Y porth swyddi: Hygyrchedd
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i wneud ei gwefannau a’i hapiau ar gyfer dyfeisiau symudol yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r wefan a’r ap ar gyfer dyfeisiau symudol sy’n defnyddio Infinite BrassRing (VPAT® fersiwn 2.4 (diwygiedig)). Dyma gymhwysiad trydydd parti, ac yn ein hachos penodol ni, porth swyddi Prifysgol Caerdydd neu wasanaeth recriwtio ar-lein Prifysgol Caerdydd yw’r hyn rydym yn ei alw’n aml.
Statws cydymffurfio
Mae’r cymhwysiad hwn yn cydymffurfio’n rhannol â lefel AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe [2.1 neu 2.2] oherwydd yr achos(ion) o ddiffyg cydymffurfio a/neu’r eithriadau a restrir isod.
Cynnwys anhygyrch
Problemau o ran 1.4.4 Ailfeintio’r Testun
Mae hyn yn sicrhau bod modd mwyhau testun gweledol a rheolyddion testun er mwyn i ddefnyddwyr â nam ar y golwg allu eu darllen yn uniongyrchol heb ddefnyddio technoleg gynorthwyol megis chwyddwr sgrîn. Rhaid i destun allu cael ei fwyhau hyd at 200% heb golli cynnwys na swyddogaeth.
- Wrth chwyddo mewn 250%:
- Nid yw’r dolenni troedyn ar gael bellach. Er mwyn gweld ‘Chwilio am swydd’, ‘Hafan Caerdydd’, ‘Mewngofnodi’ a ‘Dewiswch eich opsiwn mewngofnodi’, rhaid i ddefnyddwyr fynd at y ddewislen byrger yn lle.
Problemau o ran 1.4.10 Ail-lifo
Mae peidio â dylunio gwefannau ymatebol yn atal defnyddwyr rhag mwyhau testun ar wefan a’i ddarllen mewn un golofn heb orfod sgrolio i fwy nag un cyfeiriad. Mae problemau hefyd yn eu hatal rhag gweld y dudalen ar ddyfais symudol ac yn gwneud rhai o’r cynnwys a’r dolenni’n anweladwy neu’n anhygyrch iddynt.
- Wrth chwyddo mewn 400% neu edrych ar ddyfais symudol (320x256):
- Nid yw’r dolenni troedyn ar gael bellach. Er mwyn gweld ‘Chwilio am swydd’, ‘Hafan Caerdydd’, ‘Mewngofnodi’ a ‘Dewiswch eich opsiwn mewngofnodi’, rhaid i ddefnyddwyr fynd at y ddewislen byrger yn lle.
- Dim ond yn rhannol weladwy y mae ‘Prifysgol Caerdydd Hysbysiad Preifatrwydd Staff ac Ymgeiswyr’ ar waelod y dudalen. Mae angen i ddefnyddwyr hofran dros yr elipsis i weld enw llawn y ddolen.
- Wrth fynd at hysbyseb swydd yn uniongyrchol o’r canlyniadau chwilio, nid yw’r botwm ‘Yn ôl’ (sy’n mynd yn ôl i’r canlyniadau chwilio) ar gael bellach.
- Nid yw’r amserlenni a ddefnyddir ym mhob rhan o’r porth na’r cynnwys yn weladwy.
Problemau o ran 1.4.3 Cyferbynnedd (lleiaf)
Rhaid i gyferbyniad lliw elfennau fod yn ddigonol. Mae cyferbyniad lliw gwael yn ei gwneud yn anodd i rywun sy’n colli ei olwg weld y cynnwys yn iawn. Os oes gwahaniaeth mawr rhwng y lliw cefndir a lliw’r blaendir, dylai fod yn llawer haws gweld y gwahaniaeth rhyngddynt.
- Problemau o ran cyferbyniad lliw:
- Pan fydd elfennau dethol yn cael eu hagor, nid yw cyferbyniad lliw’r opsiwn ‘Dewiswch gwestiwn’ yn ddigonol (wrth ffocysu arno a pheidio â ffocysu arno).
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 30 Ebrill 2024.
Roedd defnydd Prifysgol Caerdydd o’r cymhwysiad Infinite BrassRing yn destun archwiliad annibynnol gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth ar ran Gweinidog Swyddfa’r Cabinet, a hynny ar 17 Ebrill 2024.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi gweithio gyda’r cyflenwr trydydd parti Infinite Talent i weithredu nifer o atebion a gwelliannau hygyrchedd a gafodd eu hamlygu yn yr archwiliad. Bydd yn parhau i weithio gyda’r cyflenwr hwn i ddatrys y problemau sy’n cael sylw yn y datganiad hygyrchedd hwn ac mewn unrhyw archwiliadau yn y dyfodol sy’n cael eu trefnu’n fewnol ac yn allanol.
Cafodd y datganiad hwn ei adolygu ddiwethaf ar 30 Gorffennaf 2024.
Adborth a manylion cyswllt
I roi gwybod am unrhyw achosion pellach o ddiffyg cydymffurfio a gofyn am wybodaeth a chyd-destun y tu hwnt i gwmpas y gyfarwyddeb, e-bostiwch web@caerdydd.ac.uk.
Y weithdrefn orfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (‘y rheoliadau hygyrchedd’).
Os nad ydych yn fodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb.