Cyfleoedd yn y Gymraeg
Mae'r Gymraeg yn rhan annatod o'n hysgol. Mae llawer o'n myfyrwyr a'n staff yn siarad Cymraeg, ac mae nifer o'n hacademyddion yn cyhoeddi eu hymchwil yn Gymraeg.
Gall myfyrwyr fanteisio ar diwtoriaid personol sy'n siarad Cymraeg ar unrhyw adeg yn ystod eu hastudiaethau a gallant ddewis cyflwyno asesiadau yn Gymraeg neu Saesneg ar gyfer pob modiwl Mae yna gyfleoedd hefyd i fyfyrwyr ddysgu Cymraeg neu ddatblygu eu sgiliau iaith ymhellach.
Addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
Rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau iaith Gymraeg ym modiwlau craidd a modiwlau dewisol, sy'n amrywio o flwyddyn i flwyddyn yn dibynnu ar argaeledd staff.
Yn yr un modd, mae grwpiau seminar ar gael yn y Gymraeg ar gyfer nifer o fodiwlau craidd lle cyflwynir darlithoedd yn Saesneg.
Mae seminarau Cymraeg yn galluogi trafodaethau mewn grwpiau bach ar ddeunydd modiwl yn wythnosol neu bob pythefnos gyda'n tiwtoriaid seminar sy’n siarad Cymraeg.
Modiwlau craidd
Modiwlau craidd sy'n cynnig seminarau yn y Gymraeg:
Blwyddyn 1
- HS1105 Hanfod y Byd Modern
- HS1119 Hanes ar Waith Rhan 1: Cwestiynau, Fframweithiau a Chynulleidfaoedd
- HS1120 Hanes ar Waith Rhan 2: Ffynonellau, Tystiolaeth a Dadl
- HS6101 Hanesion Byd-eang
Blwyddyn 2
- HS6201 Darllen Hanes
- HS6202 Creu Hanes: Haneswyr, Tystiolaeth, Cynulleidfaoedd
Astudio Annibynnol
Mae goruchwyliaeth hefyd ar gael yn y Gymraeg ar gyfer modiwlau prosiect annibynnol, gyda chyfarfodydd un-i-un gyda thiwtor sy’n siarad Cymraeg:
Blwyddyn 2
- HS6203 Dadlau Hanes
Blwyddyn 3
- HS6300 Ymchwilio i Hanes: Traethawd estynedig
Modiwlau dewisol
Rydym yn cynnig seminarau Cymraeg yn rheolaidd ar gyfer nifer o fodiwlau dewisol, gydag enghreifftiau diweddar yn cynnwys Dyfeisio Cenedl: Gwleidyddiaeth, Diwylliant a Threftadaeth (Blwyddyn Un, HS1109) ac America: o'r Chwyldro i Ailadeiladu (Blwyddyn 2, HS6216).
Rydym fel arfer yn cynnig un modiwl dewisol a gyflwynir yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg (seminarau a darlithoedd). Mae Chwyldro, Diwylliant a Radicaliaeth, 1789-1914 (Blwyddyn 2, HS6225) yn enghraifft ddiweddar.
Cysylltwch â ni
I gael gwybodaeth bellach am y ddarpariaeth Gymraeg, cysylltwch â:
Bydd astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn helpu eich gyrfa ac yn agor drysau newydd i chi y y Brifysgol a thu hwnt.