Universidade Estadual de Campinas
Llofnodwyd ein Cytundeb Partneriaeth Strategol â Phrifysgol UNICAMP, un o brifysgolion mwyaf blaenllaw America Ladin, ym mis Rhagfyr 2018 a'i adnewyddu ym mis Awst 2023.
Mae cydweithio parhaus rhwng UNICAMP a Phrifysgol Caerdydd wedi bod dros y degawd diwethaf (partneriaeth a ddatblygodd yn Bartneriaeth Strategol) wedi arwain at gryn dwf ac atgyfnerthu’r sefydliadau fel a ganlyn:
- cysylltiadau ymchwil a symudedd staff rhwng ein sefydliadau,
- symud ar-lein yn llwyddiannus pan gyfyngwyd ar deithio,
- cyflawni portffolio sylweddol o brosiectau ymchwil ar y cyd yn ogystal â chymrodoriaethau ymweld,
- cynnydd wrth fynd ar drywydd cyfleoedd cyllido allanol gyda'n gilydd,
- datblygu rhaglen symudedd myfyrwyr yn llwyddiannus
Ynglŷn ag UNICAMP
Sefydlwyd Universidade Estadual de Campinas, a elwir Unicamp fel arfer, ym 1966 ac mae'n bwerdy ym myd gwyddoniaeth ac arloesi Brasil. Dyma brifysgol ymchwil gynhwysfawr a chyhoeddus yn rhanbarth talaith São Paulo, ac mae ganddi gampysau cysylltiedig yn Limeira a Paulínia.
Yn UNICAMP mae 24 o Ysgolion Academaidd a thua 40,000 o fyfyrwyr.
Gwerthoedd sefydliadol allweddol UNICAMP yw Cynaliadwyedd, Cynhwysiant ac Amrywiaeth, yn ogystal ag Arloesi ac Entrepreneuriaeth.
Yn gyson, bydd UNICAMP ymhlith y prifysgolion gorau ym Mrasil ac America Ladin. Dyma 3edd prifysgol fwyaf Brasil o ran cynnyrch ei chyhoeddiadau ymchwil a'r brifysgol orau ym Mrasil o ran nifer y patentau.
Mae ei logo, sef pêl wen o fewn y 13 stribyn sy'n cynrychioli baner São Paulo, yn symbol o undod a man cyfarfod gwych rhwng y staff a gwybodaeth ddynol yn enwedig, a nodweddir hyn gan y tri chylch coch: Y Gwyddorau, y Gwyddorau Manwl Gywir a’r Dyniaethau. Gan weithredu gyda'i gilydd, bydd y tri maes gwybodaeth hyn yn ymledu i'r gymuned, gan gyflawni tair swyddogaeth y Brifysgol: Addysgu, Ymchwil ac Ymestyn.
Cyfnewid myfyrwyr
Mae gan Brifysgol Caerdydd ac UNICAMP gytundeb gweithredol yn ei le o ran cyfnewid myfyrwyr.
Yn sgil Cytundebau Cyfnewid Myfyrwyr caiff myfyrwyr yn y ddwy brifysgol ymgymryd â chyfnewid am semester neu flwyddyn i astudio neu ymchwilio dramor yn y sefydliad sy’n bartner.
I gael rhagor o wybodaeth am y cytundeb cyfnewid myfyrwyr ag UNICAMP, cysylltwch â:
Y Tîm Cyfleoedd Byd-eang
- studentconnect@caerdydd.ac.uk
- +44 (0) 2922 518 888
Cronfa Partneriaeth Caerdydd-UNICAMP
Yn rhan o'n partneriaeth strategol ag Universidade Estadual de Campinas (UNICAMP), sefydlwyd cronfa symudedd i gefnogi ymweliadau academaidd i UNICAMP i ddatblygu prosiectau ar y cyd rhwng y sefydliadau ym maes ymchwil, addysg a’r gwasanaethau proffesiynol.
Bydd y gronfa’n cefnogi staff i ddatblygu prosiectau ymchwil, addysgu ac yn y gwasanaethau proffesiynol sydd â chanlyniadau clir a llwybr i ddatblygu a chynnal y cydweithio sy’n digwydd.
Effaith y Bartneriaeth
Mae'r bartneriaeth hon wedi arwain at gyfres o ymweliadau sy'n canolbwyntio ar ymchwil, gan ddod â thua 100 o staff ar draws y ddau sefydliad i gysylltiad â'i gilydd, a thwf pellach mewn cyhoeddiadau ar y cyd, ceisiadau am grantiau a symudedd. Edrychwch ar rai o'n prosiectau cyffrous ar y cyd isod:
14
Ceisiadau llwyddiannus i'r gronfa bartneriaeth ers hydref 2022
tua £40k
O ran cronfeydd partneriaeth a ddyfarnwyd ers hydref 2022.
£3K
O ran y cyllid sydd ar gael fesul cais am symudedd a chydweithio
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwybod mwy am ein gweithgareddau rhyngwladol neu greu partneriaeth â ni, cysylltwch â thîm y Partneriaethau Rhyngwladol.
Rhys Evans
- evansr9@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 9610
Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu perthynas gyda ni a fyddech yn hoffi bod yn bartner, ebostiwch ni gyda manylion o’ch cynnig.