Ewch i’r prif gynnwys

Canolfannau a rhwydweithiau

Mae gan yr Ysgol nifer o hanolfannau ymchwil a grwpiau sy'n gwneud gwaith ymchwil sy'n berthnasol i hanes, hen hanes, archaeoleg a chrefydd.

Canolfannau

Canolfan Ymchwil Dyniaethau a Diwylliannau Digidol

Mae Prifysgol Caerdydd yn arbenigo’n sylweddol ym meysydd Digidol a Diwylliannau Dynol gyda chefnogaeth cynyddol gan ymchwilwyr ôl-raddedig, yn ogystal ag aelodau staff academaidd, gwasanaethau proffesiynol a llyfrgell.

Mae ymchwilwyr yn gweithio ar draws disgyblaethau academaidd mawr i fynd i’r afael â’r cyfleoedd a’r heriau o’n hoes ddigidol ar raddfa leol a byd-eang. Mae gan y Brifysgol hanes sefydledig o gydweithio ar brosiectau â chyllid grant, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Mae’r Ganolfan yn cael ei harwain gan ymchwilwyr academaidd o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd; Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth; Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant; ac Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodaethau. Mae’r arweiniad hwn ar y cyd â Chasgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd ac mae’n manteisio’n eang ar arbenigedd staff o ysgolion a cholegau ar bob cam o’u gyrfaoedd.

Mae ymchwilwyr yn cymryd rhan feirniadol a chreadigol â thechnolegau ac offer digidol sydd eisoes yn bodoli, ac yn datblygu prosiectau arloesol newydd i fynd i’r afael â phroblemau ymchwil ac heriau allweddol. Mae astudio’r gorffennol a’r presennol yn ffocws allweddol i waith y Ganolfan, gan ddefnyddio arbenigedd a safbwyntiau disgyblaethol i ddod ag achosion hanesyddol a chyfoes yn fyw. Mae cydweithio â phartneriaid diwydiannol a rhanddeiliaid cymunedol yn cryfhau’r dull rhyngddisgyblaethol hwn, gan sicrhau bod gwaith y Ganolfan yn mynd i’r afael ag anghenion byd go iawn.

Gan adeiladu ar y Rhwydwaith Diwylliannau Digidol Prifysgol Caerdydd (2016–2017) a digwyddiadau diweddar fel History and Archives in Practice 2024 a digwyddiad rhwydweithio a gefnogwyd gan Gronfa Diwylliant Ymchwil y Brifysgol 2024, mae’r Ganolfan yn ceisio manteisio ar fuddsoddiad sylweddol mewn seilwaith a gallu. Mae hyn yn cynnwys adnoddau o fewn Casgliadau Arbennig a thrwy’r Brifysgol, gan gefnogi ymchwil ddigidol, effaith a gweithgareddau cenhadaeth ddinesig. Nod y Ganolfan hefyd yw datblygu gallu a chefnogaeth bellach i academyddion sy’n gweithio yn y meysydd hyn a’r rhai sy’n dymuno meithrin dulliau digidol yn eu hymchwil, effaith a gweithgareddau ymgysylltu yn y dyfodol.

Pobl

Picture of Tom Allbeson

Dr Tom Allbeson

Darllenydd (Cyfryngau a Hanes Ffotograffig)

Telephone
+44 29225 10780
Email
AllbesonT@caerdydd.ac.uk
Picture of Jenny Kidd

Dr Jenny Kidd

Darllenydd, Diwylliant Digidol

Telephone
+44 29208 74489
Email
KiddJC2@caerdydd.ac.uk
No picture for Anthony Mandal

Yr Athro Anthony Mandal

Reader in Print and Digital Cultures

Telephone
+44 29208 75626
Email
Mandal@caerdydd.ac.uk
Picture of Esther Wright

Dr Esther Wright

Uwch Ddarlithydd mewn Hanes Digidol, Arweinydd Strategaeth Ddigidol

Telephone
+44 29208 74742
Email
WrightE11@caerdydd.ac.uk

Canolfan Astudiaethau Asiaidd, Caerdydd, Cymru (CCAS)

A hithau wedi’i sefydlu yn 2019, mae Canolfan Astudiaethau Asiaidd, Caerdydd yn olynu’r Ganolfan Astudiaethau Crefydd yn Asia (2009).

Canolfan y Croesgadau Caerdydd

Ein nod yw cefnogi a datblygu Prifysgol Caerdydd i fod yn ganolbwynt ar gyfer ymchwil ar y cyd, cynadleddau a chyhoeddiadau ym maes hanes y Croesgadau.

Canolfan Hanes Cymru Caerdydd

Nod Grŵp Ymchwil Hanes Cymru Prifysgol Caerdydd yw gwella ac ehangu ein dealltwriaeth o hanes Cymru a’r Cymry o’r cyfnod canoloesol i’r oes fodern.

Canolfan Ymchwil Canolbarth a Dwyrain Ewrop

Hyrwyddo a chefnogi ymchwil i Ganolbarth a Dwyrain Ewrop ym Mhrifysgol Caerdydd.

Centre for Late Antique Religion and Culture

Promotes and supports the study of late antique religion and culture from the late Hellenistic to early Medieval periods across Europe, the Mediterranean and Near East.

Centre for the Study of Islam in the UK

Promoting scholarly and public understanding of Islam and the life of Muslim communities in the UK, with a particular emphasis on sociological and anthropological methodology.

Canolfan Astudiaethau’r Oesoedd Canol

Rydym yn hyrwyddo astudiaethau rhyngddisgyblaethol sy’n ymwneud â'r Oesoedd Canol gan ddod ag arbenigwyr o nifer o feysydd pynciol gwahanol at ei gilydd i gydweithio ar faterion ymchwil ac addysgu graddedigion.

Rhwydweithiau

The Archaeology of Wales Research Group

Archaeology of Wales is one of our major research strengths, revealing more about the nation’s fascinating past across a broad range of periods.

Rhwydwaith Ymchwil i’r Goruwchnaturiol Caerdydd

Rydym yn dod ag arbenigwyr ynghyd sy'n archwilio perthnasoedd dynol yn y gorffennol a'r presennol gyda ffenomenau annisgwyl ac annaturiol.

Early Materials, Technology and Conservation Research Group

We are collaborating on projects across periods and cultures, using the latest cutting edge techniques to recreate technologies and sensitively conserve artefacts.

Later Prehistoric and Roman Britain Research Group

Landmark sites in Britain and Wales are among a fascinating range of projects currently being investigated by our leading archaeologists.

Mediterranean Archaeology Research Group

Our archaeologists are learning more about this fascinating period of development in the Mediterranean, collaborating on an impressive range of projects across both Ancient and Classical Greece, Ancient Rome and the Near East including research in Egypt.

Rhufain a'r Cysegr

Mae'r clwstwr ymchwil 'Rhufain a'r Cysegr' yn dwyn ynghyd aelodau o bob rhan o'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd sydd â diddordeb yn hanes hir y cysegredig: hynny yw, mewn safleoedd, personau, a gwrthrychau cysegr, yn ogystal â chyfarfyddiadau â'r sanctaidd ar ffurf proffwydoliaethau, oraclau, a gweledigaethau.