Dilysu Aml-ffactor (MFA)
Mae Dilysu Aml-Ffactor yn ychwanegu haen ychwanegol o ddiogelwch mewngofnodi i'ch cyfrif prifysgol drwy sicrhau mai chi sy'n mewngofnodi ar ddyfais arall.
Cofiwch sicrhau bod y dull dewisol o Ddilysu Aml-Ffactor, fel yr ap ‘Authenticator’ ar eich ffôn, ar gael pryd bynnag y byddwch chi’n mewngofnodi.
Angen rhagor o gymorth? Darllenwch ein canllawiau:
- Sefydlu dulliau o Ddilysu Aml-Ffactor. Dylech osod o leiaf ddau ddull o Ddilysu Aml-Ffactor fel y gallwch chi gael mynediad i'ch cyfrif os nad oes modd ichi ddefnyddio eich dull Dilysu Aml-Ffactor cyntaf
- newid eich ffôn, rhif cyswllt, porwr neu ddyfais
- defnyddio Dilysu Aml-Ffactor pan nad oes data neu gysylltiad signal ffôn gennych chi
Os nad oes modd ichi ddefnyddio'r dull Dilysu Aml-Ffactor cynradd neu eilaidd o'ch dewis, mae modd cael mynediad dros dro i sefydlu eich dull newydd eich hun heb gysylltu â'r Ddesg Gwasanaeth TG.
Sylwch fod y gwasanaeth hwn ar gael i fyfyrwyr israddedig a myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir yn unig. Dylai staff a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig trefnwch apwyntiad ar gyfer cymorth dros y ffôn gyda Dilysu Aml-Ffactor (MFA).