Ymholiadau cwrs
Bydd ein tîm Ymholiadau yn gallu eich helpu chi gyda chwestiynau am astudio gyda ni neu am un o'n cyrsiau.
Rydyn ni yma i'ch helpu gyda chwestiynau cyffredinol sydd gennych chi am astudio ym Mhrifysgol Caerdydd a'n cyrsiau.
Mae nifer o ffyrdd i gysylltu â ni.
Anfonwch neges i ni
Cysylltwch â ni gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein. Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl i'n helpu i gyfeirio eich ymholiad at y tîm cywir.
Siaradwch â'n tîm
Pan fydd ein cyfleuster sgwrsio ar gael, bydd eicon sgwrsio glas yn ymddangos ar gornel dde isaf y sgrin. Bydd gennych yr opsiwn i:
- gael sgwrs fyw gydag aelod o staff
- anfon neges at lysgennad myfyrwyr drwy UniBuddy
- dod o hyd i atebion i gwestiynau syml gan ddefnyddio ein sgwrsfot
Nid yw ein cyfleuster sgwrsio byw ar gael yn ystod cyfnodau prysur.
Ffoniwch ni
Mae ein cynghorwyr ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, 09:00 tan 16:30, ac eithrio gwyliau banc.
Ymholiadau israddedig
Myfyrwyr o'r DU
Gall ein Swyddfa Recriwtio Israddedigion ateb cwestiynau am astudio gyda ni fel myfyriwr yn y DU a darparu gwybodaeth a chyngor cyffredinol.
Os yw'ch ymholiad yn un brys, gallwch ffonio'r tîm ar +44 (0)29 2087 4455.
Myfyrwyr rhyngwladol
Gall ein Swyddfa Ryngwladol ateb cwestiynau am astudio gyda ni fel myfyriwr rhyngwladol neu o'r UE a darparu gwybodaeth a chyngor cyffredinol.
Os yw'ch ymholiad yn un brys, gallwch ffonio'r tîm ar +44 (0)29 2087 4432.
Ymholiadau ôl-raddedig
Myfyrwyr o'r DU
Gall ein Swyddfa Recriwtio Ôl-raddedig ateb cwestiynau am astudio gyda ni fel myfyriwr yn y DU a darparu gwybodaeth a chyngor cyffredinol.
Os yw'ch ymholiad yn un brys, gallwch ffonio'r tîm ar +44 (0)29 2087 4455.
Myfyrwyr rhyngwladol
Gall ein Swyddfa Ryngwladol ateb cwestiynau am astudio gyda ni fel myfyriwr rhyngwladol neu o'r UE a darparu gwybodaeth a chyngor cyffredinol.
Os yw'ch ymholiad yn un brys, gallwch ffonio'r tîm ar +44 (0)29 2087 4432.
Os oes gennych chi ymholiad penodol yn ymwneud ag un o'n hysgolion academaidd, gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol.