Ewch i’r prif gynnwys

Israddedig

Rydym wedi ymroi i astudio'r gorffennol a chredoau o'r cyfnod cynhanes hyd y cymdeithasau cyfoes.

Rydym yn canolbwyntio ar y prif ddisgyblaethau canlynol: Hanes yr Henfyd, Archeoleg, Cadwraeth ac Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddol.

Mae dros 300 o israddedigion yn ymuno â ni bob blwyddyn o'r DU a thu hwnt.

Hanes yr Henfyd

Hanes yr Henfyd

Rydym yn trin a thrafod gwareiddiadau hynafol o Wlad Groeg a Rhufain i Fesopotamia, Iran a thu hwnt, o gwymp Teyrnas Newydd yr Aifft i dwf Islam.

Archaeoleg a Chadwraeth

Archaeoleg a Chadwraeth

Rydyn ni wedi bod ar flaen y gad yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o hanes dynol ers dros ganrif, ac rydyn ni’n ymroi i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o archeolegwyr a chadwraethwyr.

Hanes

Hanes

Ewch ar draws y byd drwy ddilyn rhaglen sy'n trin a thrafod ystod ryfeddol o gymdeithasau, cyfnodau a lleoedd o hanes yr oesoedd canol hyd at hanes cyfoes.

Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddiaeth

Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddiaeth

Astudiaeth o hanes a diwylliant crefyddol, gan archwilio rhai o gwestiynau sylfaenol bodolaeth.

Astudio dramor

Astudio dramor

Gall myfyrwyr israddedig ddewis i astudio dramor fel rhan o’u rhaglen radd, cyfle sy’n gallu cynnig persbectif ffres ar eich astudiaethau a’r byd ehangach.