Ewch i’r prif gynnwys

Diogelwch a chysylltiadau brys

Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch chi roi gwybod i ni am fater diogelwch.

Diogelwch y Brifysgol

Ar gyfer materion argfywng a materion nad ydynt yn rhai brys, cysylltwch â’r Ystafell Reoli, ar agor am 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos.

Ystafell Rheoli Diogelwch

Pryderon am les myfyrwyr

Os ydych yn poeni am fyfyriwr, cwblhewch y ffurflen adrodd a chymorth. Byddwn yn ateb eich ymholiad, lle bo modd, o fewn 1 diwrnod gwaith rhwng 10.00 a 16.00, ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc) yn ystod y tymor yn unig. Y tu allan i'r oriau hynny, cysylltwch â'r Tîm Diogelwch ar +44 (0)29 2087 4444.

    Os byddwch yn anfon ebost atom gyda phryder ar ôl 16:00, sylwch ni fydd hwn yn cael sylw tan y diwrnod gwaith canlynol.
  • Os ydych chi’n credu bod y myfyriwr dan sylw mewn perygl ar unwaith neu’n berygl i eraill, ffoniwch 999.
  • Os yw'n byw mewn un o neuaddau preswyl y Brifysgol, ffoniwch y Tîm Diogelwch ar +44 (0)29 2087 4444.
  • Os yw'n byw mewn tŷ preifat, cysylltwch â'r Rheolwr Preswylfeydd.

Rhoi gwbod am bryder

Heddlu

Gallwch ffonio’r heddlu lleol mewn dwy ffordd:

  • Ar gyfer galwadau brys, ffoniwch 999.
  • Ar gyfer galwadau nad ydynt yn argyfwng, ffoniwch 101.

Os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw ac angen ffonion Heddlu De Cymru mewn argyfwng, gallwch ffonio system minicom y lluoedd neu defnyddiwch wasanaeth neges destun argyfwng.

Rhif y minicom yw 01656 656980.