Ewch i’r prif gynnwys

Tocyn Mynediad Dros Dro am fyfyrwyr

Os na allwch ddefnyddio'r dull Dilysu Aml-Ffactor (MFA) cynradd neu eilaidd o'ch dewis, gallwch gael mynediad dros dro i sefydlu dull newydd eich hun heb gysylltu â Chymorth TG.

Cofiwch fod y gwasanaeth hwn ar gael i fyfyrwyr israddedig a myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir yn unig.

Mae MFA yn dibynnu ar ddyfais, ffôn neu borwr ychwanegol i wirio pwy ydych chi er mwyn caniatáu i chi gael mynediad at lawer o systemau TG y Brifysgol, gan gynnwys ebost.

Gan ddefnyddio'r Tocyn Mynediad Dros Dro Dilysu Aml-Ffactor, bydd myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig a addysgir yn gallu trefnu i gyfrinair un-tro gael ei anfon i'ch cyfeiriad ebost personol (nad yw'n un Prifysgol Caerdydd). Bydd y tocyn hwn yn parhau i fod yn weithredol am awr i'ch galluogi i sefydlu dull arall.

Os nad oes gennych fynediad i'ch dull dilysu mwyach, neu os oes gennych ddyfais, rhif ffôn neu borwr gwe newydd bydd angen i chi ddefnyddio'r Tocyn Mynediad Dros Dro.

Bydd angen i chi sicrhau bod eich ebost personol yn gyfredol yn SIMS i dderbyn y Tocyn Mynediad Dros Dro.

Defnyddio'r Tocyn Mynediad Dros Dro

  1. Ewch i password.cardiff.ac.uk, gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair prifysgol – eich enw defnyddiwr yw eich rhif myfyriwr gydag ‘c’, o’r flaen, er enghraifft: c1436578.
  2. Dewiswch y botwm Multi-Factor Authentication Temporary Access Pass.
  3. Byddwch yn cael eich cyfeiriad ebost personol sydd wedi'i guddio yn rhannol am resymau diogelwch.
  4. Pan fyddwch yn cael y côd, ewch i Reolwr Cyfrif MFA.
  5. Mewngofnodwch gan ddefnyddio eich cyfeiriad ebost prifysgol a’ch cyfrinair Gofynnir i chi fewnbynnu'r Tocyn Mynediad Dros Dro. Mewnbynnwch y Tocyn Mynediad Dros Dro a gawsoch ym mewnflwch eich ebost personol – os cewch chi’ch gofyn i ddilysu drwy'r ap, dewiswch “I can’t use my Microsoft authenticator app right now” a nodwch y côd a gaiff ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost personol.
  6. Dilewch y dull nad oes gennych fynediad ato mwyach o'r rhestr o ddulliau a ddarperir.
  7. Dewiswch add method a dilynwch y camau ar y sgrîn.
  8. Pan ofynnir i chi ddefnyddio MFA i gael mynediad i'ch cyfrif TG Prifysgol gallwch ddefnyddio'r dull rydych newydd ei sefydlu.

Peidiwch â chael eich cloi allan

Mae rhai camau y gallwch eu cymryd i sicrhau eich bod bob amser yn gallu cael mynediad i'ch cyfrif pan fydd angen i chi:

  • pan fyddwch chi'n cael ffôn newydd gwnewch yn siŵr eich bod chi'n sefydlu MFA ar eich dyfais newydd cyn i chi gael gwared ar eich hen ddyfais. Bydd angen eich hen ddyfais arnoch un tro olaf er mwyn dilysu a sefydlu eich dyfais newydd ar gyfer MFA
  • pan fyddwch yn gorffen sefydlu MFA yn y lle cyntaf, peidiwch â dileu'r ap dilyswr MFA - bydd angen hwn arnoch yn barhaus i ddilysu yn y dyfodol
  • gwnewch yn siŵr eich bod yn sefydlu dull dilysu cynradd ac eilaidd
  • dilynwch ein cyfarwyddiadau am beth i'w wneud os ydych yn cael rhif ffôn, dyfais neu borwr gwe newydd.

Help a chymorth

Myfyrwyr

Os oes angen cymorth pellach, trefnwch apwyntiad ar gyfer cymorth dros y ffôn gyda Dilysu Aml-Ffactor (MFA).

Staff

Os oes angen cymorth pellach, trefnwch apwyntiad ar gyfer cymorth dros y ffôn gyda Dilysu Aml-Ffactor (MFA).