Hanes
Ymchwil wedi’i gydnabod yn fyd-eang, sy’n berthnasol yn lleol, ac sy’n rhyngddisgyblaethol.
Mae ein haneswyr yn gwthio ffiniau o fewn a thu hwnt i'r ddisgyblaeth, gan lunio partneriaethau yng Nghymru, y DU, ac yn fyd-eang, gan greu effaith barhaol ymhell y tu hwnt i'r byd academaidd.
Rydym yn ymchwilio i ystod o feysydd hynod ddiddorol, gan ddatblygu ac ehangu gwybodaeth mewn pynciau mor amrywiol â byd yr Iwerydd, hanes cymdeithasol meddygaeth, hanes rhyngwladol a thrawsddiwylliannol, hanes amgylcheddol, rhyfela mewn cyd-destunau Hynafol a Modern, ac yn agosach at adref yng Nghymru a'r byd.
Trwy ein gwaith, ein nod yw dangos perthnasedd hanes yn ein byd rhyng-gysylltiedig sy'n newid yn gyflym, o faterion hyperleol i dueddiadau byd-eang sydd wedi bodoli ers canrifoedd.
Ymgysylltu a chydweithio
Mae’r fenter ScienceHumanities yn brawf o’n gwaith rhyngddisgyblaethol. Rydym wedi cydweithio a’r adrannau Saesneg, Hanes, y Gyfraith, Meddygaeth a'r Gwyddorau Cymdeithasol yng Nghaerdydd, ac mae’r gwaith blaengar yn ein hysgogi i gyfnewid gwybodaeth amhrisiadwy ar bynciau cyfoes, gyda phartneriaethau bellach yn bodoli ar hyd Ewrop a Gogledd America.
Mae ein dull arobryn o ymgysylltu â'r cyhoedd a’n chenhadaeth ddinesig yn cael dylanwad mawr mewn cymunedau, gyda'n hymchwil yn cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd cynhwysol ac sy’n addysgiadol i'r ddwy ochr. Mae Prosiect Treftadaeth CAER wedi esblygu o bartneriaethau sydd wedi’u meithrin ers 2011. Mae’r prosiect wedi ennill sawl gwobr ac fe’i gydnabyddir am fod y gorau yn y DU.
Yn ei gyfnod mwyaf eto, mae'r prosiect Hidden Hillfort gwerth £1.65 miliwn bellach yn defnyddio ymchwil ar draws meysydd hanes ac archeoleg i rymuso cymuned i drawsnewid ei hun trwy ei threftadaeth. Mae’r cyfan yn bosibl o ganlyniad i bartneriaethau sydd wedi'u lleoli yn y gymuned o gwmpas Gweithredu yng Nghaerau a Trelái, a diolch i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Ers adolygiad y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn 2014, cyflymodd academyddion Hanes a Hanes yr Henfyd eu cyhoeddiadau i 670 o allbynnau, cynnydd o 18%. Cyflawnwyd hyn trwy fuddsoddi'n barhaus mewn ysgolheigion ar ddechrau eu gyrfa yn ogystal â haneswyr sefydledig.