw Prifysgol Daleithiol Sangamon. Ar 1 Gorffennaf 1995, daeth yn un o gampysau System Prifysgol Illinois. Prifysgol Illinois Springfield oedd ei henw newydd ar ôl hynny.
Mae Prifysgol Illinois Springfield yn dathlu ei hamrywiaeth gyda champws sy’n cynnwys myfyrwyr a staff o wahanol oedrannau, cefndiroedd a chymunedau ethnig.
Mae ganddi bedwar coleg: Busnes a Rheolaeth; Iechyd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg; Y Gwyddorau Cymdeithasol a’r Celfyddydau Rhyddfrydol; Addysg a Materion Cyhoeddus.
Mae gan Brifysgol Illinois Springfield gyfanswm o fwy na 4,500 o fyfyrwyr, 60 o raglenni israddedig a 44 o raglenni ôl-raddedig.
Mae’n cynhyrchu tua $7 miliwn bob blwyddyn mewn cyllid ymchwil.
Mae Prifysgol Illinois Springfield wedi’i lleoli yn ne-ddwyrain Springfield, Illinois, ger Llyn Springfield. Mae tua 200 milltir i’r de-orllewin o Chicago a 100 milltir i’r gogledd-ddwyrain o St Louis. Mae ei champfa yn ymestyn dros 746 erw.
Y Sefydliad Partneriaid Darganfod (DPI)
Mae’r DPI yn grymuso pobl i roi cychwyn egnïol i’w gyrfaoedd neu gwmnïau technoleg yn Chicago.
Mae’r DPI, o dan arweiniad System Prifysgol Illinois ar y cyd â phrifysgolion ymchwil o’r radd flaenaf, yn gwneud tri pheth: hyfforddi pobl ar gyfer swyddi technoleg y mae galw mawr amdanyn nhw; gwneud gwaith ymchwil a datblygu; a datblygu busnesau i dyfu ecosystem dechnoleg Chicago.
Mae’r DPI yn sefydliad ymchwil ryngddisgyblaethol preifat-gyhoeddus sydd wrth galon Rhwydwaith Arloesi Illinois. Ynghyd â nifer fach o bartneriaid rhyngwladol eraill, mae Prifysgol Caerdydd yn Aelod Academaidd o’r DPI (ac wedi bod yn aelod ers 2018).
Mae gwaith Prifysgol Caerdydd gyda’r DPI eisoes wedi arwain at dri chais i Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol (NSF) UDA a chais llwyddiannus am grant sbarduno gan y DPI mewn cysylltiad â’r “Llwybr at Sero Net” ar gyfer cerbydau trydan yn ardal Chicago.
Y DPI yw angor cymdogaeth newydd, lle mae 13 miliwn troedfedd sgwâr o swyddfeydd, siopau, preswylfeydd a gwestai wedi’i fapio.
Mae cyfleuster y DPI yn cynnwys:
- Labordai cyfrifiant a pheirianneg
- Ystafelloedd dosbarth
- Swyddfeydd a labordai i ddechrau busnes
- Mannau ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau
- Man cyhoeddus
Newyddion y bartneriaeth
Dewch i gael gwybod sut mae ein partneriaeth wedi gwneud cydweithio’n rhyngwladol yn bosibl i’r staff a’r myfyrwyr:
Cronfeydd Cydweithio System Prifysgol Illinois
Mae dau fath o gronfa wedi'u sefydlu i helpu i ddatblygu’r bartneriaeth strategol rhwng Prifysgol Caerdydd a System Prifysgol Illinois mewn meysydd cyffredin o ran ymchwil, addysgu ac addysg.
Mae dau fath o gyllid y gall y staff ymgeisio amdanyn nhw drwy system ymgeisio ar-lein System Prifysgol Illinois:
- Grant Sbarduno Ymchwil ac Arloesedd ar y Cyd
- Grant Teithio
Mae rhagor o wybodaeth am sut i ymgeisio ar gael ar fewnrwyd y staff.
Cysylltu â ni
Ar gyfer ymholiadau sy’n ymwneud â'r bartneriaeth strategol â System Prifysgol Illinois, y manylion cyswllt yw:
Rhys Evans
- evansr9@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 9610
Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu perthynas gyda ni a fyddech yn hoffi bod yn bartner, ebostiwch ni gyda manylion o’ch cynnig.