Hanes yr Henfyd
Dysgwch am wareiddiadau hynafol dros gyfnod o ddau fileniwm, yn ymestyn o Wlad Groeg a Rhufain i Fesopotamia, Iran a thu hwnt, o gwymp y Teyrnas Newydd yr Aifft i dwf Islam.
Byddwch yn dysgu am fydoedd hynafol trwy gyfrwng deunyddiau ffynhonnell gwreiddiol: gan gynnwys cerddi epig, cerfluniau cerfwedd a phapyri Eifftaidd. Byddwch hefyd yn clywed lleisiau o'r gorffennol yn siarad trwy berfformiadau theatr hynafol a llythyrau preifat.
Drwy archaeoleg, celf, pensaernïaeth a diwylliant materol, byddwch yn dod i ddeall y gorffennol a sut mae etifeddiaeth y gwareiddiadau hynafol hyn yn dal i lunio pwy ydym ni heddiw.
Cyrsiau amser llawn
Enw’r radd | Côd UCAS |
---|---|
Archaeoleg a Hanes yr Henfyd (BA) | VVC4 |
Hanes yr Henfyd (BA) | V110 |
Hanes yr Henfyd a Hanes (BA) | V117 |
Archwilio'r Gorffennol
Dyma un o gyfres o lwybrau dilyniant hyblyg, fforddiadwy at raddau ym maes Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ar gyfer y rhai sy'n dychwelyd i fyd addysg. Gweld rhagor am: Llwybrau at radd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yma, cewch wybod sut i wneud cais, beth yw ein meini prawf derbyn a chael cyngor ynghylch ysgrifennu datganiad personol.