Ewch i’r prif gynnwys

Gyrfaoedd i israddedigion a chyflogadwyedd

Two smiling member of staff at the student futures desk helping a student

Mae’r cyfleoedd yn amrywio o fod yn un diwrnod yn unig a blwyddyn o hyd, ac maen nhw’n rhoi dealltwriaeth i chi o fyd gwaith, yn eich galluogi i ddechrau creu rhwydweithiau proffesiynol, rhoi hwb i’ch CV a chael gwybod beth sydd o ddiddordeb i chi go iawn.

Mae ein harbenigwyr yn y tîm Dyfodol Myfyrwyr yn ymroddedig i ddod o hyd i brofiad gwaith i chi drwy gydol y flwyddyn.

Arbenigedd gyrfaoedd sy'n cyfrif

Beth bynnag radd sydd gennych chi, bydd y tîm Dyfodol Myfyrwyr yn barod i gynnig bob math o gymorth gyrfaoedd a chyflogadwyedd i chi, gan gynnwys:

  • adnoddau ar-lein i gefnogi eich cyflogadwyedd ar adeg sy'n addas i chi
  • apwyntiadau y gellir eu cadw ymlaen llaw gyda Chynghorydd Gyrfaoedd penodol i’ch ysgol
  • gweithdai (o ddewis gyrfaoedd i ysgrifennu ceisiadau a pharatoi ar gyfer cyfweliadau)
  • paneli gan gyflogwyr, cyflwyniadau a digwyddiadau ar draws amrywiaeth o sectorau (gan gynnwys addysgu, treftadaeth a'r trydydd sector)
  • siaradwyr gwadd proffesiynol
  • lleoliadau profiad gwaith a chyngor (o gwmnïau rhyngwladol i amgueddfeydd a'r sector treftadaeth)
  • gweithgareddau menter
  • gwybodaeth gyfredol am y farchnad lafur

Dyfodol Myfyrwyr: man pwrpasol ar gyfer cyngor gyrfaoedd

O ddatblygu eich gyrfa a’ch sgiliau, i symudedd rhyngwladol i fenter myfyrwyr, rydyn ni wrth law i gynnig cymorth i chi ar gynllunio ar gyfer dyfodol llwyddiannus.

Drwy gydol eich gradd, cewch fynediad at ystod eang o wasanaethau, gan gynnwys:

  • gweithdai cyflogadwyedd ar amrywiaeth o bynciau (gan gynnwys dewis gyrfaoedd, paratoi CVs a cheisiadau a pharatoi ar gyfer cyfweliadau)
  • sesiynau cyngor un-i-un gyda chynghorwyr gyrfaoedd cymwysedig
  • cynllun Datblygu Gwasanaethau Proffesiynol Gwobr Caerdydd
  • mynediad i ystod o brofiad gwaith, gan gynnwys interniaethau a chyfleoedd am leoliad gwaith.
  • cefnogaeth bwrpasol i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a'r rhai sydd angen cymorth ychwanegol
  • ffeiriau gyrfaoedd a digwyddiadau dan arweiniad gyflogwyr i alluogi unigolion i rwydweithio â phrif gyflogwyr graddedigion
  • cyfleoedd i weithio, astudio, neu wirfoddoli dramor
  • cael cymorth o ran mentora busnes, cyllid sbarduno, swyddfeydd a chyfleoedd menter

Bod ar y blaen gyda’n Gwobr Cyflogadwyedd

Mae ein gwobr cyflogadwyedd yn rhoi’r cyfle i chi gael cydnabyddiaeth am y gweithgareddau rydych chi'n eu gwneud yn ystod eich astudiaethau, gan gynnwys profiad gwaith, mentora, cymdeithasau, gwirfoddoli a gwaith rhan-amser.

Ar ôl graddio

Bydd y cymorth yn parhau ar ddechrau gyrfa, gyda mynediad at gyngor gyrfaoedd a’r wybodaeth ddiweddaraf - o interniaeth i raddedigion i ffeiriau gyrfaoedd, y wybodaeth ddiweddaraf am yrfaoedd a swyddi gwag - yn ystod y tair blynedd gyntaf allweddol ar ôl graddio.

Wrth i yrfaoedd ddatblygu, mae modd dod o hyd i rwydwaith cefnogol o gyn-fyfyrwyr ar LinkedIn (10,000+ o aelodau sy’n gyn-fyfyrwyr), gan ei gwneud hi’n hawdd dod o hyd i gyngor gan gyn-fyfyrwyr, gan gynnwys cwestiynau ynghylch gyrfaoedd a chyfleoedd swyddi.

  • Roedd 90% o'n israddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd neu’n gwneud gweithgareddau eraill, fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).

Y camau nesaf

Mae ein graddedigion yn dechrau ar yrfaoedd mewn ystod drawiadol o sectorau.

Mae ein cyn-fyfyrwyr yn gwneud ôl sawdl mewn ystod drawiadol o yrfaoedd a sectorau. O'r sector cyhoeddus i'r sector preifat, mae gyrfaoedd yn cael eu creu mewn amrywiaeth o broffesiynau, o fancio a'r gyfraith i addysgu a gweithio yn y cyfryngau, yn ogystal â meysydd uchel eu parch yn y sector treftadaeth, sefydliadau seiliedig ar ffydd, a chyrff anllywodraethol.

Cysylltu â ni

Cewch hyd i’r gwasanaeth Dyfodol Myfyrwyr yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr

Dyfodol Myfyrwyr


Ffynhonnell: Yn cynnwys Data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.