Sefydlwch yr estyniad porwr gwe, Authenticator
Os nad ydych yn gallu defnyddio dyfais symudol i sefydlu MFA, gallwch osod Authenticator, yr estyniad porwr gwe, fel datrysiad amgen.
Gallwch lawrlwytho a gosod yr estyniad porwr gwe ar eich porwr Microsoft Edge, Google Chrome neu Mozilla Firefox.
Google Chrome
- Defnyddiwch borwr gwe Google Chrome ar eich cyfrifiadur i fynd i dudalen hafan estyniad Authenticator – a chlicio ar y botwm Add to Chrome.
- Cewch eich tywys i wefan siop Google Chrome, gydag Authenticator eisoes wedi'i ddewis ac yn barod i'w osod. Cliciwch Add to Chrome.
- Bydd Google Chrome yn eich annog i gadarnhau eich bod am ychwanegu estyniad Authenticator. Cliciwch Add extension.
- Ar ôl i'r estyniad gael ei osod yn llwyddiannus, fe'ch hysbysir bod Authenticator wedi'i ychwanegu at Google Chrome. Cliciwch y botwm “X” ar y naidlen i'w chau.
- Defnyddiwch borwr gwe Google Chrome i fynd i https://aka.ms/mfasetup.
- Efallai y gofynnir i chi fewngofnodi i Office 365 (os ddim, byddwch yn symud yn syth i gam 7). Os gofynnir i chi fewngofnodi i Office 365, rhowch eich cyfeiriad ebost Prifysgol Caerdydd a chlicio Next. Yna cewch eich ailgyfeirio i sgrîn fewngofnodi arferol Prifysgol Caerdydd. Rhowch eich cyfeiriad ebost a'ch cyfrinair Prifysgol Caerdydd fel arfer a chlicio Log in.
- Bydd angen i'r rhai sydd ddim â chyfeiriad e-bost Prifysgol Caerdydd (a dim ond enw defnyddiwr) nodi'r enw defnyddiwr ac yna '@cardiff.ac.uk'.
- Os nad ydych wedi sefydlu unrhyw ddulliau MFA o'r blaen, fe gewch neges i ddweud bod angen mwy o wybodaeth ar ôl mewngofnodi'n llwyddiannus. Cliciwch Next a neidio i gam 9.
- Fel arall, cewch eich tywys i dudalen My Sign-ins ble gallwch weld y dulliau MFA sydd eisoes wedi'u sefydlu. Cliciwch ar Add method.
- Yn y ddeialog naid sy'n ymddangos, dewiswch Authenticator app o'r gwymplen, ac yna cliciwch ar Add.
- Byddwch yn gweld dialog Microsoft Authenticator sy’n dweud wrthych i fynd ati i gael yr ap. Cliciwch I want to use a different authenticator app.
- Mae'r sgrin nesaf yn eich annog i Set up your account. Cliciwch Next.
- Mae'r sgrîn nesaf yn rhoi côd QR. Cliciwch ar Can’t scan image?
- Bydd Secret key (allwedd gyfrinachol) i’w gweld. Cliciwch ar eicon dwy ffeil sy'n gorgyffwrdd i'r dde o'r Secret key. Bydd hynny'n copïo testun yr allwedd gyfrinachol yn barod i'w ludo.
- Cliciwch y botwm Extensions (yr eicon jig-so i'r dde o'r bar cyfeiriad), i weld rhestr o estyniadau sydd wedi'u gosod. Cliciwch ar yr estyniad Authenticator.
- O fewn estyniad Authenticator, cliciwch ar yr eicon pensil, ac yna cliciwch ar yr eicon plws i ychwanegu cyfrif.
- Cliciwch ar Manual Entry.
- Nodwch Brifysgol Caerdydd ym mlwch testun Issuer, neu fel arall nodwch ddynodwr arall o'ch dewis fydd yn eich helpu i gofio bod y cofnod hwn yn ymwneud â MFA Office 365 Prifysgol Caerdydd.
- Gludwch y testun yr allwedd gyfrinachol y gwnaethoch chi ei chopïo yng ngham 12 i'r blwch testun gyda'r enw Secret a chliciwch Ok.
- Bydd estyniad Authenticator yn dangos mynediad newydd i Brifysgol Caerdydd gyda chôd 6-digid sy'n adnewyddu bob 30 eiliad. Cliciwch ar yr eicon pensil.
- O fewn cofnod Prifysgol Caerdydd, nodwch eich cyfeiriad ebost Prifysgol Caerdydd yn y blwch testun Username. Cliciwch ar yr eicon ticio.
- Bydd angen i'r rhai sydd ddim â chyfeiriad e-bost Prifysgol Caerdydd (a dim ond enw defnyddiwr) nodi'r enw defnyddiwr ac yna '@cardiff.ac.uk'.
- Bydd estyniad Authenticator nawr yn diweddaru'r cofnod newydd i gynnwys eich cyfeiriad ebost. Cliciwch ar y côd 6-digid.
- Gofynnir i chi os ydych am roi'r estyniad Authenticator caniatad i gopïo'r côd 6-digid i mewn i'ch clipfwrdd cyfrifiadur. Cliciwch Allow.
- Cliciwch ar y côd 6-digid i ei gopïo i mewn i glipfwrdd eich cyfrifiadur.
- Ar y dudalen we gyda'r côd QR a'r testun yr allwedd gyfrinachol, cliciwch Next. Bydd Microsoft yn eich annog i nodi'r côd 6-digid yn Authenticator. Nodwch ef a chlicio ar Next.
Mae estyniad Authenticator wedi'i gysylltu â'ch cyfrif. Gallwch nawr ddefnyddio'r ap i gwblhau'r MFA ar gyfer eich cyfrif.
- Dewiswch y dull sydd well gennych am gwblhau MFA trwy clicio Change nesaf at eich Default sign-in method ar y dudalen My Sign-ins.
Microsoft Edge
- Defnyddiwch borwr gwe Microsoft Edge ar eich cyfrifiadur i fynd i dudalen hafan estyniad Authenticator – a chlicio ar y botwm Add to Edge.
- Cewch eich tywys i wefan Microsoft Edge Add-ons, gydag Authenticator eisoes wedi'i ddewis ac yn barod i'w osod. Cliciwch Get.
- Bydd Microsoft Edge yn eich annog i gadarnhau eich bod am ychwanegu estyniad Authenticator. Cliciwch Add extension.
- Ar ôl i'r estyniad gael ei osod yn llwyddiannus, fe'ch hysbysir bod Authenticator wedi'i ychwanegu at Microsoft Edge. Cliciwch y botwm “X” ar y naidlen i'w chau.
- Defnyddiwch borwr gwe Microsoft Edge i fynd i https://aka.ms/mfasetup.
- Efallai y gofynnir i chi fewngofnodi i Office 365 (os ddim, byddwch yn symud yn syth i gam 7). Os gofynnir i chi fewngofnodi i Office 365, rhowch eich cyfeiriad ebost Prifysgol Caerdydd a chlicio Next. Yna cewch eich ailgyfeirio i sgrîn fewngofnodi arferol Prifysgol Caerdydd. Rhowch eich cyfeiriad ebost a'ch cyfrinair Prifysgol Caerdydd fel arfer a chlicio Log in.
- Bydd angen i'r rhai sydd ddim â chyfeiriad e-bost Prifysgol Caerdydd (a dim ond enw defnyddiwr) nodi'r enw defnyddiwr ac yna '@cardiff.ac.uk'.
- Os nad ydych wedi sefydlu unrhyw ddulliau MFA o'r blaen, fe gewch neges i ddweud bod angen mwy o wybodaeth ar ôl mewngofnodi'n llwyddiannus. Cliciwch Next a neidio i gam 9.
- Fel arall, cewch eich tywys i dudalen My Sign-ins ble gallwch weld y dulliau MFA sydd eisoes wedi'u sefydlu. Cliciwch ar Add method.
- Yn y ddeialog naid sy'n ymddangos, dewiswch Authenticator app o'r gwymplen, ac yna cliciwch Add.
- Byddwch yn gweld dialog Microsoft Authenticator sy’n dweud wrthych i fynd ati i gael yr ap. Cliciwch I want to use a different authenticator app.
- Mae'r sgrin nesaf yn eich annog i Set up your account. Cliciwch Next.
- Mae'r sgrîn nesaf yn rhoi côd QR. Cliciwch Can’t scan image.
- Bydd Secret key (allwedd gyfrinachol) i’w gweld. Cliciwch ar eicon dwy ffeil sy'n gorgyffwrdd i'r dde o'r Secret key. Bydd hynny'n copïo testun yr allwedd gyfrinachol yn barod i'w ludo.
- Dewiswch yr ychwanegiad Authenticator trwy glicio ar y fotwm côd QR ar ochr dde'r bar cyfeiriad. Os na allwch ddod o hyd iddo, cliciwch ar y botwm Extensions (yr eicon jig-so) neu cliciwch ar y tri dot ar y dde, a dewis Extensions.
- O fewn ychwanegiad Authenticator, cliciwch ar eicon pensil, ac yna cliciwch ar yr eicon plws i ychwanegu cyfrif.
- Cliciwch ar Manual Entry.
- Nodwch Brifysgol Caerdydd ym mlwch testun Issuer, neu fel arall nodwch ddynodwr arall o'ch dewis fydd yn eich helpu i gofio bod y cofnod hwn yn ymwneud â MFA Office 365 Prifysgol Caerdydd.
- Gludwch y testun yr allwedd gyfrinachol y gwnaethoch chi ei chopïo yng ngham 12 i'r blwch testun gyda'r enw Secret a chliciwch Ok.
- Bydd estyniad Authenticatoryn dangos mynediad newydd i Brifysgol Caerdydd gyda chôd 6-digid sy'n adnewyddu bob 30 eiliad. Cliciwch ar eicon pensil.
- O fewn cofnod Prifysgol Caerdydd, nodwch eich cyfeiriad ebost Prifysgol Caerdydd yn y blwch testun Username. Cliciwch ar yr eicon ticio.
- Bydd angen i'r rhai sydd ddim â chyfeiriad e-bost Prifysgol Caerdydd (a dim ond enw defnyddiwr) nodi'r enw defnyddiwr ac yna '@cardiff.ac.uk'.
- Bydd ychwanegiad Authenticator nawr yn diweddaru'r cofnod newydd i gynnwys eich cyfeiriad ebost. Cliciwch ar y côd 6-digid.
- Gofynnir i chi os ydych am roi'r estyniad Authenticator caniatad i gopïo'r côd 6-digid i mewn i'ch clipfwrdd cyfrifiadur. Cliciwch Allow.
- Cliciwch ar y côd 6-digid i ei gopïo i mewn i glipfwrdd eich cyfrifiadur.
- Ar y dudalen we gyda'r côd QR a'r testun yr allwedd gyfrinachol, cliciwch Next. Bydd Microsoft yn eich annog i nodi'r côd 6-digid yn Authenticator. Nodwch ef a chlicio ar Next.
Mae estyniad Authenticator wedi'i gysylltu â'ch cyfrif. Gallwch nawr ddefnyddio'r ap i gwblhau'r MFA ar gyfer eich cyfrif.
- Dewiswch y dull sydd well gennych am gwblhau MFA trwy clicio Change nesaf at eich Default sign-in method ar y dudalen My Sign-ins.
Mozilla Firefox
- Defnyddiwch borwr gwe Mozilla Firefox ar eich cyfrifiadur i fynd i dudalen hafan Authenticator extension – a chlicio’r botwm Add to Firefox.
- Cewch eich tywys i wefan siop Mozilla Firefox, gyda Authenticator eisoes wedi'i ddewis ac yn barod i'w osod. Cliciwch Add to Firefox.
- Bydd Mozilla Firefox yn eich annog i gadarnhau eich bod am ychwanegu estyniad Authenticator. Cliciwch Add.
- Ar ôl i'r estyniad gael ei osod yn llwyddiannus, fe'ch hysbysir bod Authenticator wedi'i ychwanegu at Mozilla Firefox. Cliciwch y botwm Okay ar y ffenestr naid i’w chau.
- Defnyddiwch borwr gwe Mozilla Firefox i fynd i https://aka.ms/mfasetup.
- Efallai y gofynnir i chi fewngofnodi i Office 365 (os ddim, byddwch yn symud yn syth i gam 7). Os gofynnir i chi fewngofnodi i Office 365, rhowch eich cyfeiriad ebost Prifysgol Caerdydd a chlicio Next. Yna cewch eich ailgyfeirio i sgrîn fewngofnodi arferol Prifysgol Caerdydd. Rhowch eich cyfeiriad ebost a'ch cyfrinair Prifysgol Caerdydd fel arfer a chlicio Log in.
- Bydd angen i'r rhai sydd ddim â chyfeiriad e-bost Prifysgol Caerdydd (a dim ond enw defnyddiwr) nodi'r enw defnyddiwr ac yna '@cardiff.ac.uk'.
- Os nad ydych wedi sefydlu unrhyw ddulliau MFA o'r blaen, fe gewch neges i ddweud bod angen mwy o wybodaeth ar ôl mewngofnodi'n llwyddiannus. Cliciwch Next a neidio i gam 9.
- Fel arall, cewch eich tywys i dudalen My Sign-ins ble gallwch weld y dulliau MFA sydd eisoes wedi'u sefydlu. Cliciwch ar Add method.
- Yn y ddeialog naid sy'n ymddangos, dewiswch Authenticator app o'r gwymplen, ac yna cliciwch Add.
- Byddwch yn gweld dialog Microsoft Authenticator sy’n dweud wrthych i fynd ati i gael yr ap. Cliciwch I want to use a different authenticator app.
- Mae'r sgrin nesaf yn eich annog i Set up your account. Cliciwch Next.
- Mae'r sgrîn nesaf yn rhoi côd QR. Cliciwch ar Can’t scan image?
- Bydd Secret key (allwedd gyfrinachol) i’w gweld. Cliciwch ar eicon dwy ffeil sy'n gorgyffwrdd i'r dde o'r Secret key. Bydd hynny'n copïo testun yr allwedd gyfrinachol yn barod i'w ludo.
- Cliciwch y botwm Extensions (yr eicon jig-so i'r dde o'r bar cyfeiriad), i weld rhestr o estyniadau sydd wedi'u gosod. Cliciwch ar yr estyniad Authenticator.
- O fewn estyniad Authenticator, cliciwch ar yr eicon pensil, ac yna cliciwch ar yr eicon plws i ychwanegu cyfrif.
- Cliciwch ar Manual Entry.
- Nodwch Brifysgol Caerdydd ym mlwch testun Issuer, neu fel arall nodwch ddynodwr arall o'ch dewis fydd yn eich helpu i gofio bod y cofnod hwn yn ymwneud â MFA Office 365 Prifysgol Caerdydd.
- Gludwch y testun yr allwedd gyfrinachol y gwnaethoch chi ei chopïo yng ngham 12 i'r blwch testun gyda'r enw Secret a chliciwch Ok.
- Bydd estyniad Authenticator yn dangos mynediad newydd i Brifysgol Caerdydd gyda chôd 6-digid sy'n adnewyddu bob 30 eiliad. Cliciwch ar eicon pensil.
- O fewn cofnod Prifysgol Caerdydd, nodwch eich cyfeiriad ebost Prifysgol Caerdydd yn y blwch testun Username. Cliciwch ar yr eicon ticio.
- Bydd angen i'r rhai sydd ddim â chyfeiriad e-bost Prifysgol Caerdydd (a dim ond enw defnyddiwr) nodi'r enw defnyddiwr ac yna '@cardiff.ac.uk'.
- Bydd estyniad Authenticator nawr yn diweddaru'r cofnod newydd i gynnwys eich cyfeiriad ebost. Cliciwch ar y côd 6-digid.
- Gofynnir i chi os ydych am roi'r estyniad Authenticator caniatad i gopïo'r côd 6-digid i mewn i'ch clipfwrdd cyfrifiadur. Cliciwch Allow.
- Cliciwch ar y côd 6-digid i ei gopïo i mewn i glipfwrdd eich cyfrifiadur.
- Ar y dudalen we gyda'r côd QR a'r testun yr allwedd gyfrinachol, cliciwch Next. Bydd Microsoft yn eich annog i nodi'r côd 6-digid yn Authenticator. Nodwch ef a chlicio ar Next.
Mae estyniad Authenticator wedi'i gysylltu â'ch cyfrif. Gallwch nawr ddefnyddio'r ap i gwblhau'r MFA ar gyfer eich cyfrif.
- Dewiswch y dull sydd well gennych am gwblhau MFA trwy clicio Change nesaf at eich Default sign-in method ar y dudalen My Sign-ins.
Help a chymorth
Os na allwch ddefnyddio'r dull Dilysu Aml-Ffactor (MFA) cynradd neu eilaidd o'ch dewis, gallwch gael mynediad dros dro i sefydlu dull newydd eich hun heb gysylltu â Chymorth TG.
Sylwch fod y gwasanaeth hwn ar gael i fyfyrwyr israddedig a myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir yn unig. Dylai staff a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig trefnwch apwyntiad ar gyfer cymorth dros y ffôn gyda Dilysu Aml-Ffactor (MFA).
Myfyrwyr
Os oes angen cymorth pellach, trefnwch apwyntiad ar gyfer cymorth dros y ffôn gyda Dilysu Aml-Ffactor (MFA).
Staff