Cwblhau MFA gan ddefnyddio ap Authenticator MS
Cwblhau Dilysu Aml-ffactor (MFA) gan ddefnyddio’r ap Authenticator MS a osodwyd a sefydlwyd ar eich ffôn clyfar yn flaenorol.
Os ydych chi'n gweithio all-lein yn fuan, gallwch chi dal barhau i gwblhau’r broses Ddilysu Aml-ffactor trwy ddefnyddio'r codau chwe digid yn ap Microsoft Authenticator, hyd yn oed os nad oes gan eich ffôn clyfar gysylltiad data byw neu signal ffôn ar y pryd. Dilynwch ein canllawiau isod.
Derbyn hysbysiad
- Wrth geisio defnyddio Microsoft Office 365, naill ai drwy borwr gwe, ap symudol, neu gymhwysiad bwrdd gwaith, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau MFA cyn cael mynediad at eich cyfrif.
- Cyn yr ysgogiad MFA, efallai y gofynnir i chi fewngofnodi i Office365. Os felly, gwnewch hynny yn ôl yr arfer gan ddefnyddio eich cyfeiriad ebost a'ch cyfrinair Prifysgol Caerdydd.
- Those without a Cardiff University email address (and only a username) will need to enter the username followed by ‘@cardiff.ac.uk’.
- Cewch eich hysbysu bod angen cymeradwyaeth bellach ar yr ymgais hwn i fewngofnodi drwy MFA, a bod Microsoft wedi anfon hysbysiad at y ffôn clyfar rydych chi wedi gosod ap Microsoft Authenticator arno'n flaenorol.
- Yna dylai eich ffôn clyfar ddangos hysbysiad pop-up (neu neges ar y sgrin clo) gan ap Microsoft Authenticator, yn gofyn i chi nodi'r ddau ddigid sy'n cael eu harddangos a chlicio ie. Os nad ydych wedi gofyn am hyn, dewiswch No, this is not me.
- Os yw clo ap Microsoft Authenticator ar waith, bydd angen i chi roi cod datgloi eich ffôn clyfar, neu fiometrig (fel ôl bys neu adnabod wyneb) cyn i'ch ymateb gael ei dderbyn.
- Os na allwch chi ymateb i'r hysbysiad yn amserol am ryw reswm, cewch gyfle arall drwy glicio Send another request to my Microsoft Authenticator app.
Defnyddio Dilysu Aml-ffactor tra byddwch chi all-lein
Os nad oes gan eich ffôn gysylltiad data gweithredol neu signal pan fydd gofyn i chi ddefnyddio Dilysu Aml-ffactor, gallwch chi ddefnyddio’r côd 6-digid un tro sy’n cael ei gynhyrchu gan ap Microsoft Authenticator:
- Ar eich ffôn clyfar, agorwch ap Microsoft Authenticator a mewngofnodwch i'ch cyfrif Prifysgol Caerdydd. Byddwch chi’n gweld côd un tro sy’n cynnwys chwe digid ar eich sgrîn. Bydd yn newid bob 30 eiliad.
- Ewch yn ôl i'r sgrin fewngofnodi lle gofynnir ichi ddilysu gan glicio I can’t use my authenticator app right now.
- Dewiswch Use a verification code.
- Rhowch y côd 6-digid sy’n cael ei ddangos yn yr ap, a chliciwch ar Verify.
Sylwer: Bydd gofyn ichi roi'r côd a chlicio ‘Verify’ cyn i'r 30 eiliad a ddangosir ar ap Microsoft Authenticator ddod i ben, neu bydd y côd yn annilys, a bydd gofyn ichi roi cynnig arall arni.
- Dylai'r neges Enter code message ddiflannu o'r porwr gwe, yr ap symudol, neu'r rhaglen ar y bwrdd gwaith roeddech chi’n ei defnyddio – a dylech chi allu cyrchu eich cyfrif.
Ffordd arall o fewngofnodi gan ddefnyddio'r ap dilysu
- Os gofynnir i chi gwblhau MFA yn defnyddio'ch dull diofyn (galwad ffôn neu estyniad porwr), ond eich bod chi am ddefnyddio'r ap Microsoft Authenticator rydych wedi'i osod yn flaenorol, gallwch glicio sign in another way. Neu cliciwch ar y saeth sy'n pwyntio i'r chwith, sydd yr ochr chwith i’ch cyfeiriad e-bost.
- Yna cewch set o opsiynau ar sut i gwblhau MFA. Bydd yr union opsiynau'n dibynnu ar ba ddulliau MFA rydych wedi'u ffurfweddu o'r blaen.
Pwysig: Argymhellir yn gryf eich bod yn sefydlu sawl dull o gwblhau MFA i sicrhau y gallwch barhau i gael mynediad at eich cyfrif os bydd anhawster gydag un o'r dulliau.
- I ddefnyddio ap Microsoft Authenticator, cliciwch Approve a request on my Microsoft Authenticator app.
Gosod ap Authenticator yn ddull diofyn
Os ydych wedi gosod dull MFA arall (fel galwad ffôn awtomataidd neu gais dilysydd gwahanol) fel dull diofyn, gallwch newid hyn fel bod ap Microsoft Authenticator yn ddiofyn.
- I ddechrau'r broses, defnyddiwch borwr gwe i lywio i https://aka.ms/mfasetup.
- Cewch eich cymell i chi fewngofnodi i Office365 gan ddefnyddio eich cyfeiriad ebost a'ch cyfrinair Prifysgol Caerdydd. Efallai y cewch eich herio i gwblhau MFA gan ddefnyddio un o'r dulliau rydych eisoes wedi'i sefydlu.
- Those without a Cardiff University email address (and only a username) will need to enter the username followed by ‘@cardiff.ac.uk’.
- Ar ôl mewngofnodi'n llwyddiannus, byddwch yn cael eich cymryd i dudalen My Sign-ins ble gallwch adolygu'r dulliau MFA sydd eisoes wedi'u sefydlu. Nesaf at default sign-in method: cliciwch Change.
- Dewiswch Microsoft Authenticator – notification o'r rhestr o ddewisiadau.
- Bydd y dull mewngofnodi diofyn nawr yn dangos Microsoft Authenticator – notification.
Ailenwi a dileu'r cyfrif
Pwysig: Cyn i chi ddileu eich cyfrif o'r ap, sicrhewch naill ai eich bod wedi gosod ap Microsoft Authenticator ar ffôn clyfar arall a chadarnhau ei fod yn gweithio'n gywir gyda'ch cyfrif, neu fod gennych ddulliau eraill o gwblhau MFA sydd eisoes wedi'u sefydlu a'u cadarnhau fel rhai sy'n gweithio. Fel arall, fe welwch na allwch gwblhau MFA a byddwch yn cael eich cloi allan o'ch cyfrif.
- Os ydych am ailenwi cofnod eich cyfrif o fewn ap Microsoft Authenticator, agorwch yr ap ar eich ffôn clyfar, tapiwch i mewn i'ch cyfrif Prifysgol Caerdydd, ac yna tapiwch yr eicon cog yng nghornel dde uchaf y sgrin.
- Tapiwch account Name i roi disgrifiad newydd o'r ffordd y bydd yr ap yn cyfeirio at y cyfrif. Sylwch fod hyn yn effeithio ar sut mae ap Microsoft Authenticator yn rhestru'r cyfrif hwn ar eich ffôn clyfar yn unig.
- Os oes angen i chi ddileu'r cyfrif hwn o ap Microsoft Authenticator yn gyfan gwbl (er enghraifft oherwydd bod angen i chi ei osod eto ar y ffôn clyfar hwn neu ffôn clyfar gwahanol) tapiwch remove account. Os ydych yn deall goblygiadau parhau (gweler y nodyn isod), ac yn hapus i fwrw ymlaen, tapiwch fel bo'n briodol i gadarnhau.
Gadael mewngofnodi ffôn
Pwysig: Nid yw mewngofnodi ffôn wedi'i ffurfweddu a'i alluogi ym Mhrifysgol Caerdydd. Os byddwch yn gweithredu'r swyddogaeth hon yn ddamweiniol, bydd yn newid eich profiad MFA, ond ni fydd yn gweithio'n gywir a bydd yn arwain at wallau.
- Os bydd eich MFA yn gofyn i chi ddefnyddio rhif dau ddigid cyfatebol ar ap Microsoft Authenticator, neu os byddwch yn derbyn neges gwall sy'n nodi bod polisi eich cwmni yn mynnu eich bod yn defnyddio dull gwahanol i fewngofnodi, yna bydd angen i chi ddadactifadu phone sign-in.
- Ar eich ffôn clyfar, agorwch ap Microsoft Authenticator, a thapio i mewn i'ch cyfrif Prifysgol Caerdydd. Yna tapiwch disable phone sign-in a confirm.
- Dylai'r ap ddangos enable phone sign-in nawr, sy'n nodi bod mewngofnodi ffôn wedi'i analluogi'n llwyddiannus.
Help a chymorth
Os na allwch ddefnyddio'r dull Dilysu Aml-Ffactor (MFA) cynradd neu eilaidd o'ch dewis, gallwch gael mynediad dros dro i sefydlu dull newydd eich hun heb gysylltu â Chymorth TG.
Sylwch fod y gwasanaeth hwn ar gael i fyfyrwyr israddedig a myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir yn unig. Dylai staff a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig trefnwch apwyntiad ar gyfer cymorth dros y ffôn gyda Dilysu Aml-Ffactor (MFA).
Myfyrwyr
Os oes angen cymorth pellach, trefnwch apwyntiad ar gyfer cymorth dros y ffôn gyda Dilysu Aml-Ffactor (MFA).
Staff
Os oes angen cymorth pellach, trefnwch apwyntiad ar gyfer cymorth dros y ffôn gyda Dilysu Aml-Ffactor (MFA).