Ewch i’r prif gynnwys

Ysgolheigion Gwadd

Mae ein proses Ysgolheigion Ymweld yn hwyluso llwybr i ysgolheigion allanol gynnal ymchwil ac ysgolheictod yn ein cymuned trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau ar draws ein Hysgol a chyfrannu atynt.

Yr hyn rydyn ni’n ei gynnig

Caiff ysgolheigion gwadd gynnal prosiect ymchwil penodol yn ystod eu cyfnod yn yr Ysgol, gan gynnwys cymryd rhan yn ei gweithgareddau ymchwil.

Gall ysgolheigion gwadd ymweld â’r Ysgol am gyfnod o fis hyd at 12 mis.

Rydyn ni’n cynnig y canlynol:

  • cydweithiwr academaidd a fydd yn gofalu am drefniadau’r ymweliad, yn fentor i estyn cymorth a chynnig cyfleoedd i drafod
  • y gallu i fynd i ddigwyddiadau’r Ysgol a chymryd rhan mewn seminarau perthnasol (a chyfleoedd i gyflwyno papur ymchwil)
  • y gallu i ddefnyddio holl gyfleusterau llyfrgelloedd y Brifysgol, gan gynnwys hawliau benthyca
  • y gallu i ddefnyddio rhwydwaith TG y Brifysgol a’r systemau cysylltiedig
  • cyfleoedd i fynd i gynadleddau neu ddigwyddiadau Prifysgol Caerdydd yn ystod yr ymweliad (bydd ffioedd cofrestru llawn yn gymwys)

Sylwer na fyddwn ni’n gallu rhoi cymorth ariannol, darparu offer TG na neilltuo swyddfa ichi yn ystod eich cyfnod yn yr Ysgol. Mae lleoedd gweithio ar gael yn llawer o’n llyfrgelloedd. Dylech ariannu eich ymweliad eich hun neu dylai’r sefydliad cartref wneud hyn.

Wrth dderbyn ysgolheigion gwadd, bydd gofyn inni fod yn hyderus y byddwch chi’n:

  • gallu cyflawni eich amcanion fel y’u nodir yn y cynllun ymchwil
  • gwneud cyfraniad cadarnhaol at ein diwylliant ymchwil cyffredinol drwy gael trafodaethau creadigol a chyfnewid syniadau gydag aelodau’r staff ac ymchwilwyr ôl-raddedig mewn nifer o gyd-destunau cyhoeddus (e.e. seminarau ymchwil) neu drwy drefniadau penodol a phwrpasol a gynllunnir ymlaen llaw
  • cyfrannu at ein seminarau ymchwil pan fo hynny’n bosibl ac yn ddymunol
  • rhoi adborth a chyngor, pan fo hynny’n briodol a thrwy wahoddiad gan y staff, i unigolion neu grwpiau ar brosiectau ymchwil parhaus yn yr Ysgol
  • paratoi adroddiad byr ar eich profiad a’ch llwyddiannau yn ystod eich cyfnod gyda ni

Y broses ymgeisio

Er mwyn gwneud cais i ymweld â'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil ac ysgolheictod, rhowch y canlynol:

  • ffurflen gais wedi'i chwblhau (gweler y ddolen isod)
  • llythyr eglurhaol sy’n cyflwyno eich hun, gan nodi sut mae eich gwaith yn cyd-fynd â’n diddordebau ymchwil, unrhyw gysylltiadau presennol ag ymchwil neu aelodau o staff yr Ysgol ac amserlen arfaethedig yr ymweliad
  • enw aelod o staff academaidd yr Ysgol a fydd yn gofalu am drefniadau’r ymweliad
  • cynllun arfaethedig yr ymchwil y byddwch chi’n ei gwneud yn ystod yr ymweliad (hyd at 1,000 o eiriau)
  • gofynion iaith Saesneg – copïau o’ch tystysgrif IELTS sy’n dangos sgôr gyffredinol o 6.5 (gan nodi sgôr o 6 neu uwch ym mhob elfen), neu gymwysterau iaith Saesneg cyfatebol eraill
  • curriculum vitae

Ffurflen Gais Ysgolheigion Gwadd

Ewch ati i lenwi’r ffurflen gais hon a’i dychwelyd ynghyd ag unrhyw ddogfennau.

Caiff ceisiadau eu hadolygu gan y Cyfarwyddwr Ymchwil ac Effaith a'u cymeradwyo gan y Grŵp Cynllunio Ymchwil ac Effaith. Caiff yr ymgeiswyr ateb cyn pen 8 wythnos ar ôl cyflwyno eu cais.

Sylwer na luniwyd y broses hon i gefnogi ymchwilwyr PhD. Dylai darpar ymchwilwyr ôl-raddedig gwadd ebostio share-pgr@caerdydd.ac.uk.

Cysylltu â ni

Swyddfa Ymchwil yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

Research and grants