Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Bremen

University of Bremen - Glashalle building
University of Bremen - Glashalle building

Mae ein Partneriaeth Strategol â Phrifysgol Bremen, sy’n ehangu ar ‘Gynghrair Bremen-Caerdydd’ a lofnodwyd ar 8 Mawrth 2019, yn gwella ein hymdrechion ymchwil ar y cyd ac yn rhoi cyfleoedd i’n staff a’n myfyrwyr ddatblygu prosiectau newydd ar y cyd.

Mae’r Bartneriaeth Strategol wedi ysgogi gweithgareddau cydweithio cyffrous yn y meysydd canlynol:

  • Astudiaethau llenyddol, cymdeithasol a hanesyddol
  • Y cyfryngau a’r gwyddorau cyfathrebu
  • Y gwyddorau morol ac amgylcheddol
  • Ffiseg lled-ddargludyddion

Croesewir gweithio mewn partneriaeth ym mhob maes pwnc; darllenwch ymlaen i gael gwybod sut y gallwch chi gymryd rhan.

Mae Bremen, a sefydlwyd ym 1971, yn aelod o YERUN – Rhwydwaith Prifysgolion Ymchwil Ewropeaidd Ifanc ac YUFE – Prifysgolion Ifanc er Dyfodol Ewrop (Menter Prifysgolion Ewrop)

Yn 2005, dyrannwyd statws ‘Dinas Gwyddoniaeth’ i ddinas Bremen. Yn 2012, dosbarthwyd y Brifysgol yn ‘Brifysgol Rhagoriaeth’ – un yn unig o 11 sefydliad yn yr Almaen i gael y fath gydnabyddiaeth.

Prifysgol Bremen yw cartref ‘Clwstwr Rhagoriaeth’ MARUM – Canolfan y Gwyddorau Amgylcheddol Morol

Mae Prifysgol Bremen yn cynnig ystod eang o raglenni academaidd ond ceir cryfder penodol yn y gwyddorau naturiol a pheirianyddol, y gwyddorau cymdeithasol a’r dyniaethau. Mae ganddi tua 20,000 o fyfyrwyr (y mae tua 3,500 ohonyn nhw’n fyfyrwyr rhyngwladol).

Blaenoriaethau ymchwil Prifysgol Bremen yw ymchwil ar gefnforoedd a’r hinsawdd, gwyddorau deunyddiau, gwybodaeth-gwybyddiaeth-cyfathrebu, y gwyddorau cymdeithasol, y gwyddorau iechyd, a logisteg.

Mae gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bremen gytundeb gweithredol yn ei le i gyfnewid myfyrwyr.

Yn sgil Cytundebau Cyfnewid Myfyrwyr caiff myfyrwyr yn y ddwy brifysgol ymgymryd â chyfnewid am semester neu flwyddyn i astudio neu ymchwilio dramor yn y sefydliad sy’n bartner.

I gael rhagor o wybodaeth am ein Cytundeb Cyfnewid Myfyrwyr â Phrifysgol Bremen, y manylion cyswllt yw:

Cyfleoedd Byd-eang

Bydd y rhaglen gyfunol hon, fydd yn para am bythefnos, yn dod â myfyrwyr o Bremen a Chaerdydd ynghyd i drin a thrafod Cynaliadwyedd ac Entrepreneuriaeth er mwyn dod o hyd i ateb i broblem yn y byd go iawn.

Bydd sesiynau grŵp, a gaiff eu cyflwyno gan dimau Menter Prifysgol Caerdydd a Bremen, yn trin a thrafod themâu megis meddwl yn greadigol, creu syniadau a diwylliant dechrau busnes. Bydd sesiynau arbenigol yn cael eu cyflwyno i ehangu dealltwriaeth y myfyrwyr o agweddau allweddol ar gynaliadwyedd a byd busnes. Cynhelir wythnos 1 ar-lein a bydd wythnos 2 yn digwydd wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd.

Effaith y bartneriaeth

Dewch i gael gwybod sut mae ein partneriaeth wedi hyrwyddo cydweithio’n rhyngwladol i’r staff a’r myfyrwyr:

Myfyrwyr yn trawsnewid theori yn ymarfer yng ngwersyll haf Bremen

Mae grŵp o fyfyrwyr Ysgol Busnes Caerdydd wedi cymryd rhan mewn prosiectau’r byd go iawn mewn cydweithrediad â chwmnïau Almaeneg a'r DU yn rhan o wersyll haf.

Pedwar person yn sefyll mewn llinell yn gwenu ar y camera. Mae yna ddau ddyn ar y chwith a dwy fenyw ar y dde.

Ysgol y Gymraeg yn croesawu academyddion o Ewrop

Mae tri academydd Ewropeaidd wedi ymweld ag Ysgol y Gymraeg yn ddiweddar i drafod y Gymraeg.

Cronfa Bartneriaeth Bremen-Caerdydd

Sefydlwyd y gronfa i gefnogi datblygiad y Bartneriaeth Strategol rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Waikato. Bydd y gronfa’n cefnogi staff a myfyrwyr PhD i ddatblygu ymchwil ar y cyd, prosiectau addysgu a/neu yn y gwasanaethau proffesiynol sy’n arwain at ddeilliannau clir a llwybr i ddatblygu a chynnal y cydweithio.

Darganfyddwch sut i wneud cais ar fewnrwyd y staff.

Cysylltu â ni

Os hoffech chi wybod rhagor am ein gweithgareddau rhyngwladol neu am greu partneriaeth â ni, cysylltwch â thîm y Partneriaethau Rhyngwladol.

Rheolwr Ymgysylltu Partneriaethau Rhyngwladol

Sophie Lewis