Bwyd Cynhanesyddol: newid agweddau at fwyd a gwella arferion treftadaeth
Mae archaeolegwyr o Brifysgol Caerdydd wedi gwrthdroi ein dealltwriaeth o fwyd, ffermio a gwledda cynhanesyddol, gan greu newid mewn arferion treftadaeth.
Gan herio rhagdybiaethau ynglŷn â beth oedd pobl yn ei fwyta, a sut, yn y cyfnod cynhanesyddol, mae’r prosiect ymchwil Bwyd Cynhanesyddol wedi cadarnhau arwyddocâd cymdeithasol a diwylliannol bwyd yn y cyfnod cynhanesyddol trwy ymchwil ar raddfa ryngwladol a bioarchaeoleg arloesol.
Archwiliodd y tîm ffermio, gwledda a bwyd yn y cyfnod cynhanesyddol mewn cyfres o brosiectau mawr (2008-2019) i ddatgelu newidiadau mewn arferion ffermio, milltiroedd bwyd gwledda rhyfeddol a diet llawer mwy amrywiol nag a ddeallwyd yn flaenorol.
Gan gyfuno tactegau ymgysylltu Archaeoleg Guerilla arloesol a’u canfyddiadau blaengar, ymgysylltodd y tîm ymchwil â dros hanner miliwn o bobl, gan rannu eu canfyddiadau mewn safleoedd treftadaeth, gweithdai cymunedol, a gwyliau mawr y Deyrnas Unedig.
Mae llwyddiant meintiol ac ansoddol y prosiect i’w weld yn y ffaith bod yr ymchwil wedi dylanwadu ar arferion treftadaeth, gan ymgorffori newid a arweinir gan ymchwil yn y defnydd a wneir o safle heneb gynhanesyddol enwocaf Prydain, Côr y Cewri. Ffurfiodd yr ymchwil ar y cyd yr arddangosfa 'Gwledd' yng Nghôr y Cewri a chreu rhaglen o ddigwyddiadau yng Nghôr y Cewri a ledled y Deyrnas Unedig. Roedd English Heritage wedi elwa o gynnydd yn nifer yr ymwelwyr blynyddol, gwell profiad i ymwelwyr, a gwell sgiliau gwirfoddolwyr.
Rôl bwyd yn y gymdeithas gynhanesyddol
Mae’r ymchwil wedi helpu trawsnewid dealltwriaeth o rôl economaidd, gymdeithasol a diwylliannol bwyd yn y gorffennol.
Fe wnaeth cymhwyso dyddio uniongyrchol ac ystadegau Bayesaidd ar raddfa fawr wella’r ddealltwriaeth o gyflwyno ffermio yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop, sef newid mawr mewn caffael bwyd. Datblygodd bioarchaeolegwyr Prifysgol Caerdydd fethodolegau newydd hefyd i ymchwilio i ddiet hynafol a tharddiad bwyd trwy fireinio dadansoddiad isotopau strontiwm ac integreiddio sŵarchaeoleg â dadansoddiadau o weddillion lipid. Yn arwyddocaol, canfu’r prosiect Bwyd Cynhanesyddol fod ffafriaeth (o bysgota i ffermio llaeth) ac effaith (goresgyn anoddefiad i lactos trwy brosesu llaeth) yn drech o lawer na dewisiadau pragmatig mewn diet cynhanesyddol.
Datgelodd y prosiect ddarlun o symudedd helaeth, gan roi’r ddealltwriaeth fanylaf hyd yma o amrywiaeth y bobl a oedd yn ymgymryd â defodau mewn henebion Neolithig, gyda chyflenwi’n ymestyn ar draws Ynysoedd Prydain.
Mynd â chynhanes i'r 21ain ganrif drwy ymgysylltu ac arferion treftadaeth
Wedi’i hategu gan ymchwil Prifysgol Caerdydd, roedd arddangosfa’r Wledd yng Nghôr y Cewri (2017-18) wedi denu dros 560,000 o ymwelwyr, gwella’r profiad i ymwelwyr, ac ailddiffinio’r ffordd y cyflwynir y gorffennol. Dywedodd un o bob saith ymwelydd fod yr arddangosfa wedi dylanwadu’n gryf ar eu penderfyniad i ymweld, a bu’n rhan o gynnydd 14.5% yn nifer yr ymwelwyr ers y flwyddyn flaenorol.
Dan arweiniad yr Athro Jacqui Mulville, mae’r grŵp ymgysylltu Archaeoleg Guerilla yn manteisio ar archaeoleg i herio tybiaethau cyffredin, gan ddefnyddio ei fframwaith ymgysylltu arloesol mewn lleoliadau anhraddodiadol gyda chynulleidfaoedd anodd eu cyrraedd.
Gan fabwysiadu’r fframwaith profedig hwn, creodd y tîm Bwyd Cynhanesyddol raglen o ddigwyddiadau rhyngweithiol a welodd dros 20,000 o bobl yn cael profiad ymarferol o weithgareddau yn amrywio o greu ryseitiau a garddio cynhanesyddol, i’r siop dros dro Neolithig ymdrwythol, Stonehengebury’s. Daeth i ben gyda gŵyl Penwythnos y Wledd Fawr a gynhaliwyd yng Nghôr y Cewri, a ddefnyddiodd y safle mewn ffordd newydd.
Ystadegau allweddol: Archaeoleg Guerilla – Ymgysylltu â Feast
- 17 o ddigwyddiadau wedi’u cynnal mewn 13 o leoliadau yn y DU (gan gynnwys Glastonbury)
- Wedi teithio yn ôl 5,000 o flynyddoedd
- Wedi ymgysylltu ag 20,000 o ymwelwyr
- 5,500 awr o amser gwirfoddolwyr
- 10 gwledd wedi eu harlwyo
- 12kg o rawn a falwyd (262 awr o falu)
- 40 o gynhwysion yn stondin dros dro Côr y Cewri
- Rhannwyd 9,354 o ryseitiau
- 1,220 o becynnau tyfu wedi'u rhoi i ffwrdd
- 190k o weliadau Twitter
- 40k o weliadau Facebook
Ers hynny, mae English Heritage wedi mabwysiadu dull Gwledd fel arfer gorau, gan ymgorffori ymchwil newydd a defnydd amrywiol o safleoedd yn eu strategaeth ymgysylltu tymor hwy. Fe wnaeth digwyddiadau hyfforddi dan arweiniad y tîm ymchwil gyda gwirfoddolwyr English Heritage agor mynediad at wybodaeth newydd, cynyddu hyder, a'u grymuso i gyflwyno arddangosiadau a phrosiectau newydd.
Gyda’i gilydd, rhoddodd arddangosfa’r Wledd a Phenwythnos y Wledd Fawr ddangosyddion pwerus o brofiad, gan gynnwys cyfraddau boddhad uwch, mwy o amrywiaeth ymhlith ymwelwyr, ac ymweld am gyfnod hwy. Gwnaethant hwy, ynghyd â gwyliau ehangach ar draws y Deyrnas Unedig newid gwybodaeth ymwelwyr o ran eu dealltwriaeth o dechnoleg a bwyd cynhanesyddol, gan ysgogi’r cyfranogwyr i wneud cysylltiadau trawiadol â phrofiadau modern.
Mae’r prosiect wedi newid dealltwriaeth y cyhoedd o fwyd cynhanesyddol yn fyd-eang, gyda:
- 230,000 o ryngweithiadau cyfryngau cymdeithasol â Bwyd Cynhanesyddol
- 41,700 o bobl wedi edrych ar adnoddau arddangosfa Gwledd English Heritage
- 173,000 o bobl wedi gwylio’r fideo gwneud caws Neolithig
- 7,200 o bobl wedi edrych ar adnoddau addysg wedi'u teilwra a 3,000 o bobl wedi’u lawrlwytho (Cyfnodau Allweddol 2, 4, 5)
- 385 o ddarnau cyfryngol o Awstralia i Unol Daleithiau America
Gan ysgogi trafodaeth am fwyd Neolithig mewn gwyliau, safleoedd archaeolegol, ac ar-lein, mae'r prosiect Bwyd Cynhanesyddol wedi cael effaith barhaol ar gyflwyno bwyd mewn arferion cynhanesyddol a threftadaeth.
Cyhoeddiadau dethol
- Madgwick, R. et al. 2019. Multi-isotope analysis reveals that feasts in the Stonehenge environs and across Wessex drew people and animals from throughout Britain. Science Advances 5 (3) eaau6078. (10.1126/sciadv.aau6078)
- Mulville, J. 2019. Exhibitions, engagement and provocation: From future animals to guerilla archaeology. In: Bjerregaard, P. ed. Exhibitions as Research: Experimental Methods in Museums. Abingdon: Routledge. , pp.131-147.
- Cramp, L. J. E. et al., 2014. Immediate replacement of fishing with dairying by the earliest farmers of the northeast Atlantic archipelagos. Proceedings of the Royal Society B: Biological Sciences 281 (1780) 20132372. (10.1098/rspb.2013.2372)
- Madgwick, R. , Mulville, J. and Evans, J. 2012. Investigating diagenesis and the suitability of porcine enamel for strontium (Sr-87/Sr-86) isotope analysis. Journal of Analytical Atomic Spectrometry 27 (5), pp.733-742. (10.1039/C2JA10356G)
- Whittle, A. , Healy, F. and Bayliss, A. 2011. Gathering time: Dating the Early Neolithic enclosures of southern Britain and Ireland. Oxford: Oxbow Books.