Sefydlu galwad ffôn awtomataidd
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Os nad oes gennych fynediad at ffôn clyfar, gallwch sefydlu Dilysu Aml-ffactor (MFA) gan ddefnyddio galwad ffôn.
Bydd angen i chi allu ateb galwad ffôn awtomataidd gan Microsoft ar y rhif ffôn a roddwch yn ystod y broses hon a bydd angen i chi allu pwyso'r allwedd # mewn ymateb.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu ateb ac ymateb i alwad ffôn awtomataidd pan fo angen gwneud hynny i ddilysu e.e. os ydych yn defnyddio ffôn symudol, gwnewch yn siŵr bod gennych signal cryf.
Gallwch chi ddilyn y broses gan ddefnyddio ein canllaw cam wrth gam sy’n cynnwys sgrinluniau, neu gallach chi ddefnyddio'r cyfarwyddiadau isod.
Cyfarwyddiadau
- Defnyddiwch borwr gwe i fynd i https://aka.ms/mfasetup.
- Efallai y gofynnir i chi fewngofnodi i Office 365 (os ddim, byddwch yn symud yn syth i gam 3). Os gofynnir i chi fewngofnodi i Office 365, rhowch eich cyfeiriad ebost Prifysgol Caerdydd a chlicio Next. Yna cewch eich ailgyfeirio i sgrîn fewngofnodi arferol Prifysgol Caerdydd. Rhowch eich cyfeiriad ebost a'ch cyfrinair Prifysgol Caerdydd fel arfer a chlicio Log in.
- Bydd angen i'r rhai sydd ddim â chyfeiriad e-bost Prifysgol Caerdydd (a dim ond enw defnyddiwr) nodi'r enw defnyddiwr ac yna '@cardiff.ac.uk'.
- Os ydych chi wedi sefydlu dull MFA o'r blaen, ar ôl mewngofnodi'n llwyddiannus, cewch eich tywys i dudalen Hanes Mewngofnodi ble gallwch adolygu'r dulliau MFA yr ydych eisoes wedi'u gosod hyd yma. Cliciwch ar Add method gan fynd i gam 5. Fel arall, gofynnir ichi roi mwy o wybodaeth. Cliciwch Next.
- Byddwch yn dod i dudalen o'r enw Keep your account secure. Cliciwch I want to set up a different method ar y gwaelod.
- Yn y rhestr o ddulliau sy'n ymddangos, dewiswch Phone (neu dewiswch Alternate phone os nad yw'r ffôn ar gael) Cliciwch Add.
- Rhowch rif ffôn y gall Microsoft eich ffonio arno i gwblhau proses gymeradwyo awtomataidd. Dewiswch y wlad briodol o'r gwymplen, a theipio'r rhif ffôn rydych chi wedi'i ddewis.
- Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn sicrhau y byddwch yn gallu ymateb yr alwad gan Microsoft ar ba bynnag rif a ddewiswch. Cofiwch, os na allwch gael mynediad i'ch dyfais ffôn clyfar, ni fyddwch yn gallu ateb galwadau a wneir iddo.
- Noder: Cyn gynted ag y byddwch yn clicio Next, bydd Microsoft yn ceisio ffonio'r rhif rydych wedi'i roi ar unwaith. Sicrhewch y byddwch yn gallu ateb ac ymateb i'r alwad ffôn awtomataidd hon mewn modd amserol.
- Cliciwch Next a bydd Microsoft yn ceisio ffonio'r rhif ffôn rydych chi wedi'i roi ar unwaith.
- Atebwch yr alwad, a fydd yn dod o rif o Unol Daleithiau America, a byddwch yn cael eich cyfarwyddo gan ysgogiad llais awtomataidd i bwyso'r allwedd Hash (Saesneg y DU) neu'r Bunt (Saesneg UDA) sy'n cyfeirio at yr allwedd #. Ar ôl pwyso allwedd #, gallwch roi'r ffôn i lawr.
- Bydd Microsoft yn cadarnhau bod yr alwad wedi'i hateb a bydd y rhif ffôn wedi'i gofrestru fel y dull diofyn ar gyfer cwblhau MFA ar eich cyfrif. Cliciwch Done.
- Byddwch chi’n cael eich tywys yn ôl i dudalen My Sign-ins lle gallwch chi adolygu'r rhestr ddiweddaraf o ddulliau MFA rydych chi wedi'u creu hyd yn hyn.
Help a chymorth
Os na allwch ddefnyddio'r dull Dilysu Aml-Ffactor (MFA) cynradd neu eilaidd o'ch dewis, gallwch gael mynediad dros dro i sefydlu dull newydd eich hun heb gysylltu â Chymorth TG.
Sylwch fod y gwasanaeth hwn ar gael i fyfyrwyr israddedig a myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir yn unig. Dylai staff a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig trefnwch apwyntiad ar gyfer cymorth dros y ffôn gyda Dilysu Aml-Ffactor (MFA).
Myfyrwyr
Os oes angen cymorth pellach, trefnwch apwyntiad ar gyfer cymorth dros y ffôn gyda Dilysu Aml-Ffactor (MFA).
Staff
Os oes angen cymorth pellach, trefnwch apwyntiad ar gyfer cymorth dros y ffôn gyda Dilysu Aml-Ffactor (MFA).