Defnyddio Dilysu Aml-ffactor (MFA)
Pan fydd Dilysu Aml-ffactor (MFA) wedi'i ysgogi, fe'ch anogir i wirio'ch dull mewngofnodi wrth agor apiau TG y Brifysgol
Bydd angen i chi ddilyn y cyfarwyddiadau ar gyfer y dull dilysu a ddewiswyd gennych i gwblhau'r broses fewngofnodi.
Gall pa mor aml y gofynnir i chi ddilysu trwy ddefnyddio Dilysu Aml-Ffactor amrywio. Mae Microsoft yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar risg i benderfynu a oes angen Dilysu Aml Ffactor. Er enghraifft, o fewngofnodi o leoliad newydd, mae’n fwy tebygol y bydd angen i chi ddilysu trwy ddefnyddio Dilysu Aml-Ffactor.