Prifysgol Normal Beijing
Mae ein cytundeb partneriaeth strategol gyda Phrifysgol Normal Beijing, Tsieina, a gafodd ei lofnodi ar 28 Tachwedd 2019, yn cryfhau ein perthynas hirsefydlog a'n cydweithio helaeth mewn meysydd o ddiddordeb i'r ddwy brifysgol.
O ganlyniad i'r berthynas agos rhwng Prifysgol Normal Beijing a Phrifysgol Caerdydd, mae ein cydweithio – sydd bellach yn cwmpasu’r tri Choleg yng Nghaerdydd – wedi arwain at hanes cyfoethog o gyfnewid ymchwil, cytundebau trosglwyddo myfyrwyr, symudedd myfyrwyr a gweithgareddau addysgu tymor byr a hir.
Rydyn ni’n croesawu cydweithio mewn partneriaeth ym mhob maes pwnc; darllenwch ragor i wybod sut gallwch chi gymryd rhan.
Ynghylch Prifysgol Normal Beijing (BNU)
Cydnabyddir BNU, sy’n Sefydliad Menter Dosbarth Cyntaf Dwbl yn rhan o Brosiect 211 a 985, yn eang yn un o brif sefydliadau addysg Tsieina.
BNU yw olynydd Cyfadran Addysg Prifysgol Imperial Peking, a sefydlwyd yn 1902, sef sefydliad addysgu athrawon modern cynharaf Tsieina ym maes dysgu uwch.
Mae BNU wedi datblygu i fod yn brifysgol gynhwysfawr sy’n canolbwyntio ar ymchwil.
Cafodd BNU ei henwi’n Brifysgol Dosbarth Cyntaf Dwbl a chefnogir deuddeg maes pwnc yn unol â chynllun Disgyblaethau Safon Fyd-eang dan ofal Gweinyddiaeth Addysg Tsieina: Addysgeg, Athroniaeth, Ieithoedd Tramor a Llenyddiaeth, Addysg, Seicoleg, Iaith a Llenyddiaeth Tsieina, Hanes Tsieina, Mathemateg, Daearyddiaeth, Gwyddoniaeth Systemau, Ecoleg, Gwyddoniaeth a Pheirianneg Amgylcheddol, Astudiaethau Drama a Ffilm.
Mae gan BNU ddau gampws: Beijing a Zhuhai. Mae gan gampws Beijing 23,241 o fyfyrwyr amser llawn, gan gynnwys 9,832 o israddedigion, 13,409 o raddedigion a mwy na 1,000 o fyfyrwyr rhyngwladol tymor hir. Cafodd campws Zhuhai BNU ei gymeradwyo’n swyddogol gan y Weinyddiaeth Addysg ym mis Ebrill 2019; yn ôl y ffigurau diweddaraf, mae ganddo 2,322 o raddedigion amser llawn.
Mae gan BNU fwy nag 8000 o staff, gan gynnwys 2562 o athrawon amser llawn, ac mae gan 94% o’r rhain radd ddoethurol.
Cyd-Goleg Astudiaethau Tsieineaidd Caerdydd-Tsieina
Prosiect unigryw ar y cyd ym maes addysgu ac ymchwil rhwng yr Ysgol Ieithoedd Modern yng Nghaerdydd ac Ysgol Iaith a Llenyddiaeth Tsieina Prifysgol Normal Beijing yw Cyd-Goleg Astudiaethau Tsieineaidd Caerdydd-Tsieina.
Bydd myfyrwyr yn astudio BA mewn Tsieinëeg ym Mhrifysgol Caerdydd a BA mewn Iaith a Diwylliant Tsieina ym Mhrifysgol Normal Beijing, gan dreulio eu blwyddyn gyntaf yng Nghaerdydd, blwyddyn dau a thri yn Beijing a'r flwyddyn olaf yng Nghaerdydd.
I wybod rhagor am Gyd-Goleg Caerdydd-Tsieina a sut i wneud cais, e-bostiwch Daniel Bickerton: bickertondi@caerdydd.ac.uk.
Cyfleoedd Symudedd i Fyfyrwyr
Mae gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Beijing Normal gytundeb gweithredol yn ei le i gyfnewid myfyrwyr.
Yn sgil Cytundebau Cyfnewid Myfyrwyr caiff myfyrwyr yn y ddwy brifysgol ymgymryd â chyfnewid am semester neu flwyddyn i astudio neu ymchwilio dramor yn y sefydliad sy’n bartner.
I gael rhagor o wybodaeth am ein Cytundeb Cyfnewid Myfyrwyr â BNU, cysylltwch â:
Cyfleoedd Byd-eang
- studentconnect@caerdydd.ac.uk
- +44 (0) 2922 518 888
Profiadau Myfyrwyr
Dyma farn ein myfyrwyr am eu profiadau o'r bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Normal Beijing:
Cronfa Bartneriaeth Caerdydd-BNU
Yn rhan o'n partneriaeth strategol â BNU, mae cronfa ymchwil ar y cyd wedi’i sefydlu. Bwriad y gronfa yw meithrin cysylltiadau rhwng y ddwy brifysgol ac ysgogi’r broses o gyfnewid staff a myfyrwyr a fydd yn arwain at ddatblygu meysydd ymchwil, arloesi a chynlluniau addysgol newydd ar y cyd.
Rheolwr Ymgysylltu Partneriaethau Rhyngwladol
Sophie Lewis
Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu perthynas gyda ni a fyddech yn hoffi bod yn bartner, ebostiwch ni gyda manylion o’ch cynnig.