Ewch i’r prif gynnwys

Hybu iechyd ac adferiad

Rydyn ni’n cynnal ymchwil cymhwysol sy'n ceisio galluogi a hyrwyddo byw’n iach i'r rhai sy'n dioddef o amrywiaeth o gyflyrau, afiechydon ac anafiadau acíwt a chronig.

Mae ein thema ymchwil yn defnyddio dull rhyngddisgyblaethol i ddatblygu gwell dealltwriaeth o opsiynau iechyd a gofal, ar y cyd â hyrwyddo ffyrdd iach o fyw. Mae hyn yn cynnwys ymchwil sylfaenol i astudio'r mecanweithiau sydd wrth wreiddiau cyflyrau iechyd, datblygu ymyriadau i drosi datblygiadau mewn dealltwriaeth sylfaenol yn driniaethau newydd, a threialon clinigol i brofi ymyriadau.

Mae ein hymchwil sylfaenol yn canolbwyntio ar fiofecaneg a niwroffisioleg, ac yn defnyddio technolegau blaengar gan gynnwys recordio symudiadau optoelectroneg a seiliedig ar synhwyrydd, melinau traed wedi’u hofferynnu a gwrth-ddisgyrchiant, electromyograffeg arwyneb deubegynol a dwysedd uchel, symbylu’r nerf berifferol, symbylu magnetig trawsgreuanol ac electroenceffalograffi. Rydyn ni’n datblygu ac yn gwerthuso asesiadau clinigol, ymyriadau a thechnolegau newydd i wella rhwystro a rheoli cyflyrau iechyd gydol oes. Mae dulliau o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd wedi'u gwreiddio yn ein hymchwil.

Portffolio ymchwil

Mae ein tîm uchel ei sgiliau'n gweithio ar draws proffesiynau iechyd cyswllt a bydwreigiaeth gyda phrofiad mewn ymchwil ansoddol, meintiol a dulliau cymysg. Mae ein hymchwil yn cynnwys datblygu a phrofi ymyriadau cymhleth a deall mecanweithiau clefydau a thriniaeth. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda grwpiau defnyddwyr ac elusennau i wneud y gorau o ymgysylltu ac effaith.

Mae meysydd ymchwil cyfredol yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • asesiadau biofecanyddol o unigolion gyda chyflyrau cyhyrysgerbydol i ddeall mecanweithiau clefyd a thriniaeth.
  • datblygu ymyriadau sy’n canolbwyntio ar gefnogi hunanreolaeth a gweithgaredd corfforol ar gyfer unigolion â chyflyrau hirdymor – mae hyn ar gyfer oedolion a phlant sydd â phoen cyhyrysgerbydol, anhwylderau cardiorespiradol neu gyflyrau niwrolegol
  • profi diogelwch, effeithiolrwydd clinigol a/neu gost ymyriadau newydd yng ngofal mamolaeth a beichiogrwydd
  • Edrych ar ddefnydd o dechnoleg ddigidol mewn lleoliadau adsefydlu a chartref i gyfoethogi technegau asesu a thriniaeth

Cydweithio

Mae ein haelodau'n ymgysylltu'n weithredol gyda pholisi iechyd, datblygu strategaeth, arloesi clinigol ac addysgol yng Nghymru a thu hwnt. Mae gennyn ni brosiectau cydweithredol ym mhob rhan o’r DU ac mewn canolfannau allweddol yn yr UE ac yn fyd-eang.

Mae aelodau o'r thema ymchwil yn ymrwymo i gymorth cymheiriaid a mentora, ac adeiladu capasiti a gallu yn y rhwydwaith ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.

Ceisiadau PhD

Croesawir ceisiadau PhD ar bynciau sy'n ymdrin yn benodol â diddordebau ymchwil aelodau'r thema. Rydyn ni'n annog myfyrwyr PhD a doethuriaeth broffesiynol i fod yn gyfranogwyr gweithredol at y thema ymchwil drwy gyflwyno eu hymchwil a dod i ddigwyddiadau thema.

Gwnewch gais am PhD mewn Gwyddorau Gofal Iechyd

Arweinydd thema

Yr Athro Kate Button

Yr Athro Kate Button

Pennaeth Ymchwil & Arloesi

Email
buttonk@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 206 87734

Dirprwy arweinydd thema

Dr Nichola Gale

Dr Nichola Gale

Uwch-Ddarlithydd: Ffisiotherapi

Email
galens@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 206 87758

Prosiectau ymchwil cyfredol

Prifysgol Caerdydd yn lansio llwyfan i helpu rheoli poen cefn yn y gweithle ac wrth weithio gartref

Llwyfan digidol ar-lein yw BACK-on-LINETM sydd wedi'i gynllunio i helpu pobl i reoli poen gwaelod y cefn yn y gweithle ac wrth weithio gartref.

Water birth

Establishing the safety of water birth for mothers and babies

The POOL study is evaluating the safety of water births for mothers and babies.

An arm with an IV

Home-based activity for people with lung cancer and established weight loss

Physical activity can improve quality of life for lung cancer patients struggling with weight loss.

Old people in gym

Using Huntington’s disease clinics to promote physical activity

Exploring how physical activity for people with Huntington’s disease be promoted within specialist HD clinics.

zebra crossing

Road safety education for children with developmental coordination disorder (DCD)

Primary school aged children perform more accurately in first person road crossing tasks.

Physio talking to patient

Knee conditions: evaluating movement toolkit interventions

Integrating a novel portable toolkit into physiotherapy interventions.