Ymgeiswyr a deiliaid cynigion
Rydyn ni yma i helpu os bydd gennych chi gwestiynau am gais rydych chi wedi'i wneud ar gyfer un o'n cyrsiau neu ein neuaddau preswyl.
Bydd ein timau Derbyn Myfyrwyr yn gallu helpu gyda chwestiynau am sut i gyflwyno cais neu am gais presennol. Gweler ein tudalennau 'Ymgeisio' i gael gwybodaeth ar y cwestiynau mwyaf cyffredin.
Cysylltwch â'r tîm Preswylfeydd am gymorth gydag ymholiad am ein llety. Dylai myfyrwyr rhyngwladol gysylltu â'n tîm rhyngwladol am gymorth.
Anfonwch neges i ni
Sgwrsio byw
Mae ein gwasanaeth sgwrsio ar y we yn ei gwneud hi'n bosibl siarad ag aelod o'n tîm ar-lein. Pan fydd ein cyfleuster sgwrsio ar gael, bydd eicon sgwrsio glas yn ymddangos ar gornel dde isaf y sgrin.
Bydd dewis gennych chi:
- sgwrsio’n fyw gydag aelod o staff
- anfon neges at lysgennad myfyrwyr trwy UniBuddy
- dod o hyd i atebion i gwestiynau syml gan ddefnyddio ein sgwrsfot
Sylwch nad yw ein cyfleuster sgwrsio byw ar gael yn ystod cyfnodau prysur.
Ffoniwch ni
Os yw eich ymholiad yn un brys, gallwch chi gysylltu â’r tîm Derbyn Myfyrwyr drwy ffonio +44 (0)29 2087 9999.
Mae ein hymgynghorwyr ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, 08:30 i 17:00, ac eithrio gwyliau banc.
Os ydych chi’n ymgeisydd, gwnewch yn siŵr bod gennych chi rif eich cais wrth law.
Sylwer, rhaid cyflwyno unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud ag adborth, cwynion ac apeliadau yn ysgrifenedig.
Ymholiadau rhyngwladol
Os oes gennych chi gwestiwn am eich cais neu gynnig, cysylltwch â'n tîm Rhyngwladol yn uniongyrchol ar:
International
Ymholiadau am lety
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein llety, gallwch gysylltu â'n tîm Preswylfeydd
Swyddfa Preswylfeydd
Darllenwch ragor o wybodaeth am ein hopsiynau llety a bywyd mewn llety myfyrwyr.