Ewch i’r prif gynnwys

Gyrfaoedd i Ôl-raddedigion a chyflogadwyedd

People moving through the Student Futures lobby

O ddatblygu eich gyrfa a’ch sgiliau, i symudedd rhyngwladol i fenter myfyrwyr, rydyn ni wrth law i gynnig cymorth i chi ar gynllunio ar gyfer dyfodol llwyddiannus.

Dyfodol Myfyrwyr: man pwrpasol ar gyfer cyngor gyrfaoedd

Drwy gydol eich gradd, cewch fynediad at ystod eang o wasanaethau, gan gynnwys:

  • gweithdai cyflogadwyedd ar amrywiaeth o bynciau (gan gynnwys dewis gyrfaoedd, paratoi CVs a cheisiadau a pharatoi ar gyfer cyfweliadau)
  • sesiynau cyngor gyrfaoedd un-i-un gyda chynghorwyr gyrfaoedd cymwysedig
  • Cynllun Datblygu Gwasanaethau Proffesiynol Gwobr Caerdydd
  • Mynediad i ystod o brofiad gwaith, gan gynnwys interniaethau a chyfleoedd am leoliad gwaith.
  • cefnogaeth bwrpasol i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a'r rhai sydd angen cymorth ychwanegol
  • ffeiriau gyrfaoedd a digwyddiadau dan arweiniad gyflogwyr i alluogi unigolion i rwydweithio â phrif gyflogwyr graddedigion
  • Cyfleoedd i weithio, astudio, neu wirfoddoli dramor
  • Cael cymorth o ran mentora busnes, cyllid sbarduno, swyddfeydd a chyfleoedd menter

Arbenigedd gyrfaoedd sy'n cyfrif

Mae’r gwasanaeth Dyfodol Myfyrwyr yn barod gyda phob math o gymorth arbenigol ychwanegol, gan gynnwys:

  • Apwyntiadau y gellir eu cadw ymlaen llaw gyda Chynghorydd Gyrfaoedd penodol i’ch ysgol
  • Adnoddau ar-lein i gefnogi eich cyflogadwyedd ar adeg sy'n addas i chi
  • gweithdai (o ddewis gyrfaoedd i ysgrifennu ceisiadau a pharatoi ar gyfer cyfweliadau)
  • Digwyddiadau rhwydweithio proffesiynol (tynnu sylw at gysyniadau penodol wrth addysgu, amgueddfeydd, elusennau)
  • siaradwyr gwadd proffesiynol
  • lleoliadau profiad gwaith a chyngor (o gwmnïau rhyngwladol i amgueddfeydd a'r sector treftadaeth)

Bod ar y blaen gyda’n Gwobr Cyflogadwyedd

Mae ein gwobr cyflogadwyedd yn rhoi’r cyfle i chi gael cydnabyddiaeth am y gweithgareddau rydych chi'n eu gwneud yn ystod eich astudiaethau, gan gynnwys profiad gwaith, mentora, cymdeithasau, gwirfoddoli a gwaith rhan-amser.

Mynd ar eich hynt eich hun: entrepreneur, gweithio’n llawrydd, hyrwyddwr mentrau cymdeithasol

P'un a ydych chi'n ystyried gweithio’n llawrydd neu ddechrau menter newydd, mae cefnogaeth wedi’i addasu ar gael, o fentora busnes arbenigol, i le wrth ddesg, neu gyllid sbarduno.

Oes gennych awydd addysgu?

Cyfle i ennill profiad gwerthfawr, defnyddiwch eich pwnc gradd yng nghyd-destun meddyliau iau a chynnal gweithgareddau arbenigol wedi’u creu gan gyd-fyfyrwyr ôl-raddedig ym mhrosiect Profiad yn y dosbarth Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd (SHARE) neu’r Prosiect Profiad Ystafell Ddosbarth

Ar ôl graddio

Bydd y cymorth yn parhau ar ddechrau gyrfa, gyda mynediad at gyngor gyrfaoedd a’r wybodaeth ddiweddaraf - o interniaethau i raddedigion i ffeiriau gyrfaoedd, y wybodaeth ddiweddaraf am yrfaoedd a swyddi gwag - yn ystod y tair blynedd gyntaf allweddol ar ôl graddio.

Wrth i yrfaoedd ddatblygu, mae modd dod o hyd i rwydwaith cefnogol o gyn-fyfyrwyr ar LinkedIn (10,000+ o aelodau sy’n gyn-fyfyrwyr), gan ei gwneud hi’n hawdd dod o hyd i gyngor gan gyn-fyfyrwyr, gan gynnwys cwestiynau ynghylch gyrfaoedd a chyfleoedd swyddi.

  • Roedd 87% o'n graddedigion ôl-raddedig a addysgir mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd neu’n gwneud gweithgareddau eraill, fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).

Y camau nesaf

Mae ein hôl-raddedigion yn dechrau ar yrfaoedd mewn ystod drawiadol o sectorau.

Mae ein cyn-fyfyrwyr yn gwneud ôl sawdl mewn ystod drawiadol o yrfaoedd a sectorau. O'r sector cyhoeddus i'r sector preifat, mae gyrfaoedd yn cael eu creu mewn amrywiaeth o broffesiynau, o fancio a'r gyfraith i addysgu a gweithio yn y cyfryngau, yn ogystal â meysydd uchel eu parch yn y sector treftadaeth, sefydliadau seiliedig ar ffydd, a chyrff anllywodraethol.

Mae ein graddedigion yn defnyddio eu sgiliau yn y byd gwaith bob blwyddyn, gyda nifer ohonynt yn dod yn archeolegwyr a chadwraethwyr y genhedlaeth nesaf, yma yn y Deyrnas Unedig a ledled y byd.

Cysylltu â ni

Cewch hyd i’r gwasanaeth Dyfodol Myfyrwyr yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr

Dyfodol Myfyrwyr


Ffynhonnell: Yn cynnwys Data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.