Prifysgol Wyoming
Ar 25 Ebrill 2023, llofnododd Prifysgol Caerdydd Gytundeb Partneriaeth Strategol newydd gyda Phrifysgol Wyoming.
Gan ehangu ar hanes cyfoethog o gydweithio, bydd y bartneriaeth hon yn galluogi prosiectau ymchwil ar y cyd, cyfres flynyddol o seminarau, cynadleddau a gweithdai, symudedd staff a myfyrwyr PhD a rhaglenni addysg ar y cyd.
Ynghylch Prifysgol Wyoming
Sefydliad ymchwil grant tir a gydnabyddir yn genedlaethol yw Prifysgol Wyoming, a hithau’n gartref i academyddion arbenigol o'r radd flaenaf yn ogystal â chyfleusterau o safon fyd-eang.
Cafodd ei sefydlu ym mis Mawrth 1886, bedair blynedd cyn i'r diriogaeth gael ei derbyn yn 44edd dalaith UDA a'i hagor ym mis Medi 1887. Mae Prifysgol Wyoming yn anarferol gan iddi gael ei henwi’n rhan o gyfansoddiad y dalaith.
Mae gan y Brifysgol fwy na 90 o raglenni academaidd i raddedigion mewn saith coleg a nifer fawr o sefydliadau ac ysgolion rhyngddisgyblaethol:
- Y Coleg Amaeth, Gwyddorau Bywyd ac Adnoddau Naturiol
- Coleg y Celfyddydau a'r Gwyddorau
- Y Coleg Busnes
- Y Coleg Addysg
- Y Coleg Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol
- Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd
- Coleg y Gyfraith
- Ysgol yr Amgylchedd ac Adnoddau Naturiol Haub
- Yr Ysgol Cyfrifiadureg
- Yr Ysgol Adnoddau Ynni
- Wyoming Geographic Information Science Center
Gan mai hi yw’r unig brifysgol yn y dalaith, mae myfyrwyr Wyoming yn cael cefnogaeth gref gan Lywodraeth y Dalaith, gan gynnwys cymorth ariannol at ddibenion ymgysylltu â sefydliadau tramor.
Mae ganddi 12,000 o fyfyrwyr sy’n hanu o bob un o 50 talaith UDA ac 82 o wledydd ledled y byd.
Cyfnewid myfyrwyr
Mae gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Wyoming gytundeb gweithredol yn ei le i gyfnewid myfyrwyr.
Yn sgil Cytundebau Cyfnewid Myfyrwyr caiff myfyrwyr yn y ddwy brifysgol ymgymryd â chyfnewid am semester neu flwyddyn i astudio neu ymchwilio dramor yn y sefydliad sy’n bartner.
I gael rhagor o wybodaeth am y cytundeb cyfnewid myfyrwyr gyda Wyoming, cysylltwch â:
Cyfleoedd Byd-eang
- studentconnect@caerdydd.ac.uk
- +44 (0) 2922 518 888
Newyddion y Bartneriaeth
Dewch i gael gwybod sut mae ein partneriaeth wedi hyrwyddo cydweithio’n rhyngwladol i’r staff a’r myfyrwyr:
Cronfa Gydweithredu Prifysgol Wyoming
Yn sgil y Bartneriaeth Strategol, sefydlwyd cronfa gydweithredu bwrpasol i gefnogi staff a myfyrwyr i ymgysylltu'n fwy diwyd â Phrifysgol Wyoming ym meysydd cyffredin ymchwil, addysgu ac addysg.
Darganfyddwch sut i wneud cais ar fewnrwyd y staff.
Cysylltwch â ni
Os bydd ymholiadau sy’n ymwneud â'r Bartneriaeth Strategol â Phrifysgol Wyoming, cysylltwch â:
Rhys Evans
- evansr9@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 9610
Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu perthynas gyda ni a fyddech yn hoffi bod yn bartner, ebostiwch ni gyda manylion o’ch cynnig.