Cwblhau MFA gyda galwad ffôn awtomataidd
Cwblhewch Dilysu Aml-ffactor (MFA) gan ddefnyddio'r alwad ffôn awtomataidd gan Microsoft i'r rhif ffôn a nodwyd yn flaenorol.
Derbyn hysbysiad
Wrth geisio defnyddio Microsoft Office 365, naill ai drwy borwr gwe, ap symudol, neu gymhwysiad bwrdd gwaith, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau MFA cyn cael mynediad at eich cyfrif.
Cyn yr ysgogiad MFA, efallai y gofynnir i chi fewngofnodi i Office365. Os felly, gwnewch hynny yn ôl yr arfer gan ddefnyddio eich cyfeiriad ebost a'ch cyfrinair Prifysgol Caerdydd. Bydd angen i'r rhai sydd ddim â chyfeiriad e-bost Prifysgol Caerdydd (a dim ond enw defnyddiwr) nodi'r enw defnyddiwr ac yna '@cardiff.ac.uk'.
Cewch hysbysiad fod angen cymeradwyaeth bellach ar yr ymgais mewngofnodi hwn drwy MFA, a bod Microsoft yn galw’r rhif ffôn a nodwyd gennych yn flaenorol.
- Atebwch yr alwad gan Microsoft. Bydd neges wedi'i recordio yn esbonio natur yr alwad, a'r camau gweithredu sydd ar gael i chi. Os na allwch ateb yr alwad neu ymateb am ryw reswm, cewch gynnig cyfle arall drwy glicio Sign in another way.
- Yna cewch set o opsiynau ar sut i gwblhau MFA. Bydd yr union opsiynau'n dibynnu ar ba ddulliau MFA rydych wedi'u ffurfweddu o'r blaen. Cliciwch Call +XX XXXXX XXXX i roi cynnig arall ar yr alwad.
Cymeradwyo neu wrthod
Cymeradwyo
- Mae cymeradwyo'r ymgais i fewngofnodi mor syml ag ateb yr alwad awtomataidd, gwrando ar y neges a recordiwyd, a phwyso'r allwedd # (y cyfeirir ati fel yr allwedd "hash" yn Saesneg Prydain neu'r allwedd "punt" yn Saesneg America) ar fysellbad y ffôn pan gewch ei ysgogi.
- Unwaith y byddwch wedi pwyso'r allwedd # gallwch ddiweddu'r alwad ffôn a dylai'r neges Approve sign in request ddiflannu o'r porwr gwe, yr ap symudol, neu'r rhaglen bwrdd gwaith oeddech yn ei defnyddio - gan roi mynediad i chi at eich cyfrif Office 365 fel y bwriadwyd.
Os ydych chi'n derbyn hysbysiad MFA i gadarnhau mewngofnodi, ond nid chi sy'n mewngofnodi, mae'n bosibl fod rhywun yn ceisio defnyddio eich cyfrif yn anghyfreithlon. Peidiwch â chymeradwyo'r mewngofnodi, bydd hyn yn sicrhau bod eich cyfrif yn dal i fod yn ddiogel.
Os ydych yn derbyn sawl hysbysiad MFA, ond nid chi sy'n ceisio mewngofnodi, gall olygu bod rhywun yn ceisio hacio'ch cyfrif. Yn y sefyllfa hon, rhowch wybod i Gymorth TG fydd yn ymchwilio.
Gwrthod
Os nad chi sy'n ceisio mewngofnodi, gwrthodwch yr ymgais i fewngofnodi i gadw'ch cyfrif yn ddiogel.
- Mae gwrthod yr ymgais i fewngofnodi yn syml: peidiwch ag ateb yr alwad awtomataidd neu ateb a therfynu'r alwad heb bwyso unrhyw allweddi.
Pwysig: Bydd y neges a recordiwyd yn eich annog i bwyso 0# ("sero hash") i anfon adroddiad twyll. Os byddwch yn dewis Report Fraud, bydd hyn yn golygu bod eich cyfrif Office 365 yn cael ei gloi'n llwyr ar unwaith fel mesur diogelwch, ac ni fydd neb yn gallu cael mynediad i'r cyfrif – hyd yn oed chi.
Defnyddiwch yr opsiwn hwn dim ond os ydych yn credu bod rhywun yn ymosod ar eich cyfrif a bod angen y lefel hon o ddiogelwch ar unwaith.
Bydd angen i chi gysylltu â Chymorth TG am gymorth i adennill mynediad i'ch cyfrif.
Os ydych yn derbyn sawl hysbysiad MFA, ond nid chi sy'n ceisio mewngofnodi, gall olygu bod rhywun yn ceisio hacio'ch cyfrif. Yn y sefyllfa hon, rydym yn eich cynghori i gysylltu â Chymorth TG y Brifysgol a fydd yn ymchwilio.
Bydd y neges Approve sign-in ar y porwr gwe, yr ap symudol, neu'r rhaglen bwrdd gwaith yr oeddech yn ei defnyddio yn diweddaru i nodi na chwblhawyd MFA yn llwyddiannus
Dewis dull arall
- Os gofynnir i chi gwblhau gwiriad MFA yn defnyddio'ch dull diofyn, ond eich bod chi am gael galwad ffôn wedi’i awtomeiddio yn lle hynny i rif ffôn yr ydych wedi'i osod yn flaenorol, gallwch glicio I can’t use my Microsoft Authenticator app right now. Fel arall, cliciwch ar Sign in another way, neu cliciwch ar y saeth pwyntio a geir i'r chwith o'ch cyfeiriad ebost
Pwysig: argymhellwn yn gryf eich bod yn sefydlu sawl dull o gwblhau MFA i sicrhau y gallwch barhau i gael mynediad at eich cyfrif os bydd anhawster gydag un o'r dulliau.
- Cliciwch Call +XX XXXXX XXXX i ysgogi galwad ffon awtomataidd gan Microsoft i'r rhif a nodwyd gennych yn flaenorol.
Dangosir dau ddigid olaf pob rhif ffôn a nodwyd ar y cofnodion yn y rhestr i'ch helpu i nodi pa rif yr hoffech ei ddewis i Microsoft eich ffonio arno os ydych wedi cofnodi mwy nag un.
Gosod fel dull diofyn
Os ydych wedi gosod dull MFA arall (fel ap Microsoft Authenticator neu gais dilysydd gwahanol) fel dull diofyn, gallwch newid hyn i wneud yr alwad ffôn yn ddiofyn. Yn yr un modd, os ydych wedi nodi mwy nag un rhif ffôn gallwch ddewis pa un rydych am ei ddefnyddio fel yr un diofyn.
- I ddechrau'r broses, defnyddiwch borwr gwe i lywio i https://aka.ms/mfasetup. Cewch eich cymell i chi fewngofnodi i Office365 gan ddefnyddio eich cyfeiriad ebost a'ch cyfrinair Prifysgol Caerdydd. Efallai y cewch eich herio i gwblhau MFA gan ddefnyddio un o'r dulliau rydych eisoes wedi'i sefydlu.
- Bydd angen i'r rhai sydd ddim â chyfeiriad e-bost Prifysgol Caerdydd (a dim ond enw defnyddiwr) nodi'r enw defnyddiwr ac yna '@cardiff.ac.uk'.
- Ar ôl mewngofnodi'n llwyddiannus, byddwch yn cael eich cyfeirio at dudalen My Sign-ins lle gallwch adolygu'r dulliau MFA sydd eisoes wedi'u sefydlu. Nesaf at Default sign-in method: cliciwch Change.
- O'r rhestr o opsiynau a gyflwynir, dewiswch y cofnod Phone - call +XX XXXXX XXXXXX sy'n cyfateb i'r rhif ffôn a nodwyd yn flaenorol yr hoffech nawr ei ddefnyddio fel yr un diofyn.
- Bydd y dull mewngofnodi diofyn nawr yn dangos Phone - call +XX XXXXX XXXXXX
Help a chymorth
Os na allwch ddefnyddio'r dull Dilysu Aml-Ffactor (MFA) cynradd neu eilaidd o'ch dewis, gallwch gael mynediad dros dro i sefydlu dull newydd eich hun heb gysylltu â Chymorth TG.
Sylwch fod y gwasanaeth hwn ar gael i fyfyrwyr israddedig a myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir yn unig. Dylai staff a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig trefnwch apwyntiad ar gyfer cymorth dros y ffôn gyda Dilysu Aml-Ffactor (MFA).
Myfyrwyr
Os oes angen cymorth pellach, trefnwch apwyntiad ar gyfer cymorth dros y ffôn gyda Dilysu Aml-Ffactor (MFA).
Staff
Os oes angen cymorth pellach, trefnwch apwyntiad ar gyfer cymorth dros y ffôn gyda Dilysu Aml-Ffactor (MFA).