Ewch i’r prif gynnwys

Archaeoleg a Chadwraeth

Rydyn ni’n ymroddedig i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o archeolegwyr a gwarchodwyr, ac mae’r cysylltiadau rydyn ni wedi meithrin ers canrif yn agor drysau i amgueddfeydd, ymddiriedolaethau, casgliadau preifat ac unedau archeolegol.

Rydyn ni’n addysgu pynciau o gynhanes hyd at yr oesoedd canol a thu hwnt, gan gynnwys pynciau sy’n ymdrin â Phrydain, Ewrop a'r Aifft.

Profiad ymarferol

Ymgollwch mewn profiadau dysgu ymarferol, o gyfleoedd gwaith maes cyffrous i ymchwil labordy arloesol.

Cyfleusterau pwrpasol

Mae ein labordai, ein stiwdios ffotograffiaeth a darlunio, ein hadnoddau llyfrgell a TG, ein hoffer dadansoddol, a’n casgliadau arteffactau ac esgyrn cyfeirio yn cynnig yr hyn sydd ei angen arnoch i ragori yn eich astudiaethau. Mae ein cyfleusterau arbenigol wedi elwa o gyllid ar y cyd gwerth £3 miliwn i gefnogi ein hymchwil, addysgu a gwaith ymgysylltu o’r radd flaenaf.

Rydyn ni wrth ein boddau yn rhannu ein harbenigedd

Mae ein harbenigwyr uchel eu parch yn frwdfrydig dros rannu eu harbenigedd. Byddwch hefyd yn elwa o’n cysylltiadau agos ag amgueddfeydd, unedau archeolegol, ymddiriedolaethau, casgliadau preifat, a’r sector treftadaeth ehangach.

Archaeoleg

Rydyn ni wedi bod ar flaen y gad o ran trawsnewid gwybodaeth a dealltwriaeth o hanes dynol ers dros ganrif.

Mae ein graddau archeoleg wedi’u hachredu gan Sefydliad Siartredig yr Archeolegwyr (CiFA) yn cynnig hyfforddiant cynhwysfawr mewn theori, dulliau ac ymarfer archeolegol, gan gwmpasu cynhanes hyd at yr Oesoedd Canol hwyrach yn y DU, Ewrop a Môr y Canoldir.

Lleoliadau gwaith yn y byd go iawn

Enillwch fantais gystadleuol gan ymgymryd â lleoliadau proffesiynol haf wedi'u hariannu yn y DU ac Ewrop, gan roi mwy o brofiad ymarferol i chi na’r rhan fwyaf o raddau archaeoleg yn y DU.

Byddwch chi’n ennill sgiliau y mae galw amdanyn nhw yn swyddi i raddedigion, gan gynnwys cyfathrebu syniadau cymhleth a dehongli data, yn ogystal â’r sgiliau y gallai fod eu hangen ar archeolegydd yn y maes

Caiff myfyrwyr wneud cais i Gronfa Goffa Cyril Fox am grantiau teithio ac ymchwil. Nod y gronfa yw anrhydeddu ein hanes arloesol.

Rydyn ni’n gymuned groesawgar a chyfeillgar gyda chymdeithasau myfyrwyr bywiog, sy’n cynnig sylw personol ac amgylchedd dysgu sy’n wirioneddol gefnogol.

Cyrsiau amser llawn

Archwilio'r Gorffennol

Dyma un o gyfres o lwybrau dilyniant hyblyg a fforddiadwy at raddau ym maes Hanes, Archaeoleg a Chrefydd i’r rheini sy'n dychwelyd i fyd addysg. Gweld rhagor am Lwybrau at radd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cadwraeth

Rydyn ni’n gymuned ryngwladol hynod gyfeillgar, a’n nod yw eich gweld yn gwneud cynnydd.

Cewch eich addysgu gan ymarferwyr ac academyddion uchel eu parch yn rhyngwladol, a byddwch yn dysgu sut i gydlynu ymchwiliad gwyddonol i arteffactau.

Ein labordai addysgu yw eich ystafell ddosbarth. Byddwch chi’n astudio strwythur defnyddiau diwylliannol, sut maent yn dirywio a’u cadwraeth, gan symud ymlaen at waith ymarferol ar amrywiaeth eang o eitemau archeolegol a hanesyddol.

Trwy drin gwrthrychau o amgueddfeydd, cloddiadau a thai hanesyddol ledled y DU yn ein labordai pwrpasol, byddwch yn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o'u cyfansoddiad, eu technoleg a'r dulliau a ddefnyddir i'w cadw.

Gyda hyd at 8 wythnos o brofiad byd go iawn ar leoliad yn agored i chi, gallwch ennill profiad gwerthfawr mewn amgueddfeydd a phrosiectau treftadaeth ddiwylliannol. Mae cyrchfannau yn amrywio yn dibynnu ar y cyfle, diolch i’n henw da rhyngwladol a'n cysylltiadau byd-eang.

Cyrsiau amser llawn