Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Technoleg Dalian

Dalian University of Technology
Dalian University of Technology

Ar 15 Medi 2022, yn y flwyddyn a oedd yn nodi 50 mlynedd o gysylltiadau diplomyddol rhwng Tsieina a’r DU, ymrwymodd Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Technoleg Dalian yn Tsieina i Bartneriaeth Blaenoriaeth.

Mae'r bartneriaeth blaenoriaeth hon yn ehangu ar bartneriaeth 35 mlynedd gyda Phrifysgol Technoleg Dalian a ffurfiolwyd am y tro cyntaf yn 2018 yn sgil Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth.

Mae’r Bartneriaeth Blaenoriaeth gyda Phrifysgol Technoleg Dalian yn cefnogi rhaglenni academaidd ar y cyd yn ogystal â rhaglenni cyfnewid i’r staff a’r myfyrwyr.

Y meysydd addysg ac ymchwil cychwynnol ar gyfer y bartneriaeth oedd:

  • Cemeg a pheirianneg gemegol
  • Peirianneg (yr amgylchedd adeiledig, peirianneg arfordirol a pheirianneg electronig)
  • Gwyddor a systemau data
  • Deallusrwydd artiffisial
  • Logisteg ddeallus
  • Mathemateg ariannol
  • Gwyddorau'r Ymennydd

Prifysgol genedlaethol allweddol a weinyddir yn uniongyrchol gan Weinyddiaeth Addysg Tsieina ac a noddir gan Brosiectau 211 a 985 yw Prifysgol Technoleg Dalian, a sefydlwyd ym 1949. Ym mis Medi 2017, ar ôl cael ei chymeradwyo gan Gyngor y Wladwriaeth, dewiswyd Prifysgol Technoleg Dalian yn rhan o Gynllun “Dosbarth Cyntaf Dwbl” yn unol â Chategori A. Mae gan Brifysgol Technoleg Dalian dair disgyblaeth sy’n rhan o’r Dosbarth Cyntaf Dwbl: mecaneg, peirianneg fecanyddol a pheirianneg gemegol.

Mae Prifysgol Technoleg Dalian wedi creu system amlddisgyblaethol sy'n canolbwyntio ar wyddoniaeth a pheirianneg ac yn cydlynu disgyblaethau economeg, rheolaeth, y dyniaethau, y gyfraith, athroniaeth a'r celfyddydau. Mae ganddi fwy na 46,000 o fyfyrwyr amser llawn a mwy na 4,000 o aelodau’r staff.

Yn debyg i Brifysgol Caerdydd, mae Prifysgol Technoleg Dalian wedi sefydlu llawer o sefydliadau ymchwil rhyngddisgyblaethol. Mae gan nifer o'r rhain lawer yn gyffredin â sefydliadau ymchwil Prifysgol Caerdydd a'n cryfderau ymchwil strategol, gan gynnwys:

Cronfa Gydweithredu Prifysgol Technoleg Dalian

Sefydlwyd y gronfa hon i gefnogi datblygiad y Bartneriaeth Blaenoriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Technoleg Dalian.

Bydd yn cefnogi staff wrth iddynt ddatblygu ymchwil, addysgu a/neu brosiectau ar y cyd yn y gwasanaethau proffesiynol a bydd gan y rhain ddeilliannau clir ac yn datblygu ac yn cynnal y cydweithredu.

Rhagor am y gronfa gydweithredu a sut i wneud cais.

Newyddion y Bartneriaeth

O ganlyniad i’r cydweithio agos rhwng y ddau sefydliad, mae ymchwil helaeth ar y cyd wedi dilyn y Memorandwm Cytundeb cychwynnol rhwng y ddau sefydliad; cydweithio sydd bellach yn cwmpasu pob un o dri Choleg Prifysgol Caerdydd.

Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn cryfhau’r berthynas â’i phartner blaenoriaeth, Prifysgol Technoleg Dalian, trwy ymweliadau.

Ymwelodd dwy garfan o gynrychiolwyr o Brifysgol Dalian ag Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn gynnar yn 2024

Modern road under construction

Smart engineering

With our partners in China and the UK we have established a Smart Engineering Research and Development Group which aims to provide a holistic approach to smart engineering.

Cysylltwch â ni

Os bydd ymholiadau yn ymwneud â'r bartneriaeth blaenoriaeth gyda Phrifysgol Technoleg Dalian neu’r cyfle cyllido, cysylltwch â:

Rheolwr Ymgysylltu Partneriaethau Rhyngwladol

Sophie Lewis