Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddiaeth
Rydyn ni’n astudio hanes, diwylliannau, llenyddiaeth a chredoau ystod eang o grefyddau, gan gynnwys Cristnogaeth, Hindŵaeth, Islam, Iddewiaeth a Bwdhaeth, yn ogystal ag arferion crefyddol brodorol Affrica ac America.
Rydyn ni’n trin a thrafod sut mae pobl yn ymgysylltu â chrefydd fel traddodiadau byw yn eu bywydau personol ac mewn cymdeithasau cyfoes.
Rydyn ni’n defnyddio ystod o ddulliau disgyblaethol: anthropolegol, moesegol, hanesyddol, cymdeithasegol a llenyddol.
Enw’r radd | Côd UCAS |
---|---|
Crefydd a Diwinyddiaeth (BA) | V6V6 |
Crefydd, Athroniaeth a Moeseg (BA) | VV65 |
Archwilio'r Gorffennol
Dyma un o gyfres o lwybrau dilyniant hyblyg a fforddiadwy at raddau ym maes Hanes, Archaeoleg a Chrefydd i’r rheini sy'n dychwelyd i fyd addysg. Gweld rhagor am Lwybrau at radd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yma, cewch wybod sut i wneud cais, beth yw ein meini prawf derbyn a chael cyngor ynghylch ysgrifennu datganiad personol.