Ymchwil yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd
Mae ein hymchwilwyr yn ymchwilio i ac yn rhannu eu hangerdd am gymdeithasau a chredoau crefyddol y gorffennol o'r cyfnod cynhanes hyd heddiw.
Rydym yn ysgol gydag enw da am ragoriaeth mewn ymchwil mewn Archaeoleg a Chadwraeth, Hanes, Hanes yr Henfyd ac Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddiaeth.
Rydym yn gartref i amryw o Ganolfannau Ymchwil sy'n cyfrannu at ddiwylliant ymchwil bywiog drwy raglenni rheolaidd o seminarau, gweithdai, cynadleddau a chyhoeddiadau.
Mae gan ein hysgolheigion gysylltiadau agos â nifer o sefydliadau blaenllaw, gan gynnwys Amgueddfa Cymru, Cadw, Partneriaeth Doethurol Cymru a De a Gorllewin Lloegr. Rydym yn gweithredu fel canolfan ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig ac yn cynnig amrywiaeth eang o oruchwyliaeth i ymchwilwyr.
Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) yw’r system a ddefnyddir i asesu ansawdd ymchwil yn sefydliadau addysg uwch y DU.