Hanes yr Henfyd
Mae ysgoloriaeth mewn Hanes yr Henfyd ym Mhrifysgol Caerdydd yn cyfuno dulliau traddodiadol ac arloesol o astudio’r bydoedd hynafol ynghyd â rhagoriaeth ymchwil ar draws y ddisgyblaeth.
Roedd hyn wedi arwain at gryfderau penodol mewn astudiaethau rhywedd ar draws cymdeithas Groeg-Rufeinig, Persia a Bysantaidd, hanes milwrol, cymdeithasol a gwleidyddol yr hen Wlad Groeg, Epigraffeg Gwlad Groeg, Môr y Canoldir Rhufeinig cynnar a Carthaginaidd, hanesion brenliniol Persia Hynafol, y byd Hellenistaidd a'r bydoedd Rhufeinig a Bysantaidd diweddarach.
Rydym yn ehangu'r astudiaeth o Hanes yr Henfyd y tu hwnt i'w ffiniau traddodiadol i ryngweithio ar draws y rhanbarthau daearyddol ac amserol.
Rydym wedi denu cyllid gan, ymhlith eraill, yr AHRC, Leverhulme, yr Academi Brydeinig, Sefydliad Astudiaethau Persia Prydain, Sefydliad Llyfrgell Clasurol Loeb.
Cryfderau
Herodotus a Thucydides
Astudio naratifau hanesyddol cynnar Herodotus a Thucydides (pumed ganrif Cyn Oed Crist, Gwlad Groeg), fel hanes a llenyddiaeth, a pha fodd y derbyniwyd nhw yn y blynyddoedd dilynol.
Dulliau Rhyngddisgyblaethol at Hanes yr Henfyd ac Archaeoleg
Mae llawer ohonom ni’n gweithio ar draws hanes yr henfyd ac archaeoleg, gyda chryfderau penodol wrth astudio Prydain, Gogledd Affrica, Gwlad Groeg, yr Eidal a'r Dwyrain Agos.
Yr Eidal a Rhufain gynnar
Mae ymchwil mewn Hanes yr Henfyd yn archwilio ac yn ail-lunio hanes ac astudiaeth o dwf Rhufain a'i lle ym mhenrhyn yr Eidal cyn yr Ymerodraeth.
Y byd Helenistaidd
Mae ymchwil yn canolbwyntio ar y rhyngweithio rhwng gwahanol ddiwylliannau a thraddodiadau yng nghyd-destun unigryw a deinamig y byd Helenistaidd, yn enwedig yn Ymerodraeth Selewciaid a Thir Mawr Gwlad Groeg.
Hanes Milwrol
Gan fynd i’r afael â rhyfel, rhyfela, a’r profiad milwrol, rydyn ni’n canolbwyntio hefyd ar effaith gymdeithasol ac economaidd rhyfel ar draws diwylliannau elitaidd ac an-elitaidd yr hen fyd. Rydyn ni’n edrych ar fydoedd cymdeithasol-ddiwylliannol rhyfelwyr a milwyr a chanlyniadau ehangach rhyfel ar sifiliaid gwrywaidd, menywod a phlant.
Yr Hen Ddwyrain Agos
Rydyn ni’n enwog am fod yn ganolbwynt ar gyfer ymchwil ar Orllewin Asia hynafol a Gogledd Affrica, yn ymestyn o arfordir dwyreiniol Môr y Canoldir i deyrnas hynafol Iran. Mae ein harbenigeddau ymchwil yn cynnwys Carthage, Phoenicia, Israel, Syria, Mesopotamia a'r ymerodraethau Achaemenid, Parthian a Sasanian. Mae arbenigeddau amserol yn y meysydd hyn yn cynnwys rhywedd, diwylliant materol, archaeoleg, cymdeithas llys, crefydd, y gyfraith, a brenhiniaeth.
Hynafiaeth Hwyr a Bysantiwm
Mae arbenigeddau ymchwil yn cynnwys crefydd hynafol hwyr, cymdeithas a diwylliant llys, hanes breninlinol (llinach Cystennin, a llinach Macedoneg Bysantiwm), ac Iran Sasanaidd.
Rhywedd a chymdeithas
Edrych ar rywedd ar draws diwylliannau hynafol, trwy astudiaethau ar rolau rhywedd elitaidd ac an-elitaidd, gyda diddordeb arbennig mewn gwisg, ymagweddau anthropolegol at rywedd, mamolaeth, menywod brenhinol, gwrywdod, eunuchiaid, rolau trawsryweddol a rhyngrywiol o Wlad Groeg a Rhufain i'r Dwyrain Agos a Bysantiwm
Meddygaeth a thechnoleg
Ystyried themâu gwyddoniaeth, meddygaeth a'r corff ar draws cymdeithas Groeg-Rufeinig trwy dystiolaeth faterol a llenyddol.
Effaith
Dyluniwyd ein hymchwil i estyn allan ar draws y rhaniad academaidd/cyhoeddus fel ein prosiect a ariennir gan AHRC ar Attic Inscriptions Online (AIO) ac Attic Inscriptions Online UK (AIOUK). Mae'r gwefannau hyn yn gwneud yn siŵr bod cyfieithiadau a delweddau o arysgrifau allweddol o'r byd Groegaidd clasurol yn hygyrch i ysgolion, amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac unrhyw un sydd â diddordeb cyffredinol ym myd hynod ddiddorol a chywrain Athen glasurol.
Nod prosiect Thucydides Global yw dod â thirwedd wleidyddol heddiw mewn persbectif trwy astudio sut mae Thucydides a'i dderbyniad yn dal i effeithio ar feddwl gwleidyddol yn nemocratiaethau heddiw.
Mae'r gwaith arloesol ar Iran cyn-Islamaidd a'r Ymerodraeth Achaemenid a wnaed trwy Brifysgol Caerdydd wedi arwain at ehangu newidiadau sylfaenol yng nghwricwlwm Hanes yr Henfyd Safon Uwch i gynnwys y Persiaid.
Mae'r Brifysgol yn gartref i Ganolfan Caerdydd ar gyfer Crefydd a Diwylliant yn yr Henfyd Diweddar sy'n cefnogi darlithoedd blynyddol ac ymchwil traws-ysgol a ariennir. Mae hefyd yn gartref i'r Journal for Late Antique Religion and Culture.