Ewch i’r prif gynnwys

Adrodd a Chymorth: Hygyrchedd

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i wneud ei gwefannau a’i hapiau ar gyfer dyfeisiau symudol yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae'r datganiad hwn yn cyfeirio at ein tudalennau Adrodd a Chymorth: reportandsupport.cardiff.ac.uk a adroddachymorth.caerdydd.ac.uk. Mae hwn yn blatfform trydydd parti i fyfyrwyr a staff allu adrodd ar achosion o fwlio, aflonyddu, gwahaniaethu a chamymddwyn rhywiol.

Caiff y platfform ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd, ond mae'n cael ei gynnig gan Culture Shift, sy'n golygu nad yw pob agwedd ar y platfform o dan ein rheolaeth.

Statws cydymffurfio

Mae'r ap hwn wedi'i ddatblygu gan Culture Shift mewn modd sy’n cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, y fersiwn 2.1 i'r safon AA, yn unol â chanllawiau llywodraeth y DU.

Rydym ni am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r gwasanaeth hwn. Mae hyn yn golygu y dylech chi allu:

  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan drwy ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • neidio i'r prif gynnwys gan ddefnyddio llywio bysellfwrdd
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan drwy ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • defnyddio darllenwyr sgrîn
  • defnyddio ystod o ddyfeisiau i gyrchu’r gwasanaeth Adroddiad a Chymorth gan Culture Shift

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 18 Hydref 2024.

Adborth a manylion cyswllt

I roi gwybod am unrhyw achosion pellach o ddiffyg cydymffurfio a gofyn am wybodaeth a chyd-destun y tu hwnt i gwmpas y gyfarwyddeb, e-bostiwch web@caerdydd.ac.uk.

Y weithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (‘y rheoliadau hygyrchedd’).

Os nad ydych yn fodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb.