Gosod ap Microsoft Authenticator
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Gosod ap Microsoft Authenticator ar eich ffôn clyfar gan ddefnyddio'ch cyfrifiadur.
Bydd angen arnoch:
- eich cyfrifiadur
- eich ffôn clyfar
- cysylltiad â'r rhyngrwyd
- Siop Google Play neu Siop Apple App
Bydd yn rhaid ichi ddefnyddio eich cyfrifiadur a'ch ffôn clyfar wrth sefydlu'r dull hwn o ddilysu. Dylai gymryd tua deg munud i gwblhau’r broses ar eich ffôn clyfar.
Agorwch siop Google Play neu siop Apple App a chwiliwch am ap Microsoft Authenticator. Dewch o hyd i ap swyddogol Microsoft Authenticator gan Microsoft Corporation yn rhad ac am ddim yn y canlyniadau chwilio.
Sefydlu ap y Dilysydd
Gallwch chi ddilyn y broses gan ddefnyddio ein canllaw cam wrth gam sy’n cynnwys sgrinluniau, neu gallach chi ddefnyddio'r cyfarwyddiadau isod.
Gofynnir i chi ail-ddilysu'n rheolaidd, felly cofiwch beidio â dadosod ap Microsoft Authenticator.
Cyfarwyddiadau
- Lawrlwythwch ap Microsoft Authenticator a’i osod ar eich ffôn clyfar fel yn achos unrhyw ap ffôn clyfar arall. Er mwyn gwneud hyn yn llwyddiannus, efallai y bydd yn rhaid ichi wasgu Accept neu Agree os bydd gofyn ichi wneud felly.
- Er mwyn defnyddio ap Microsoft Authenticator, bydd yn rhaid ichi dapio I agree ar sgrîn Your privacy matters. Yna, tapiwch Skip yng nghornel dde uchaf y sgrîn Peace of mind for your digital life, a byddwch chi’n cyrraedd y sgrîn Ready to add your first account?. Os ydych chi wedi defnyddio'r ap o'r blaen, gallwch chi hepgor y cam hwn.
- Defnyddiwch borwr gwe nawr ar eich cyfrifiadur i fynd i https://aka.ms/mfasetup.
- Efallai y gofynnir ichi fewngofnodi i Office 365 (os ddim, byddwch yn symud yn syth i gam 5). Os gofynnir ichi fewngofnodi i Office 365, rhowch eich cyfeiriad ebost Prifysgol Caerdydd a chlicio Next. Yna cewch eich ailgyfeirio i sgrîn fewngofnodi gyfarwydd Prifysgol Caerdydd. Rhowch eich cyfeiriad ebost a'ch cyfrinair Prifysgol Caerdydd yn ôl yr arfer a chlicio Log in.
- Bydd angen i'r rhai sydd ddim â chyfeiriad e-bost Prifysgol Caerdydd (a dim ond enw defnyddiwr) nodi'r enw defnyddiwr ac yna '@cardiff.ac.uk'.
- Os nad ydych chi wedi sefydlu unrhyw ddulliau Dilysu Aml-Ffactor (MFA) o'r blaen, fe gewch neges i ddweud bod angen mwy o wybodaeth ar ôl mewngofnodi'n llwyddiannus. Cliciwch Next gan neidio i gam 7. Fel arall, cewch eich tywys i dudalen ‘My Sign-ins’ lle gallwch chi weld y dulliau MFA sydd eisoes wedi'u sefydlu. Cliciwch ar Add method.
- Pan fyddwch chi’n gweld y ffenestr naid, dewiswch ‘Authenticator app’ o'r gwymplen, ac yna cliciwch Add.
- Byddwch chi’n gweld deialog Microsoft Authenticator sy’n eich cymell i gael yr ap. Cliciwch Next.
- Mae'r sgrîn nesaf yn eich annog i sefydlu eich cyfrif. Cliciwch Next.
- Mae'r sgrîn nesaf yn rhoi côd QR. Gadewch y côd QR ar y sgrin, ac ewch ati i wneud y camau nesaf ar eich ffôn clyfar.
- Ar eich ffôn clyfar Android/Apple, agorwch ap Microsoft Authenticator rydych chi wedi’i lawrlwytho a'i osod. (Os gofynnir ichi a ydych chi eisiau caniatáu Notifications, tapiwch Allow. Os gofynnir ichi am gasglu data defnydd na fydd yn gallu dangos pwy ydych chi, tapiwch OK). Os yw nodwedd "app lock" Microsoft Authenticator eisoes ar waith, bydd yn rhaid ichi roi côd datgloi eich ffôn clyfar, neu fiometrig (megis olion bysedd neu adnabod wynebau) ar y pwynt hwn, cyn y gallwch chi ddefnyddio'r ap.
- Yn ap Microsoft Authenticator, ar sgrîn Ready to add your first account?, tapiwch y botwmAdd account yng nghanol y sgrîn. Os oes gennych chi gyfrifon eraill sydd eisoes yn yr ap, byddwch chi’n gweld y rhain ac ni welwch chi’r botwm Add Account - tapiwch yr eicon plus yn ochr dde uchaf y sgrîn yn lle hynny. Yn y rhestr sy'n ymddangos, tapiwch Work or school account, ac yna tapiwch Scan QR code.
- Bydd ap Microsoft Authenticator wedyn yn ceisio defnyddio camera eich ffôn clyfar i sganio'r côd QR. Os gofynnir ichi a ydych chi eisiau caniatáu Notifications, tapiwch Allow.
- Defnyddiwch gamera'r ffôn clyfar i sganio'r côd QR ar y dudalen ar eich cyfrifiadur – gweler cam 9.
- Ar ôl llwyddo i sganio'r côd QR, bydd ap Microsoft Authenticator yn dangos cofnod newydd sy’n rhan o Gyfrifon Prifysgol Caerdydd ac yn dangos eich cyfeiriad ebost.
- Newidiwch yn ôl i'r porwr gwe ar eich cyfrifiadur, ac ar y dudalen we sydd â'r côd QR, cliciwch Next. Bellach, mae Microsoft eisiau gwneud yn siŵr eich bod yn gallu defnyddio ap Microsoft Authenticator yn llwyddiannus trwy ddangos côd gyda dau rhif i chi.
- Dylai hysbysiad ymddangos ar eich ffôn clyfar yn gofyn i chi nodi'r rhif a gaiff ei ddangos ar eich porwr gwe er mwyn mewngofnodi. Rhowch y côd dau rif a dewis ‘Yes’.
- Os yw "clo ap" Microsoft Authenticator ar waith, bydd yn rhaid ichi roi côd datgloi eich ffôn clyfar, neu fiometrig (megis olion bysedd neu adnabod wynebau) cyn y gallwch chi gymeradwyo'r cais. Gwnewch yn siŵr eich bod yn tapio Approve i gwblhau'r prawf hwn.
- Dylai'r dudalen we ar eich cyfrifiadur eisoes fod wedi'i diweddaru i ddangos Notification approved. Cliciwch Next.
- Mae'r broses sefydlu wedi'i chwblhau - mae ap Microsoft Authenticator bellach wedi'i osod a'i gysylltu â'ch cyfrif. Bellach, gallwch chi ddefnyddio'r ap i gwblhau gwiriadau MFA ar gyfer eich cyfrif. Cliciwch ar Done i orffen. Cofiwch beidio â dadosod ap Microsoft Authenticator.
- Byddwch chi’n cael eich tywys i'r dudalen My Sign-ins lle gallwch chi weld y dulliau MFA sydd gennych chi ar waith.
Rydyn ni’n argymell yn gryf eich bod yn ychwanegu dulliau dilysu ychwanegol. Os na allwch chi ddefnyddio eich ffôn clyfar am ryw reswm, gallwch chi ddefnyddio eich dulliau ychwanegol, a byddwch chi’n gallu cyrchu eich cyfrif o hyd.
Help a chymorth
Os na allwch ddefnyddio'r dull Dilysu Aml-Ffactor (MFA) cynradd neu eilaidd o'ch dewis, gallwch gael mynediad dros dro i sefydlu dull newydd eich hun heb gysylltu â Chymorth TG.
Sylwch fod y gwasanaeth hwn ar gael i fyfyrwyr israddedig a myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir yn unig. Dylai staff a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig trefnwch apwyntiad ar gyfer cymorth dros y ffôn gyda Dilysu Aml-Ffactor (MFA).
Myfyrwyr
Os oes angen cymorth pellach, trefnwch apwyntiad ar gyfer cymorth dros y ffôn gyda Dilysu Aml-Ffactor (MFA).
Staff
Os oes angen cymorth pellach, trefnwch apwyntiad ar gyfer cymorth dros y ffôn gyda Dilysu Aml-Ffactor (MFA).